Skip to main content

Postiadau blog diweddaraf

Ystafell lân newydd ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd

Ystafell lân newydd ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd

Postiwyd ar 9 Awst 2021 gan Peter Rawlinson

Mae gwyddonwyr a fydd yn gweithio yn ystafell lân fodern Prifysgol Caerdydd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi ymweld â'u darpar gartref.   Aeth ymchwilwyr o'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ar daith o amgylch y cyfleuster, a fydd yn cynnig peiriant cynhyrchu wafferi 8 modfedd i ymdopi â'r galw cynyddol am ddyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd.  Mae'r ystafell lân yn cael ei darparu gan Ardmac – prif ddarparwr ystafelloedd glân llawn technoleg – ac yn rhan allweddol o Gampws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd sy'n cyfuno ymchwil arloesol, trosglwyddo technoleg, datblygu busnes a mentrau myfyrwyr.  Mae'r Sefydliad wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer ei adeilad a'i gyfarpar newydd, gan gynnwys buddsoddiad o fwy na £30 miliwn yn allanol. Yn ogystal â’r ystafell lan, sy’n 1,500 metr sgwâr, bydd ystafell nodweddu bwrpasol a mannau ôl-brosesu’n galluogi'r Sefydliad i brosesu wafferi hyd at 8 modfedd mewn diamedr ac ehangu ei ystod o wasanaethau sy’n cyrraedd safon y diwydiant.  Wrth ymateb i'r daith o amgylch y safle, dywedodd Chris Matthews, Rheolwr Prosiect Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru): “Dechreuais weithio ar y cynlluniau busnes ddiwedd 2015/dechrau 2016. Felly, mae mynd o weld hyn i gyd ar y bwrdd darlunio i’w gweld yn yr adeilad ei hun yn daith anhygoel mewn gwirionedd. O gymharu hyn â’n cartref presennol yn Adeiladau’r Frenhines, bydd gennym le i ehangu a gwneud pethau mwy a gwell.”   Bydd y Sefydliad ei hun wedi'i leoli mewn Canolfan Ymchwil Drosiadol bwrpasol wrth ymyl yr ystafell lân. Mae'r Ganolfan Ymchwil Drosiadol yn cynnig swyddfeydd newydd, mannau gweithio rhyngweithiol, labordai a lle ar gyfer gweithio mewn grwpiau bach. Cynlluniwyd iddi ddod ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn agosach at ei gilydd a chreu amgylchedd gwaith sy'n denu ac yn cadw ymchwilwyr talentog.  Bydd y Sefydliad yn rhannu'r Campws Arloesedd ar Heol Maendy â Sefydliad Catalysis Caerdydd, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (sbarc) ac Arloesedd Caerdydd@sbarc, sylfaen greadigol ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau deillio.   Bydd gan y Sefydliad fynediad at gyfleusterau a fydd yn cael eu rhannu â’i gymdogion, gan gynnwys awditoriwm o fath TEDx a labordy cynhyrchu i dreialu technolegau gweithgynhyrchu newydd.  Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn sglodion electronig cyflym. A hwythau’n cynnwys elfennau ar bob ochr i'r rhai yng ngrŵp IV o'r tabl cyfnodol (e.e. grwpiau III a V), maent 100 gwaith yn gyflymach na silicon, ac mae ganddynt y gallu i allyrru a synhwyro golau, yr holl ffordd o ran isgoch y sbectrwm, drwy'r rhan weladwy ac i mewn i’r rhan uwchfioled.  Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd eisoes wedi ategu silicon mewn meysydd fel cyfathrebu diwifr, lle mae sglodion a wnaed o gyfuniadau fel galiwm ac arsenig (galiwm arsenid neu GaAs) i'w cael ym mron pob ffôn clyfar, sy’n galluogi cyfathrebu diwifr cyflym iawn ac effeithlon iawn dros rwydweithiau cellog a WiFi.  https://www.youtube.com/watch?v=vnmHmPFkLGI

Tyfu arloesedd cymdeithasol

Tyfu arloesedd cymdeithasol

Postiwyd ar 2 Awst 2021 gan Peter Rawlinson

Mae partneriaeth tair ffordd i dyfu mintys yn fasnachol ar sail nid-er-elw wedi dod â buddion i Uganda wledig. Ffurfiwyd y Model Menter Gymunedol ar gyfer Cynhyrchu Olew Planhigion (CEMPOP) […]

Ymagwedd lân at ddiheintio dŵr

Ymagwedd lân at ddiheintio dŵr

Postiwyd ar 26 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson

Heb os, bydd rhai o heriau mwyaf y ganrif hon yn ymwneud â darpariaeth ddigonol o ddŵr glân. Amcangyfrifir y bydd 5.7 biliwn o bobl yn byw dan fygythiad prinder […]

Pam mynd yn ôl i’r swyddfa?

Pam mynd yn ôl i’r swyddfa?

Postiwyd ar 19 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson

Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o'r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae data'r DU yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr […]

RemakerSpace yn arwain y chwyldro gwyrdd

RemakerSpace yn arwain y chwyldro gwyrdd

Postiwyd ar 12 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson

Bydd canolfan newydd wedi ymrwymo i drwsio, ailddefnyddio ac ailgylchu yn symud i'w gartref yn sbarc | spark, #CartrefArloesedd newydd Prifysgol Caerdydd. RemakerSpace yw canolfan academia/diwydiant nid er elw cyntaf […]

Llunio pencadlys arloesedd 

Llunio pencadlys arloesedd 

Postiwyd ar 5 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson

Gall dewis y dodrefn, y gorffeniadau a’r gosodiadau cywir ar gyfer adeilad ysbrydoli creadigrwydd, gan roi bod i syniadau. Mae Prifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth gyda BOF ym  Mhen-y-bont ar Ogwr i ddodrefnu sbarc | spark – 'Cartref Arloesedd' y Brifysgol yn y dyfodol, ac mae disgwyl iddo agor y gaeaf hwn.  Ac fel sy'n gweddu i ganolfan arloesedd, hyblygrwydd fydd yr allweddair. Dyma’r hyn a esboniodd Kate Lane, Rheolwr Pontio sbarc | spark y Brifysgol.   “Yn y ras i’w gwblhau, mae adeilad sbarc | spark yn go agos at y llinell derfyn. Mae’r gwaith mecanyddol a thrydanol yn ogystal â’r plymio wrthi’n cael ei gwblhau; bydd y gosodiadau, y ffitiadau a’r dodrefn yn mynd i mewn i'r adeilad yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.   Ymgymeriad mawr yw hyn. Bydd pedwar cant o ymchwilwyr a staff y gwyddorau cymdeithasol yn symud i sbarc | spark o'u swyddfeydd gwasgaredig, ac mae llawer ohonyn nhw mewn adeiladau Fictoraidd hŷn ar hyd Plas y Parc. Mae tua 13 o grwpiau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol wedi dod at ei gilydd fel SPARC - y parc ymchwil ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol.   Ar ôl iddyn nhw symud i'w cartref newydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd, yn y pen […]

Sut bydd adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd yn meithrin adferiad ôl-bandemig

Sut bydd adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd yn meithrin adferiad ôl-bandemig

Postiwyd ar 28 Mehefin 2021 gan Peter Rawlinson

Mae adeilad sbarc newydd Prifysgol Caerdydd yn agor y gaeaf hwn sydd i ddod. Ei nod yw datblygu cydweithrediadau, busnesau, cwmnïau deillio, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol, gan ddod â […]

Cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru.

Cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru.

Postiwyd ar 21 Mehefin 2021 gan Peter Rawlinson

Mae'n gyfnod cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru. Mae'r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymgymryd ag ymchwil yn ddiweddar ochr yn ochr â llywodraeth Cymru gan […]

RemakerSpace yn ail-lunio’r dyfodol 

RemakerSpace yn ail-lunio’r dyfodol 

Postiwyd ar 14 Mehefin 2021 gan Peter Rawlinson

Cynaliadwyedd, swyddi gwyrdd, twf gwydn: geiriau a fydd yn fwyfwy amlwg wrth i'r DU baratoi ar gyfer Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yr hydref hwn. Sut gall Cymru, sydd yn drydydd […]

Economaidd yng Nghymru.

Postiwyd ar 7 Mehefin 2021 gan Peter Rawlinson

Siaradodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd, â Business News Wales am y weledigaeth ar gyfer Cardiff Innovations@sbarc. Mae Prifysgol Caerdydd wedi creu diwylliant arloesi ffyniannus sy'n […]