Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

MAGMA – magnet Arloesedd

31 Awst 2021

Mae labordai o’r radd flaenafMAGMA (Deunyddiau a Chymwysiadau Magnetig)  sydd newydd eu hadnewyddu ym Mhrifysgol Caerdydd bellach ar agor ar gyfer prosiectau ymchwil a diwydiannol ar y cyd yn yr Ysgol Peirianneg. Mae Cydymaith Ymchwil a rheolwr labordy MAGMA  Phillip Lugg-Widger yn amlinellu’r cyfleusterau newydd gwych fydd yn treialu ac yn profi deunyddiau magnetig.

“Yn dilyn ymdrech fawr gan ein tîm yn ystod y 18 mis diwethaf, mae labordai MAGMA bellach ar agor yn ffurfiol. Diolch i adnewyddiadau helaeth ac uwchraddio’r holl gyfleusterau, rydyn ni bellach yn barod ar gyfer busnes.

Rydyn ni’n gwahodd defnyddwyr ymhlith yr holl bartneriaid allanol, yn ddiwydiannol ac yn academaidd, i ymweld â ni, gweithio ar y cyd a gwneud ymchwil, profion a dadansoddiadau blaengar yn ein canolfan profion arloesol newydd (os bydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny).

Bellach mae gennym ystod o gyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys:

  • Labordy Modelu Electromagnetig (EML) – Mae’r labordy yn rhoi’r gallu i ddylunio prototeip ar gyfer peiriannau electromagnetig a bydd yn caniatáu ymchwil flaengar o ran ymgorffori modelau deunyddiau go iawn yn ogystal â modelau diraddio.
  • Labordy Prosesu Deunyddiau Magnetig (MMPL) –  Cyfleusterau anelio o’r radd flaenaf, prosesu laserau a sintro plasma gwreichion sy’n hanfodol er mwyn datblygu deunyddiau magnetig newydd a gwell.
  • Labordy Nodweddu Magnetig (MCL) – Mae’r labordy yn galluogi cyfarpar mesur sy’n arwain y byd i fodloni gofynion deunyddiau a chymwysiadau’r genhedlaeth nesaf.

Bydd ymchwil y dyfodol yn y labordai hyn sydd newydd eu datblygu yn canolbwyntio ar brosesu, nodweddu, gweithgynhyrchu ac ailgylchu deunyddiau magnetig arbenigol i roi hwb i’r economi werdd.

Ar hyn o bryd, defnyddir deunyddiau magnetig i gynhyrchu moduron trydan, trawsnewidyddion, generaduron, synwyryddion, storio data a llawer o gydrannau eraill sy’n hanfodol i drafnidiaeth y dyfodol sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, rhwydweithiau trydan a llawer o gymwysiadau eraill yn yr economi werdd newydd.

Ymhlith meysydd ymchwil craidd MAGMA mae modelu a dylunio electromagnetig, gweithgynhyrchu peiriannau trydanol, nodweddion sylfaenol deunyddiau magnetig, datblygu technoleg prosesau deunyddiau yn ogystal ag ailgylchu deunyddiau magnetig.

Mae ein tîm uchel ei barch yn cynnwys yr academyddion Dr Phil Anderson, Dr Jeremy Hall, yr Athro Sam Evans, Dr Chris Harrison, Dr Jun Liu a Dr Phillip Lugg-Widger o’r Ysgol Peirianneg, ynghyd â’r Athro Phil Davies o’r Ysgol Cemeg. Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth yn y meysydd canlynol:

  • Modelu a dylunio Electromagnetig
  • Gweithgynhyrchu generaduron modurol trydan
  • Nodweddion sylfaenol deunyddiau magnetig
  • Datblygu technoleg prosesau deunyddiau
  • Gwahanu a graddio magnetig er mwyn ailgylchu

Ariennir MAGMA gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Llywodraeth Cymru gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, sef cyfanswm o £2.1m i ddatblygu ymchwil o’r radd flaenaf ym maes deunyddiau magnetig at y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, yn ddiweddar gwnaeth Dr Phil Anderson gyfweliad gyda chymdeithas IOM3 fel rhan o gyfres o bodlediadau sy’n ymchwilio i ddeunyddiau magnetig meddal. Gallwch chi wrando ar y podlediad yma.

Yn ddiweddar hefyd, lansiodd tîm MAGMA eu cyfleusterau sydd newydd eu hadnewyddu fel rhan o ddigwyddiad rhithwir byw gyda Chymdeithas Magneteg y DU (UKMS). Yn y cyflwyniadau hyn, trafodwyd rhai o’r galluoedd ymchwil sy’n rhan o MAGMA a rhoddwyd taith rithwir o amgylch ein cyfleusterau newydd. Gallwch chi weld rhestr chwarae lawn o’r digwyddiad hwn isod:

Mae ein drysau ar agor bellach ar gyfer busnes. Felly os oes gennych chi gwestiwn, neu’n dymuno dysgu rhagor, neu os hoffech chi siarad â ni neu gydweithio a chreu prosiectau newydd, yna cysylltwch â ni! ” 

Enw Cyswllt: Kevin Jones (Rheolwr Prosiectau MAGMA)

Ffôn: +44 (0) 29 2087 4411

E-bost: magma-project@caerdydd.ac.uk

Blog: http://blogs.cardiff.ac.uk/magma/

Twitter:  https://twitter.com/CardiffUniMagma

Gwefan:  https://www.cardiff.ac.uk/cy/research/explore/research-units/magnetic-materials-and-applications-research-group

LinkedIn:  https://www.linkedin.com/company/cardiff-university-magma