Skip to main content

Adeiladau'r campws

Llunio pencadlys arloesedd 

5 Gorffennaf 2021

Gall dewis y dodrefn, y gorffeniadau a’r gosodiadau cywir ar gyfer adeilad ysbrydoli creadigrwydd, gan roi bod i syniadau. Mae Prifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth gyda BOF ym  Mhen-y-bont ar Ogwr i ddodrefnu sbarc | spark – ‘Cartref Arloesedd’ y Brifysgol yn y dyfodol, ac mae disgwyl iddo agor y gaeaf hwn.  Ac fel sy’n gweddu i ganolfan arloesedd, hyblygrwydd fydd yr allweddair. Dyma’r hyn a esboniodd Kate Lane, Rheolwr Pontio sbarc | spark y Brifysgol.  

“Yn y ras i’w gwblhau, mae adeilad sbarc | spark yn go agos at y llinell derfyn. Mae’r gwaith mecanyddol a thrydanol yn ogystal â’r plymio wrthi’n cael ei gwblhau; bydd y gosodiadau, y ffitiadau a’r dodrefn yn mynd i mewn i’r adeilad yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.  

Ymgymeriad mawr yw hyn. Bydd pedwar cant o ymchwilwyr a staff y gwyddorau cymdeithasol yn symud i sbarc | spark o’u swyddfeydd gwasgaredig, ac mae llawer ohonyn nhw mewn adeiladau Fictoraidd hŷn ar hyd Plas y Parc. Mae tua 13 o grwpiau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol wedi dod at ei gilydd fel SPARC – y parc ymchwil ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol.  

Ar ôl iddyn nhw symud i’w cartref newydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd, yn y pen draw bydd 400 o entrepreneuriaid, buddsoddwyr, sefydliadau a myfyrwyr mentergarwch newydd yn ymuno â nhw wrth i’r prosiect aeddfedu ac wrth i’r economi adfer a thyfu yn dilyn y pandemig.  

Bu Adran Ddylunio BOF yn cydweithio â’r Brifysgol a rhanddeiliaid allweddol sbarc, gan gymryd rhan mewn cyfarfodydd datblygu prosiectau ar-lein rheolaidd a chyfrannu at weithdai dylunio mewnol rhithwir.  

Diolch i blatfformau yn ystod y cyfnod cloi a rhai ar y we o bell, roedd BOF yn gallu arddangos model 3D ‘byw’ (dodrefn a deunydd pensaernïol) yn rhwydd trwy Microsoft Teams, gan alluogi’r Brifysgol i weld y prosiect mewn 3D yn hytrach na thrwy olwg cynllun 2D o’r lloriau yn unig, gan ein helpu i weld yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio yn yr adeilad. 

Mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol wrth inni benderfynu ar y dodrefn ar gyfer BOF a Chaerdydd. Cynigiwyd partneriaid cyflenwi a fetiwyd ac roedd y rhain yn cydymffurfio â’r gofynion lleol pryd bynnag yr oedd hynny’n bosibl ar gyfer prosiect sbarc, ac roedd hyn wedi helpu i hwyluso’r broses ddodrefnu.  

Roedd hyblygrwydd hefyd yn ffactor o bwys wrth ddewis cynnyrch. Roedd BOF wedi cyd-fynd â’n dyheadau o ran creu lleoedd gwaith sy’n gwbl ystwyth a hyblyg – ymhlith yr enghreifftiau da y mae cydrannau a rennir a sawl ystod o gynnyrch modiwlaidd. 

Does dim dwywaith bod hyn yn helpu i greu lleoedd ‘ystwyth a hyblyg’, lle mae modd ailosod dodrefn i newid diwyg a swyddogaeth ystafelloedd a pheri bod modd eu defnyddio ar gyfer nifer o swyddogaethau gwahanol. 

Fel y mae’r lluniau o’r dodrefn yn dangos yn glir yn y darn hwn, cartref ysbrydoledig fydd sbarc fydd yn ein helpu i ddyfeisio syniadau mawr yfory.  

Nod y penseiri adeiladu, Hawkins\Brown, yw creu lleoliad sy’n ein hysgogi ac sy’n dwyn ynghyd denantiaid masnachol ac academyddion prifysgol fel y gallan nhw gydweithio a rhwydweithio â’i gilydd. 

Mae sbarc | spark yn cynnig lle yn ogystal â chefnogaeth i gyflymu twf wrth ddechrau busnesau ac i greu newidiadau sylweddol yn y dasg o hyrwyddo ymchwil ryngddisgyblaethol effeithiol a gweithgareddau arloesedd trosiadol.   

Mae hyblygrwydd wrth galon y weledigaeth. Mae angen mathau gwahanol iawn o le ar ein gweithgarwch yn yr adeilad – gan gynnwys lleoedd tawel ar gyfer y labordy ymddygiadol ac yna’r llawr gwaelod sy’n llawn bwrlwm. Mae angen i’r adeilad ymateb i’r galwadau hynny, ond hefyd mae’n rhaid iddo greu lloriau sy’n hyblyg y bydd modd eu hailosod a’u hailraglennu.  

Rydyn ni wedi dylunio’r adeilad fesul gweithgarwch yn hytrach na fesul adran, gan ddefnyddio’r arwyddair ‘gweithio ar sail gweithgarwch’. Bydd y lleoedd mwy preifat a diogel ymhellach i ffwrdd o’r grisiau Oculus sy’n goron ar y cyfan, a bydd y cynllun agored / parthau trafod mewn grwpiau llai o bob tu i’r grisiau. 

Mae’n mynd i fod yn adeilad anhygoel i Brifysgol Caerdydd. O’m rhan i, dw i ar bigau’r drain i weld yr adeilad yn agor y gaeaf hwn.” 

Kate Lane, Rheolwr Pontio, sbarc | spark. 

I gael rhagor o fanylion am sbarc | spark, ewch i: https://campaigns.cardiff.ac.uk/innovation-campus