Skip to main content

DevelopmentEventsResearchUncategorized

Mae Enciliadau Awduron Preswyl yn ôl o’r diwedd! Pam ddylech chi ymuno?

20 June 2023

Ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i’r amser a’r cymhelliant i fynd ati i ysgrifennu? Gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser a’r amgylchedd cywir i ysgrifennu’n gynhyrchiol ynddo. Dyna pam mae’r Academi Ddoethurol yn falch iawn o ddod â’i encil preswyl i awduron yn ôl am y tro cyntaf ers 2019, gan ddarparu amgylchedd ysgrifennu dwys i chi ar gyfer camau olaf eich ymchwil ddoethurol. Y nod yw rhoi’r amser, y lle a’r anogaeth er mwyn i chi allu wneud cynnydd sylweddol wrth ysgrifennu traethawd ymchwil eich PhD.

Gwnaeth Kaisa Pankakoski, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, un o encilion preswyl i awduron blaenorol gan yr Academi Ddoethurol. Yma mae hi’n dweud wrthym pam roedd y profiad mor werthfawr…

Kaisa Pankakoski, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg

“Er mwyn cwblhau PhD mae angen i ni i gyd gynhyrchu 80,000 o eiriau mewn modd gofalus ynghylch ymchwil wreiddiol. Gall cyfrifoldebau eraill neu ddifyrru’r amser rwystro ysgrifennu’n hawdd. Fodd bynnag, mae llunio’r holl eiriau hynny hyd yn oed pan fo bywyd yn brysur yn bosibl gyda blaenoriaethu gofalus, disgyblaeth a chydbwysedd. Ymddiriedwch ynof… ochr yn ochr â fy PhD, rwyf ar hyn o bryd yn jyglo pedair swydd ran-amser, drafftio llyfr, gwaith gwirfoddoli a chyfrifoldebau dau blentyn, rhieni oedrannus a chi mwngrel!

Roeddwn i’n arfer cynhyrchu llawer iawn o fy ysgrifennu (gan gynnwys y post blog hwn) ar drenau ac awyrennau. Yn wir, i lawer o fyfyrwyr PhD mae amser i ffwrdd o ofynion bywyd bob dydd yn golygu y gellir rhoi mwy o adnoddau tuag at ysgrifennu.

Dyna pam es i i encil preswyl i awduron gan yr Academi Ddoethurol. Rwy’n gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o encilion wrth i mi symud i gyfnod ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil. Bydd yn sicr yn fwy cyfleus nag eistedd ar wahanol fathau o gludiant!

Ar ddechrau’r dydd gwnaethon ni osod nodau ar gyfer ein hysgrifennu a thrafod ein targedau gyda’r bobl wrth ein bwrdd cyn i ni ddechrau ar y sesiwn ysgrifennu gyntaf. Fe wnaeth y slotiau ysgrifennu sefydlog, nodau a osodwyd a phrydau parod yr encil strwythuredig fy helpu i ysgrifennu’n gynhyrchiol.

Encil preswyl i awduron, 2018

Roedd yr encil yn ffordd effeithiol o gynhyrchu swm rhyfeddol o fawr o allbwn ysgrifenedig. Roedd absenoldeb gofynion eraill fel coginio, gwaith tŷ, gweinyddu, llwyth emosiynol neu ddyletswyddau gofalu wedi rhoi hwb i fy nghynhyrchiant ddengwaith. Llwyddais i orffen fy adran Methodoleg a’r ail Adolygiad Llenyddiaeth mewn dim ond chwe awr – ysgrifennu a fyddai fel arfer yn cymryd dyddiau, os nad wythnosau.

Yn ogystal â’r rhai a gynhelir gan yr Academi Ddoethurol, trefnir encilion ysgrifennu gan academyddion a sefydliadau ledled y DU. Ond nid yw manteision encil ysgrifennu wedi’u cyfyngu i ddigwyddiadau a drefnir yn ffurfiol – gellid trosglwyddo’r egwyddorion i rywle arall hefyd. Er enghraifft, rwyf bellach yn breuddwydio am aros me

wn gwesty hollgynhwysol gyda dim ond gliniadur a phentwr o lyfrau fel cwmni!

Beth am roi cynnig ar encil ysgrifennu a chael ychydig gamau yn nes at y nod 80,000 gair hwnnw?”

@kaisapan


Mae ein hencil preswyl nesaf i awduron yn digwydd ar 7 Awst 2023, a gellir dod o hyd i ffurflen gais ar y fewnrwyd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 6 Gorffenaf 2023, 13:00.

Yn ogystal ag encilion preswyl, rydym yn cynnig encilion ysgrifennu mewnol diwrnod llawn, a gynhelir ym Plas yr Amgueddfa. Gellir dod o hyd i’r dyddiadau sydd ar y gweill ar y Porth Dysgwyr, lle gallwch hefyd archebu eich lle.