Skip to main content

PartneriaethauPobl

Sut bydd adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd yn meithrin adferiad ôl-bandemig

28 Mehefin 2021

Mae adeilad sbarc newydd Prifysgol Caerdydd yn agor y gaeaf hwn sydd i ddod. Ei nod yw datblygu cydweithrediadau, busnesau, cwmnïau deillio, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol, gan ddod â chynhwysion hanfodol ynghyd i hybu menter yng Nghaerdydd a’r Brifddinas-Ranbarth ehangach ar ôl COVID-19.

Yn cynnwys 17,500 troedfedd sgwâr trawiadol o ofod pwrpasol ar draws pedwar llawr a sylw rhagorol i fanylion yn ei ddyluniadau, comisiynwyd sbarc gan Brifysgol Caerdydd i greu amgylchedd ysgogol lle gall busnesau dyfu drwy ymgysylltu â phopeth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig.

Er mwyn dysgu am yr effaith y bydd Adeilad sbarc yn ei chael ar arloesedd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, siaradodd Business News Wales â Dr. David Bembo, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Caerdydd:

“Rwy’n credu bod sbarc yn cynnig llawer mwy na deorydd arloesol i fusnesau newydd. Brics a morter, gwydr a dur yw’r cynhwysion sylfaenol ond bydd hwn yn ganolfan arloesedd, porth i gael mynediad at dalent ac arbenigedd y Brifysgol at ddibenion cyd-greu syniadau a chyd-gyflwyno ymchwil a datblygiad a chynhyrchion a gwasanaethau’r dyfodol. Ar ôl y pandemig, dylai Sbarc fod yn amgylchedd prysur, ysgogol a chefnogol ac yn llawn diwylliannau a syniadau. Hoffwn i ymwelwyr adael ag ymdeimlad bod hwn yn rhywle lle mae croeso iddynt a lle mae dyheadau uchel yn cael eu gwerthfawrogi a gellir gwireddu uchelgeisiau mawr a’u gwneud yn ddiriaethol.”   

Mae pob uned sydd yn yr adeilad wedi’u dodrefnu’n llawn a’u gwasanaethu’n llawn – gan gynnwys gwasanaethau glanhau, diogelwch a derbynfa, ynghyd â mynediad cardiau allwedd 24/7, cysylltedd rhyngrwyd (cyflymderau hyd at 500 Mbps), gwasanaethau teleffoni, cefnogaeth 24 awr, mannau gwneud te a chaffi ar y safle.

Gallwch wrando ar ein cyfweliad sain llawn â David Bembo isod: