Skip to main content

PartneriaethauPobl

Tyfu arloesedd cymdeithasol

2 Awst 2021

Mae partneriaeth tair ffordd i dyfu mintys yn fasnachol ar sail nid-er-elw wedi dod â buddion i Uganda wledig. Ffurfiwyd y Model Menter Gymunedol ar gyfer Cynhyrchu Olew Planhigion (CEMPOP) bum mlynedd yn ôl fel partneriaeth rhwng academyddion yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, yr Adran Technoleg Bwyd a Maeth ym Mhrifysgol Makerere, Kampala, a Sefydliad Ymchwil Adnoddau Cnydau Cenedlaethol Uganda. Mae Peter Randerson, cydlynydd prosiect CEMPOP, yn nodi’r stori…

Wrth siarad â’n cemegydd planhigion lleol a’n cydweithwyr yn Uganda yn ôl yn 2016, daeth y syniad i’r amlwg i dyfu’r perlysieuyn aromatig mintys, fel cnwd di-fwyd newydd mewn ardal wledig sy’n dioddef dirwasgiad amaethyddol, diweithdra, ac incymau critigol-isel ($125 US y flwyddyn ar gyfartaledd).

Mae gan fintys botensial mawr yn y farchnad. Fe’i tyfir yn fasnachol yn India, Moroco, De Affrica, ac UDA i wasanaethu marchnad y byd mewn olewau rhinflas.

Cytunodd ein partneriaid yn frwd i sefydlu’r isadeiledd lleol – meithrinfeydd planhigion, treialon maes, offer distyllu ac ymchwil i gynhyrchion mintys. Ein gweledigaeth: cynnwys ffermwyr lleol i greu cadwyn gwerth mintys dielw, gan ddatblygu cynhyrchion newydd ar gyfer marchnadoedd rhanbarthol.

Pam mae mintys yn gnwd arian parod posib ar gyfer Uganda wledig? Mae’r teulu mintys yn cynhyrchu olewau rhinflas mewn chwarennau yn eu dail, sy’n cynnwys cemegolion fel menthol, a ddefnyddir fel cyfryngau cyflasu a phersawru mewn cynhyrchion bob dydd, o de i bast dannedd.

Gan ddod â phartneriaid ynghyd ag arbenigedd mewn cemeg planhigion, geneteg planhigion ac ymarfer amaethyddol, ein nod yw creu mathau newydd o fintys gyda gwell cynhyrchiant olew, gan dargedu cemegolion penodol. Mae tir ffrwythlon sy’n addas ar gyfer mintys ar gael ac mae glawogydd tymhorol yn darparu digon o ddŵr. Mae ein cydweithwyr yn Uganda yn datblygu bwyd a diodydd â blas newydd ynghyd â chynhyrchion gofal personol gyda persawr mintys fel sebon, siampŵ ac eli dwylo, i’w marchnata trwy grwpiau menter cymunedol lleol. Mae olew a dynnir o fintys y gath yn cynnwys cemegyn gwrthyrru pryfed pwerus, a gobeithiwn ddatblygu gwrthyrrydd mosgito cost isel i’w ddefnyddio’n lleol.

Daeth cyllid cychwynnol ar gyfer CEMPOP o gynlluniau cymorth Llywodraeth Cymru, Hub Cymru Affrica a Chymru ar gyfer Affrica, a sefydlodd feithrinfeydd mintys, distyllfa a chyfarpar prosesu a hyfforddiant i ffermwyr, tra yng Nghaerdydd gwnaethom ganolbwyntio ar y wyddoniaeth, gyda dadansoddiad cemegol o gydrannau olew mintys a dilyniant genynnau o rywogaethau mintys.

Ar gefn yr astudiaethau hyn, roeddem yn gallu ennill grant cyngor ymchwil sylweddol o dan y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) wedi’i anelu at wyddoniaeth biocemeg olew mintys ac i ddatblygu cynhyrchion newydd ar gyfer y farchnad.

