Skip to main content

Adeiladau'r campws

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) – partneriaethau er ffyniant

20 Medi 2021

Nawr yw’r adeg berffaith i gwmnïau o Gymru gymryd rhan mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Yn sgîl COVID-19, aeth Llywodraeth Cymru ati i gefnogi sefydliadau i wella drwy godi eu grant i 75% ar gyfer BBaChau Cymru sy’n gwneud cais ar gyfer y rhaglen cyn mis Chwefror 2022. Siaradodd blog Cartref Arloesedd â Rob Rolley, cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth a benodwyd yn ddiweddar i ardal y de-ddwyrain, am fanteision Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn gyffredinol.

“Dan arweiniad y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN), mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn helpu busnesau yn y DU i arloesi a thyfu. Mae’r rhwydwaith yn gwneud hyn drwy eu cysylltu â sefydliad academaidd neu ymchwil a myfyriwr graddedig, ac yna byddan nhw’n cydweithredu ar brosiect a fydd yn arwain at newidiadau cadarnhaol yn sgîl arloesedd.

Mae cefnogaeth Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth yn hanfodol i lwyddiant KTP. Mae gan KTN rwydwaith arbenigol o 31 o Gynghorwyr Trosglwyddo Gwybodaeth sy’n rhoi cyngor arbenigol drwy gydol pob cam o daith KTP, gan gynnwys cynghori ar addasrwydd prosiectau, arweiniad ar y cais yn ogystal ag asesu effaith y KTP ar ôl y prosiect orffen.

Mae gan Brifysgol Caerdydd enw hynod o dda ym maes sefydlu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a gweithio’n agos gyda’r Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth ar gyfer Cymru. Rwy’n cadeirio’r Bwrdd Cynghori Diwydiannol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy wedi gweld o lygad y ffynnon yr angen i fyd diwydiant ddod o hyd i arbenigedd ac i feithrin ei dalent ei hunan, yn enwedig o ystyried cefndir demograffig sy’n heneiddio yn ogystal â phrinder sgiliau go iawn mewn rhai meysydd.

Rwy’n angerddol am feithrin sgiliau ym maes addysg beirianegol a hyrwyddo peirianneg yn ogystal â helpu cwmnïau i ffynnu. Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth wedi gweithio’n dda iawn mewn cwmnïau rwy wedi ymwneud â nhw tra fy mod yn ymgymryd â rolau eraill. Rwy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yng Nghymru, ac mae bod yn gynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhoi cyfle euraidd imi wneud hyn.

Mae cymaint o fanteision i bawb sydd ynghlwm wrth KTP. Mae yna rai uniongyrchol a gweladwy, yn ogystal â llawer o rai tymor hwy y mae’n anodd canfod eu hyd a’u lled nhw.

Yn achos y Brifysgol, maen nhw’n gallu defnyddio, llunio a datblygu eu hymchwil a’u perthynas â byd diwydiant. Mae hyn yn ei dro yn gallu arwain at ryngweithio sylweddol sy’n fanteisiol i bawb yn ogystal â chyfleoedd ymchwil eraill sydd yn ei dro yn arwain at ymchwil effeithiol sy’n cefnogi achosion REF.

Yn achos y myfyriwr graddedig sy’n gydymaith, cyfle rhagorol yw hwn i ddatblygu gyrfa, a bydd llawer yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y cwmni ar ôl gorffen KTP. Mae’n ffordd wych o weld sut mae byd diwydiant yn gweithio a’r hyn sydd ei angen i drosglwyddo ymchwil i fusnes penodol.

Ac yn achos y cwmni, cyfle gwych yw hwn i ddefnyddio ymyrraeth Ymchwil a Datblygu penodol iawn am gost is o lawer a fydd yn helpu i dyfu ei fusnes a meithrin perthnasoedd tymor hir â sefydliadau academaidd.

Yr effaith ar Gymru

Ar ben hynny, mae Cymru hefyd ar ei hennill yn sgîl Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Gall helpu uwchsgilio a chynyddu gallu a chystadleugarwch y cwmnïau sydd gennym yma i gystadlu yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd llwyddiant yn magu llwyddiant ac yn helpu i greu cymuned lle bydd ymchwil yn helpu i drawsnewid yr hanes diwydiannol cryf sydd gennym yma er mwyn creu diwydiannau’r dyfodol a fydd wedyn yn cyflogi pobl a fydd yn cael eu lleoli yma.
Yn achos BBaCh yn y cyfnod o adfer ar ôl Covid-19, gall KTP roi hwb go iawn i ymchwil a datblygu yn ogystal â’r prosesau gweithredu a rheoli yn sgîl Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli. Mae’r cysylltiad uniongyrchol hwn ag arbenigwyr ymchwil mewn meysydd penodol yn ogystal â chymorth y sefydliad academaidd yn rhywbeth a all helpu i ddatblygu marchnadoedd, cynnyrch a sgiliau.
Mae’r broses ymgeisio yn cael ei gwireddu yn sgîl gweithio mewn partneriaeth sy’n golygu bod pob un o’r partneriaid yn elwa ar y dull hwn. Mae’r cais yn canolbwyntio ar sicrhau ei fod yn dangos bod yr angen yno o safbwynt y busnes, ei fod yn paru’n dda â Prifysgol benodol, bod cynllun o ran sut y bydd KTP yn trosglwyddo gwybodaeth i’r busnes a bod y busnes yn gallu ei defnyddio, yn ogystal â dangos tystiolaeth bod y cydymaith yn cael ei gefnogi tra y bydd yn gwneud y KTP. ”

Hanes rhagorol Caerdydd yn y maes

Prifysgol Caerdydd yw’r Brifysgol yn y safle cyntaf yng Nghymru ac mae ymhlith y 10 Uchaf yn y DU yn gyson o ran nifer y partneriaethau a ddyfernir yn llwyddiannus bob blwyddyn. Rydyn ni wedi gweithio gyda chwmnïau a sefydliadau o bob sector ac rydyn ni wedi ennill graddau rhagorol yn sgîl yr arloesedd a’r effaith sy’n digwydd oherwydd ein prosiectau, gan gynnwys cystadleuwyr rownd derfynol Gwobr Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth eleni, sef Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Ysgol Seicoleg Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd â Chymdeithas Plant Dewi Sant. Maen nhw wedi creu model arferion gorau i recriwtio, paratoi a chefnogi rhieni sy’n mabwysiadu, ac mae hyn eisoes wedi arwain at fabwysiadu 23 o blant.

Ac mae’r Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo GwybodaethAvinash Majji yn gystadleuydd yn rownd derfynol Gwobrau Arweinwyr y Dyfodol, am ei rôl mewn KTP ar y cyd ag Ysgol Busnes Caerdydd a WJEC CBAC Limited sy’n helpu i drawsnewid CBAC yn Sefydliad Addysg Dibynadwyedd Uchel (HREO), sef datblygu sgiliau mewnol i roi gwasanaethau yn rhad ac am ddim sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n rhydd o wallau.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar KTP, cysylltwch â Paul Thomas, Rheolwr Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd: Thomasp7@caerdydd.ac.uk