Skip to main content

PartneriaethauPobl

Yn galw ar yr holl fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid eiddgar!

11 Hydref 2021

Mae tymor newydd y Brifysgol ar fin cychwyn. Wrth i’r glasfyfyrwyr a’r myfyrwyr profiadol ddychwelyd, dyma gyfle i feddwl am fywyd ar ôl y brifysgol. Yma, mae Claire Parry-Witchell, y mentor busnes penodedig ar gyfer cynllun Dyfodol Myfyrwyr yng Nghaerdydd, yn rhoi manylion am y cymorth sydd ar gael i helpu mentrau myfyrwyr.

Yma ym Mhrifysgol Caerdydd mae gennym dîm anhygoel sy’n cefnogi myfyrwyr a graddedigion sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain.

Rydym yn rhedeg pecyn cymorth tri cham i helpu’r myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau ac i weithio tuag at lansio’r fenter:

  • ‘Y Chwilotwr Chwilfrydig’ – pan fydd gennych chi gysyniad neu syniad yr hoffech chi feddwl rhagor amdano a dechrau ei ddatblygu.
  • ‘Y Ceisiwr Rhyddid’ – pan fyddwch chi’n parhau i ddatblygu’ch syniad a chynnal ymchwil i’r farchnad a phrofion ar ei chyfer.
  • ‘Yr entrepreneur eiddgar’ – y cam olaf pan fyddwch chi’n paratoi i fasnacheiddio.

Mae pob cam yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid weithio tuag at lansio busnes, ac rydyn ni’n cynnig ystod o gymorth gan gynnwys:

  • Mentora 1-i-1 gyda mentor busnes profiadol,
  • Cyllid Cychwynnol ar gyfer buddsoddiadau yn ystod y cam cynnar
  • Y cyfle i brofi’r fasnach yn ein ‘Marchnad Myfyrwyr Cymru’ ein hunan ar-lein
  • 12 mis o le mewn swyddfa yn rhad ac am ddim i fusnesau cofrestredig ynghyd â system desgiau poeth
  • Cymorth i gystadleuaethau megis ‘Gwobrau i Fusnesau Newydd’ a ‘Peirianwyr mewn Busnes’
  • Cyfleoedd dysgu megis gweithdai a rhaglenni sbarduno.

Mae’r effaith y mae’r pecyn cymorth wedi’i chael ar fusnesau ein myfyrwyr a’n graddedigion ers iddo gael ei gyflwyno dair blynedd yn ôl wedi bod yn hollol anhygoel.

Rydyn ni wedi creu mwy na 100 o fusnesau newydd, mwy na 100 o swyddi a chyfanswm trosiant yng Nghymru, y DU a thu hwnt o £1.6 miliwn bron iawn.

Yn ddiweddar, comisiynodd y tîm yr animeiddiad hwn sy’n dangos y gwasanaeth a’r effaith y mae wedi’i chael.

Yn rhinwedd fy swydd fel mentor busnes ymroddedig Dyfodol Myfyrwyr, galla i ddweud fy mod yn caru fy swydd yn fawr iawn. Mae cefnogi myfyrwyr a graddedigion ar hyd eu taith entrepreneuraidd yn fraint wirioneddol: yn fy swyddfa maen nhw’n cyflwyno syniad maen nhw’n angerddol yn ei gylch ond yn aml byddan nhw’n ansicr amdano. Wedyn, rydyn ni’n cael trafodaeth dda ac yn dechrau datblygu’r syniad, ac maen nhw’n gadael yn llawn brwdfrydedd gyda chynllun gweithredu yn eu dwylo.

Er na fydd pob syniad yn mynd yr holl ffordd i’r farchnad, mae’r sgiliau y maen nhw’n eu meithrin o ran datblygiad personol a phroffesiynol drwy’r broses o ddysgu ac ymchwilio yn un hynod o bwysig.

Dyma ychydig o’n busnesau cychwynnol. Dyma’r hyn a ddywedodd Tillie, sylfaenydd “PAGE ILLUSTRATIONS,” am ei thaith a gweithio gyda’r cynllun:

 

Mae dechrau blwyddyn newydd y myfyrwyr yn amser da i ddechrau … Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n fyfyriwr graddedig a hoffech chi ystyried syniad ymhellach neu os mai’r cwbl rydych chi eisiau ei wneud yw dysgu am gychwyn busnes gallwch chi gysylltu â’r tîm: studentconnect@caerdydd.ac.uk