Trwy addasu’r genynnau sy’n rheoli cynhyrchu olewau rhinflas yn y dail, gallwn wella cynnyrch olew a rhoi hwb i synthesis cemegolion gwerthfawr fel menthol (rhinflas mintys), carvone (blas gwm cnoi mintys pigog) a nepetalactone (gwrthyrrydd mosgito organig ac mae cathod yn ei garu). Ein nod yw creu rhywogaethau “uwch-fintys” newydd, i’w tyfu, eu distyllu a’u prosesu gan gymunedau gwledig yn Uganda.

Mae hyn yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig i “roi diwedd ar dlodi”, hyrwyddo “twf economaidd” a “meithrin arloesedd” ymhlith rhestr yr ODA o “Wledydd Lleiaf Ddatblygedig”.

Yn eironig, yn unol ag ymchwil arall a ariannwyd gan GCRF, mae’r toriad diweddar i gyllideb cymorth tramor Llywodraeth y DU wedi dod yn ergyd lym gan y bydd yn cwtogi ar weithgareddau labordy a maes ar gyfer staff Caerdydd ac Uganda hanner ffordd trwy’r prosiect.

Diolchwn i BIOSI a Phrifysgol Caerdydd am gefnogaeth tuag at liniaru’r golled sydyn hon o arian.

Mae tîm CEMPOP-Uganda wedi lansio dau brosiect deilliedig sy’n gysylltiedig â’r gwaith mintys:

Nod “Eco-Kyooto”, a ariennir gan GCRF Prifysgol Caerdydd, yw mesur buddion iechyd stôf goginio ddi-fwg, effeithlon o ran tanwydd, ar gyfer cartrefi traddodiadol Uganda; a “Buyonjo” (hylendid mewn iaith leol), gyda chefnogaeth cyllid Cymru ac Affrica, sydd wedi creu gorsafoedd diheintio dwylo ar gyfer Uganda gwledig (persawr mintys, wrth gwrs!) mewn ymateb i godiad lleol yn amrywiad delta o COVID-19.

Mae tîm CEMPOP yn Uganda yn cyflogi llafur gwledig lleol sy’n rheoli cnydau mintys ac yn cynhyrchu cyfarpar sy’n gysylltiedig â datblygu a marchnata cynhyrchion mintys.

Ymhlith y mentrau a dyfwyd o brosiectau CEMPOP cynharach mae gwneud brics, chwareli cerrig, byrbrydau, crydda (gwneud esgidiau) a phrosesu mêl naturiol, tra bod gwasanaethau cysylltiedig yn cynnwys trafnidiaeth, bagiau te, casglwyr/pacwyr mintys a gwneuthurwyr pren/metel.

Mae canlyniadau o’r fath yn cryfhau’r cysylltiadau presennol rhwng Cymru ac Uganda (ee prosiectau plannu coed Maint Cymru gan Lywodraeth Cymru). Ac mae ein cysylltiad academaidd parhaus â Phrifysgol Makerere yn meithrin cydweithredu ymchwil ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddi ac astudio rhwng Kampala a Chaerdydd.

Methodd cais diweddar i greu ffatri brosesu mango ar gyfer y gymuned wledig ger Mbale â denu cyllid Innovate UK. Mae llawer o’r cnwd mango tymhorol yn mynd i wastraff oherwydd prisiau isel a diffyg gallu i greu cynhyrchion sudd a mwydion mwy gwerthfawr.

Mae cynllun o’r fath unwaith eto yn gofyn am wybodaeth amaethyddol leol, cefnogaeth gan arweinwyr cymunedol lleol a phartner Technoleg Bwyd (Makerere Uni) Felly, mae CEMPOP yn ceisio chwistrelliad o “gymorth” cyfalaf i gychwyn menter ddielw dan arweiniad y gymuned. Unrhyw un am ariannu torfol?

Dr Peter Randerson, cydlynydd prosiect CEMPOP, Ysgol y Biowyddorau. Cysylltwch â randerson@caerdydd.ac.uk