Skip to main content

PartneriaethauPobl

Anelu am Wobr Earthshot

21 Hydref 2020

Wrth feddwl am achub ein planed, mae Adam Dixon yn credu ei fod yn gallu helpu. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd (BEng 2015, MPhil, 2016) fe sefydlodd Phytoponics. Mae’r cwmni’n cynllunio ac yn cynhyrchu systemau tyfu hydroponig Meithrin Dŵr Dwfn (DWC) sy’n cynhyrchu cnydau uchel eu cynnyrch a hefyd yn lleihau’r defnydd o dir, dŵr ac allyriadau carbon yn fawr. Mae Pencampwr Amgylcheddol Ifanc y Ddaear y CU 2017 wedi cyhoeddi y bydd yn cystadlu am Wobr Earthshot, a gyhoeddwyd gan Syr David Attenborough a’r Tywysog William. Yma, mae Adam yn sôn am ei fusnes, tyfu cynnyrch yn gynaliadwy, a pham ei fod yn falch i fod yn mynd am wobr amgylcheddol fwya’r byd.

“Dechreuodd Phytoponics fel cysyniad ym mis Ionawr 2016. Roeddwn i’n astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, a chefais syniad i ddyfeisio math newydd o fodiwl tyfu hydroponig cost isel (yr Hydrosac) y gellid ei ddefnyddio fel llwyfan ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy addas i’r farchnad.

“Sefydlais y cwmni ar y cyd â Luke Parkin, i helpu i ddatblygu’r ddyfais Hydrosac. Drwy hunan-gyllido, roedd modd i ni ddatblygu a phrofi’r prototeipiau Hydrosac cyntaf y flwyddyn honno.

“Yn 2017 roeddwn yn un o chwe unigolyn ar draws Ewrop i ddod yn Bencampwr Ifanc y Ddaear y Cenhedloedd Unedig.

“Symudwch ymlaen dair blynedd, ac rydym ni bellach ar y bedwaredd genhedlaeth o gynlluniau ar gyfer ein modelau tyfu gydag amrywiaeth o systemau Meithrin Dŵr Dwfn penodol a thystiolaeth eu bod yn gweithio mewn amgylcheddau tyfu masnachol.

Adam, ferch Jasmine, 8, y ffrwythau’r ddraig hydroponig.

“Rydym ni mewn lle da i wneud cynnig am wobr Earthshot. Bûm i ar raglen PM BBC Radio 4 yn ddiweddar yn siarad am fy ngweledigaeth i gael cynnyrch ffres toreithiog a mwy cynaliadwy.

“Roedd yn wych cael siarad am y gwaith cyffrous a’r datblygiadau gyda Phytoponics ers cael dyfarniad y CU, a rhannu fy nyfeisiau newydd a sut y byddan nhw’n dylanwadu ar dyfu masnachol i fynd i gyfeiriad cynaliadwy.

“Mae Brexit a phandemig COVID-19 ill dau wedi dangos i ni pa mor aflonyddgar y gall digwyddiadau byd-eang fod, ac wedi pwysleisio’r canlyniadau o ran cynhyrchu bwyd a chymdeithas. Mae angen i ni baratoi gystal ag y gallwn ar gyfer unrhyw siociau yn y dyfodol, ac ar yr un pryd leihau a hyd yn oed wyrdroi newid yn yr hinsawdd a difrod amgylcheddol.

“Gall arloesedd helpu’r byd i gyflawni hyn, a dyna pam fod gwobr Earthshot mor bwysig yn cefnogi ffyrdd a all ein helpu i atal newid yn yr hinsawdd, a hefyd fwydo poblogaeth y byd a diogelu’r amgylchedd.

“Yn sicr byddaf yn ymgeisio am Earthshot i helpu i dyfu fy nyfeisiadau i lefel effaith masnachol lle gall Phytoponics leihau tir, dŵr ac allyriadau carbon yn sgil cynhyrchu bwyd a thrawsnewid amaethyddiaeth ymhellach at gynaladwyedd ac economi gylchol.

“Byth ers i mi wylio Syr David Attenborough yn cyflwyno rhaglen ddogfen y BBC Life of Plants, rwyf i wedi fy ysbrydoli i dyfu planhigion a diogelu’r amgylchedd.

“Byddai’n gylch cyflawn perffaith yn y dyfodol os caf i gyfle i’w gyfarfod a helpu i liniaru effaith y ddynoliaeth ar y Ddaear, a chaniatáu ffyniant dynol ar yr un pryd drwy arloesedd.

“Diolch i’r gwaith caled gyda fy nghyd-sylfaenydd Luke Parkin, rwyf i bellach yn arwain cylch buddsoddi Cyfres A am £1m i dyfu ein gweledigaeth, ac rydym ni wedi denu cefnogwyr dylanwadol ymhlith y tîm a’r bwrdd, yn cynnwys Victor Lambert, cyn Reolwr Gyfarwyddwr Hortimax, a David Kremer, perchennog brand Rubik’s Cube a llawer mwy. Cyfnod cyffrous mewn byd ansicr.”

Adam Dixon, Cyd-Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Technegol, Phytoponics.