Skip to main content

DevelopmentPublic Engagement

Rhaglen Datblygu Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith – pam mynd i’r digwyddiad?

30 May 2023

Mae ystyried sut rydych chi’n cynnwys cymdeithas yn eich ymchwil wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y byd academaidd. Yn y blog hwn, mae myfyriwr PhD yn ei ail flwyddyn, Darius Klibavicius, yn esbonio sut mae Rhaglen Datblygu Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith Caerdydd wedi rhoi’r adnoddau iddo ddechrau meddwl am greu newid yn y byd go iawn trwy ei waith.

Rhaid bod yn onest, ar ôl bod yn athro Moeseg ac Athroniaeth yn Lithuania am 11 mlynedd, yr hyn oedd yn mynd â’m sylw wrth astudio ar gyfer fy MSc cyntaf ym maes Addysg, Polisïau a Chymdeithas oedd agweddau moesegol a thrwyadledd ymchwil ym maes addysg. Doeddwn i heb ystyried pwysigrwydd cael ymchwil yn arwain at fanteision uniongyrchol ar gyfer cymdeithas, yr economi neu’r amgylchedd, a dim ond yn ystod fy ail MSc, ym maes Dulliau Ymchwilio’r Gwyddorau Gymdeithasol, yn 2020, y dechreuais feddwl am effaith a goblygiadau hirdymor fy ymchwil ar y realiti cymdeithasol.

Beth yw effaith ymchwil a pham ei fod yn bwysig?

Effaith ymchwil yw’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall eich gwaith ei wneud i’r byd. Mae effaith yn bwysig oherwydd ei fod yn ein helpu i ganolbwyntio ar ddiben cyffredinol yr ymchwil, yn hytrach na’r broses. Drwy ymgysylltu â’r rhai a all elwa o’n hymchwil, mae nifer y rhwystrau rhwng y rhai sy’n cynnal ymchwil a’r rhai sy’n gallu ei gymhwyso i wneud newid yn y byd go iawn, yn lleihau.

Mae effaith hefyd yn bwysig oherwydd ei fod yn bwysig i gyllidwyr! Mae rhagoriaeth effaith yn parhau i fod yn nod canolog ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Fe ddywedir wrth unrhyw berson sy’n ymgeisio am grant a chymrodoriaeth y dylent ystyried sut y byddant neu y gallent gael effaith y tu allan i’w cymuned academaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rheolaidd. Y llynedd, cwblheais interniaeth 6 mis gyda nhw; bûm yn cynnal yr adolygiad o dystiolaeth ymchwil ynghlwm â’r strategaethau a’r arferion sy’n hybu llais dysgwyr sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Yn ystod fy interniaeth, daeth yn amlwg i mi fod y Llywodraeth yn rhoi pwyslais ar ymgysylltu ag ymchwil i sicrhau bod eu polisïau o fudd i’r gymdeithas ehangach. Roeddwn i eisiau dysgu rhagor ynghylch ffyrdd effeithiol o ymgysylltu a lledaenu ymchwil, ac yna fe ddes i ar draws rhaglen Datblygu Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith (KEI) Caerdydd ar y fewnrwyd.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen KEI yn cael ei gynnal gan dîm Effaith ac Ymgysylltu Caerdydd ac roedd yn gyfle cyffrous i ddysgu ynghylch y  ffyrdd mwyaf creadigol ac effeithlon o ran amser i ymgorffori effaith ac ymgysylltu yn fy ymchwil fy hun. Fe es i i bum sesiwn rhwng Ionawr a Mehefin 2022, ond gellir cofrestru ar gyfer sesiynau ‘Cyfres yr Haf’ 2023 nawr. Yn rhan o’r gweithdai bydd dysgu wyneb yn wyneb gan gynnwys gweithgareddau rhyngweithiol pwrpasol i’ch helpu i ddefnyddio’r sgiliau y byddwch chi’n eu caffael. Gall unrhyw aelod o’r staff sy’n gweithio mewn amgylchedd ymchwil, ac unrhyw fyfyriwr doethurol, ymgymryd â’r sesiynau. Trwy’r Gyfres, fe ddatblygir sgiliau yn y meysydd canlynol:

Cynhelir pob sesiwn naill ai gan arbenigwyr ym maes effaith ac ymgysylltu, ymchwilwyr neu sefydliadau sy’n elwa o ymchwil. Drwy ymgysylltu â’r rhaglen, sylweddolais y gellir monitro a mesur effaith ymchwil mewn sawl ffordd. Gall ymchwilwyr ôl-raddedig dybio, ar y dechrau, bod ymchwil ac iddi effaith yn rhywbeth sydd wedi’i chyfyngu i’r hyn a gyflwynir yn astudiaethau achos ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Ond, gellir cyflawni effaith ddiwylliannol, economaidd, wleidyddol neu gymdeithasol trwy ddulliau eraill megis cydweithio â rhanddeiliaid penodol a’r gymuned ehangach.

Pam mynd i’r digwyddiad?

Dywedodd pennaeth ysgol uwchradd wrthyf unwaith fod yr uwch dîm arwain wedi ymrwymo i hyrwyddo arfer sy’n seiliedig ar ymchwil ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ond eu bod yn profi anhawster o ran cael mynediad at ymchwil ym maes addysg neu o ran ei deall. Dysgodd y rhaglen KEI i mi pa mor bwysig yw hi i ymchwilwyr gyfleu canfyddiadau a’u goblygiadau’n glir i gynulleidfaoedd amrywiol yn y ffyrdd mwyaf cryno a hygyrch. Yn ymchwilydd ym maes y gwyddorau cymdeithasol, rwy’n teimlo cyfrifoldeb personol a phroffesiynol i godi fy llais er budd y rhai mae fy ymchwil yn effeithio arnynt fel bod eu lleisiau, eu straeon neu eu profiadau yn cael eu clywed. O ganlyniad i’r sesiynau, rwyf wedi penderfynu fy mod am wneud fy allbynnau academaidd yn haws eu canfod ac yn fwy hygyrch. Rwyf wedi dysgu mai’r platfform mwyaf addas i wneud hynny, o bosib, yw gwefannau, blogiau neu gyfryngau cymdeithasol. Felly, rwy’n ystyried rhannu darnau o’m hymchwil bresennol ar ddiwygio’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion â chynulleidfaoedd ehangach.

At ei gilydd, mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr doethurol gael rhagor o wybodaeth ynghylch rhannu eu canfyddiadau, ac i ennill sgiliau a hyder ar gyfer gwneud hynny, ac mae’n annog rhwydweithio â chydweithwyr o’r un anian, gan gynnwys siaradwyr gwadd, staff y brifysgol a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Mae’r tîm Effaith ac Ymgysylltu yn canolbwyntio nid yn unig ar ehangu gwybodaeth academaidd, ond hefyd ar gryfhau ei fuddsoddiad mewn staff, meithrin gallu ymchwil, a chydnabod cyflawniadau ymchwilwyr ledled y Brifysgol. Rwy’n teimlo bod y rhaglen KEI wedi rhoi’r adnoddau i mi ragori yn fy ngyrfa a bod o fudd i gymdeithas trwy fy ngwaith. Felly, yn dilyn y PhD, rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r cyfleoedd a ddaw o faes ymchwil addysgol, ymarfer neu lunio polisïau.”