Skip to main content

Adeiladau'r campws

Sbarduno Arloesedd

15 Hydref 2020

Mae COVID-19 a Brexit yn peri cwestiynau cymdeithasol mawr. Gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol fod o gymorth i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer taclo’r heriau byd-eang hyn. Yr wythnos nesaf, bydd gweminar yn trafod sut mae SPARK – partneriaeth o 11 o grwpiau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol sy’n arwain y byd – yn gweithio gyda sefydliadau i greu gwerth drwy ei fodel aelodaeth unigryw.

Mae “Adeiladu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol: dull ar sail gwerthoedd o weithio gyda sefydliadau allanol” yn rhan o Ddigwyddiad Blynyddol Aspect 2020 – cyfres o gyflwyniadau ar-lein sy’n ymchwilio sut i adeiladu ffyniant a lles drwy arloesedd y gwyddorau cymdeithasol.

Rhwydwaith yw Aspect (Platfform y Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfer Entrepreneuriaeth, Masnacheiddio a Thrawsffurfio) ar gyfer sefydliadau sydd am fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd masnachol a busnes sy’n deillio o ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.

Athro Chris Taylor

Bydd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Dave Braines, Prif Swyddog Technegol Technolegau sy’n dod i’r Amlwg yn IBM, a Dr Andrew Lahy, Cyfarwyddwr Dylunio Datrysiadau LMS yn DSV Panalpina i drafod sut mae SPARK yn creu gwerth i sefydliadau allanol ledled bob sector.

Dywedodd yr Athro Taylor: “Mae Prifysgol Caerdydd yn creu parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol (SPARK) mewn adeilad newydd pwrpasol 12,000sqm.m yng nghanol ei champws Arloesedd. Yn hwb y gwyddorau cymdeithasol a chydweithio, bydd ein canolfannau ymchwil ryngddisgyblaethol gwyddorau cymdeithasol penigamp yn dwyn ynghyd staff ymgysylltu â busnesau’r Brifysgol a datblygu masnachol, ynghyd â sefydliadau allanol.

“Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu ein dull o ran creu gwerth allanol i sefydliadau allanol ledled bob sector, drwy fodel aelodaeth SPARK ble bydd partneriaid allanol yn cael eu gwahodd i wneud cyfraniad sy’n seiliedig ar werth, ac yn cael buddion aelodaeth pellach yn ôl.”

Dywedodd Dr Lahy, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydliad PARC ar gyfer Gweithgynhyrchu, Logisteg a Rhestrau Eiddo, Prifysgol Caerdydd: “Byddaf yn egluro sut mae DSV-Panalpina yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ers 2013, gan adnabod a pharatoi busnesau ar gyfer newidiadau gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi yn y dyfodol. Mae’r bartneriaeth rhwng DSV-Panalpina a Phrifysgol Caerdydd wedi esblygu i fod yn Sefydliad PARC penigamp, sy’n dwyn ynghyd myfyrwyr, pobl broffesiynol y diwydiant ac ymchwilwyr i daclo cwestiynau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mwy ynghylch Gweithgynhyrchu, Logisteg a Rhestrau Eiddo.

Y cartref SPARK

“Mae disgwyl newidiadau mawr yn y meysydd hyn dros y degawd nesaf ac i gadwyni cyflenwi byd-eang, wrth i gwmnïau symud o gadwyni cyflenwi hirach a syth, i fodelau cylchol byrrach. Mae’r symudiad hwn yn faes ymchwil cyffrous i wyddonwyr cymdeithasol sydd am ddeall yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar economïau, cymdeithas a’r amgylchedd. Bydd canolfan RemakerSpace newydd Sefydliad PARC, sydd i fod i agor ar ddechrau 2021, yn ceisio cefnogi a hyrwyddo ail-weithgynhyrchu a’r symudiad at yr economi cylchol.”

Dywedodd Dave Braines, Cyfarwyddwr Ymchwil IBM, y DU: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i SPARK. Yn ystod y gweminar, byddaf yn defnyddio profiadau ymarferol o weithio ar y cyd â gwyddonwyr cyfrifiadureg, gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr pwnc o Brifysgol Caerdydd drwy’r Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch (CSRI) dros y blynyddoedd diweddar. Byddaf yn trafod sut rwy’n credu bydd y gweithgareddau cydweithredol hyn, a’u heffaith, hyd yn oed yn well yn y dyfodol oherwydd y fenter SPARK a’r gefnogaeth a’r cyfleoedd ychwanegol fydd yn cael eu darparu.”

Bydd SPARK yn symud i Gampws Arloesedd Caerdydd pwrpasol yn 2021. I ddysgu mwy, ymunwch â’r gweminar ddydd Mawrth nesaf (20 Hydref) o 11am tan hanner dydd. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth ar weithio gyda SPARK, ewch i www.cardiff.ac.uk/cy/spark neu ebostiwch spark@caerdydd.ac.uk