Skip to main content

Doctoral Academy team

Syniadau a chyfleoedd newydd cyffrous ar gyfer ein cymuned ymchwil ôl-raddedig

24 May 2023

Yma yn yr Academi Ddoethurol rydym yn falch iawn o fod wedi penodi Dr James Farror yn Bennaeth newydd ar faterion Datblygu a Phrofiad. Yma, mae James yn rhannu ei amcanion a’i syniadau wrth iddo ymgymryd â’r rôl newydd hon, a’r newidiadau a’r cyfleoedd cadarnhaol y mae’n gobeithio eu cyflwyno er budd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

“Mae ychydig wythnosau wedi mynd heibio ers i mi ddechrau yn fy swydd newydd, ac rwy’n gyffrous fy mod wedi dechrau yn y rôl hon ar adeg hollbwysig i ymchwil ôl-raddedig.

Bu cryn drafod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynghylch dyfodol addysg ddoethurol a’r diwylliant y mae ymchwilwyr yn datblygu ynddo. Er mwyn ymateb i’r heriau cynyddol gymhleth sy’n wynebu’r byd, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi sawl strategaeth gyda’r nod o ddatblygu gweithlu ymchwil mwy amrywiol a deinamig. Yn sgîl ail-alinio o ran blaenoriaethau, mae UKRI a’r Cynghorau Ymchwil wedi gorfod ailystyried pa mor effeithiol yw addysg ddoethurol yn ei chyflwr presennol ac a yw’r strwythurau cymorth presennol yn addas i’r diben.

Yn fy rôl newydd, bydd llawer o fy ffocws ar sicrhau bod darpariaeth a gwasanaethau’r Academi Ddoethurol yn adlewyrchu anghenion ein cwsmeriaid, rhanddeiliaid a chyllidwyr, wrth i’r anghenion hynny newid. I’r perwyl hwn, rwyf yn goruchwylio fersiwn estynedig o adolygiad y tîm o’u rhaglen flynyddol, ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi cynnal grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ledled y brifysgol ac wedi dechrau trafodaethau gyda’n prif randdeiliaid, gan gynnwys Deoniaid Addysg Ôl-raddedig a Chyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig y colegau, ledled ysgolion.

O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, rydym wedi gallu amlygu sawl maes blaenoriaeth. Yn ogystal ag awch am ragor o amrywiaeth o ran y cyfleoedd datblygu mae’r Academi Ddoethurol yn eu cynnig, mae’n amlwg bod awch hefyd am gymorth wedi’i deilwra’n ymwneud â gyrfaoedd a chyflogadwyedd ac o ran cyfleoedd sy’n fwy rhwydd eu canfod, i fyfyrwyr ymgysylltu ag ymchwilwyr eraill, boed wyneb yn wyneb neu ar-lein, mewn cyd-destunau cymdeithasol a phroffesiynol. Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hefyd wedi gofyn am gymorth sydd wedi’i dargedu’n fwy penodol ar gyfer grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac ymchwilwyr sy’n wynebu heriau a rhwystrau penodol o ran ymgysylltu. Yn olaf, hoffai staff a myfyrwyr gael rhagor o dryloywder ynghylch y gwasanaethau mae’r Academi Ddoethurol yn eu cynnig, y digwyddiadau dysgu mae hi’n eu cynnal, a’r adnoddau mae hi’n eu cynnig.

Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn mynd i gymryd amser. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith mewn sawl maes; mae nifer o fentrau peilot a newidiadau gweithredol wedi’u cynnig, mae’r rhain unai wedi’u cyhoeddi eisoes neu i’w cyhoeddi yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gan gynnwys:

  • Cyfres newydd o ddarpariaethau datblygu, gan gynnwys trafodaethau bord gron amser cinio, grwpiau trin a thrafod ymchwil a chlinigau cymorth un-i-un;
  • Cronfa Ddatblygu newydd, lle gall ymchwilwyr ôl-raddedig wneud cynnig am hyd at £1000 i ymgymryd â gweithgaredd datblygu;
  • Newidiadau i batrymau amserlennu i ganiatáu amser ar gyfer rhagor o weithgarwch yn ystod misoedd yr haf, hyn er mwyn rhoi budd i ddysgwyr rhan-amser a dysgwyr o bell;
  • Cyfleoedd allgymorth â thal, gan gynnwys swyddi addysgu mewn ysgolion uwchradd trwy bartneriaeth newydd gyda’r Brilliant Club;
  • Lleoliadau cyflogedig, gan gynnwys swydd ymchwil yn yr Academi Ddoethurol;
  • Encil preswyl i awduron ym mis Awst, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr dreulio penwythnos i ffwrdd yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddatblygu eu traethawd ymchwil;
  • Adolygiad o’r cymunedau ar-lein rydym yn eu rheoli a’u hyrwyddo a sut rydym yn cysylltu gweithgarwch â chymdeithasau ehangach yn y brifysgol;
  • Adolygiad o bob agwedd ar ein dulliau cyfathrebu yn eu cyfanrwydd, gyda’r nod o symleiddio ein prosesau;
  • Ymarfer mapio o’n holl ddigwyddiadau ac adnoddau dysgu cydamserol ac anghydamserol, sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt.

Rydym yn teimlo’n gyffrous yn cyflwyno’r newidiadau hyn ynghyd â mentrau newydd, ac yn gobeithio y byddant yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i’ch profiad.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein mentrau presennol a rhai sydd ar ddod, cadwch lygad ar ein ebyst ‘crynoadau’ rheolaidd a’n tudalennau ar y fewnrwyd.