Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Blas ar milk&sugar

9 Medi 2021

Bydd grŵp cafés annibynnol milk&sugar yn darparu lletygarwch yn adeilad blaenllaw newydd sbarc | spark Caerdydd, ac yn ddi os bydd syniadau gwych yn cal eu tanio yno. Yma, mae perchennog y grŵp, Tim Corrigan, yn esbonio pam ei fod wrth ei fodd yn agor chweched café’r cwmni yng Nghaerdydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd. 

“Roedden ni wrth ein boddau – ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn – pan gawson ni ein dewis i fod yn rhan o’r prosiect anhygoel hwn. Diben sbarc | spark a Milk&Sugar fel ei gilydd yw creu pethau newydd mewn ffyrdd newydd.

Rwy’n gwybod o brofiad personol bod cafés a lleoedd gwych er mwyn i bobl gwrdd mewn grwpiau bach yn gallu chwarae rhan allweddol wrth greu curiad calon adeilad. Pan agorodd ein grŵp café yn adeilad One Central Square, daeth yn lloches oddi cartref i weithwyr swyddfa prysur yng nghanol y ddinas.

Tra eu bod yma, roedden nhw’n gallu teimlo’n gartrefol ar unwaith, dod i adnabod cleientiaid newydd, cael brecwast gyda chydweithwyr, dal i fyny dros goffi cyflym, dod o hyd i le tawel i ffwrdd o sgyrsiau’r swyddfa, neu’n syml iawn gweithio o bell gyda llai o bethau’n tynnu eu sylw na bod gartref.

Mae sbarc | spark yn rhannu’r un ethos creadigol sydd wrth wraidd lletygarwch Milk&Sugar: rydyn ni’n dau’n dod â ‘chynhwysion’ o safon ynghyd i helpu i wireddu syniadau newydd.

 

Fel grŵp, rydyn ni’n falch iawn o sicrhau ein bod ond yn defnyddio’r cynnyrch mwyaf ffres yn ogystal â’r cynnyrch gorau sydd ar gael i’n cwsmeriaid.

Mae popeth ar ein bwydlenni yn y cafés, sef y brecwast, y brecinio (brunch), y brechdanau a’r saladau i gyd yn cael eu gwneud yn ffres ar ôl ichi eu harchebu, ac mae’r cynnyrch yn ein cyrraedd drwy law cyflenwyr lleol gwych.

Mae’r rhan fwyaf o’n cynnyrch yn cael ei hanfon aton ni yn ffres o farchnad Caerdydd, sy’n filltir i ffwrdd.  Rydyn ni’n mynd ati i goginio ar ôl derbyn eich archeb, ac rydyn ni’n paratoi popeth yn feunyddiol, ac oherwydd hynny rydyn ni’n lleihau ar nifer ein milltiroedd bwyd.

Rydyn ni’n defnyddio un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol y DU, sef Castell Howell o Gaerfyrddin, i ddarparu gweddill ein diodydd a bwydydd eraill, ac mae hyn yn golygu manteision o ran cadwyni cyflenwi i economi Cymru.

Bydd Milk&Sugar bob amser yn ceisio cadw digon o stoc o’r rhan fwyaf o’r cynnyrch er mwyn lleihau’r amser teithio i’r cafés, felly pan fydd yn bosibl gallwn ni dderbyn bwydydd nifer o weithiau’r wythnos, bob yn ail wythnos neu’n fisol, yn hytrach na bob dydd.

Rydyn ni wrthi mewn trafodaethau â chwmni “bwyd byw” a allai roi’r cyfle inni dyfu’r rhan fwyaf o’n cynnyrch ffres yn agosach at ein café yn sbarc | spark. Mae’r dull hwn yn defnyddio ychydig iawn o ddŵr a phŵer i dyfu bwyd ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn digwydd. Mae’n ddyddiau cynnar o hyd, ond ffordd yw hyn o edrych ar ffermio trefol yn ogystal â phwnc prinder bwyd yn y dyfodol.

Yn gyffredinol, rydyn ni’n gwastraffu ychydig iawn yn y cwmni. Rydyn ni’n archebu llawer o fwydydd, ac yn ceisio penderfynu ar sut byddwn ni’n paratoi’r rhain yn seiliedig ar ddata yn sgîl archebion a thueddiadau cwsmeriaid yn ddyddiol, yn wythnosol ac yn fisol.

Rydyn ni’n defnyddio gwydr pan fydd hynny’n bosibl, yn hytrach na phlastig. Mae cwmni’r coffi rydyn ni’n ei ddefnyddio, sef illy, wedi ennill gwobr un o gwmnïau mwyaf moesegol y byd naw mlynedd yn olynol.

Ac rydyn ni wedi agor ein siop ecolegol ein hunain yn Stryd Pontcanna yng Nghaerdydd, gan werthu cynnyrch ecolegol gan gynnwys gofal corff heb gemegau, hanfodion y pantri y gellir eu hail-lenwi, llinellau bwyd dim gwastraff, suddion iachus, smwddis, a saladau ar glud yn syth ar ôl ichi eu harchebu.

Bydd Milk&Sugar yn rhannu’r gwerthoedd moesegol hyn ag ymchwilwyr, cydweithwyr, staff, myfyrwyr a thrigolion lleol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Efallai bod Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Damian Walford Davies, wedi ei fynegi orau pan ddywedodd y bydd cynnyrch a gwasanaeth o safon Milk&Sugar yn cyfrannu at yr ‘egni, y naws, yr awydd i greu cysylltiadau yn ogystal â’r creadigrwydd sydd wrth wraidd sbarc | spark.’

Ein gobaith yw, drwy gynnig paned ragorol o goffi yn ogystal â bwyd o safon a gynhyrchir yn lleol, y gall Milk&Sugar danio’r math o feddwl creadigol sydd ei angen i ddatrys problemau cymdeithasol dybryd, cychwyn mentrau newydd a mynd ati i beri bod Cymru a’r byd yn lle gwell i bob un ohonon ni. ”