Skip to main content

COVID-19

Gallai’r Coronafeirws greu cenhedlaeth gloi yn America Ladin os nad yw llywodraethau’n gweithredu

19 Hydref 2020

Yn ein erthygl ddiweddaraf, mae Dr Luciana Zorzoli, o’n Hadran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau, yn archwilio effaith economaidd-gymdeithasol COVID-19 ar bobl ifanc yn America Ladin.

Mae’r coronafeirws wedi taro systemau a chymdeithasau gofal iechyd y de byd-eang hyd yn oed yn galetach na gweddill y byd oherwydd eu heconomïau sydd eisoes yn wan a lefelau dyled uchel. Nid yw America Ladin yn eithriad, ac effeithiwyd arni’n arbennig oherwydd niferoedd uchel iawn o heintiau. Gyda mwy na 7.9 miliwn o achosion a mwy na 300,000 o farwolaethau, mae’r rhanbarth wedi’i disgrifio fel un sydd wedi cael yr ergyd waethaf yn y byd. Dyna pam, yn ôl asesiad Banc y Byd ym mis Mehefin, y bydd economi America Ladin yn cyfyngu 7.2% yn ei chyfanrwydd yn 2020.

Yn fwy na hynny, mae rhai o dueddiadau addawol, os yn gymedrol, y ddau ddegawd diwethaf yn cael eu gwrthdroi gan y pandemig. Roedd hwn yn rhanbarth a oedd yn dechrau lleihau lefelau enfawr o anghydraddoldeb diolch i dwf economaidd sylweddol o’r ffyniant nwyddau a ddaeth i ben yn 2013, yn ogystal â rhai polisïau cyflogau arloesol a rhaglenni cymdeithasol a gyflwynwyd gan lywodraethau blaengar.

Yn y cyd-destun hwn, mae pobl iau’n cael eu taro’n arbennig o wael. Mae cau ysgolion yn niweidio addysg ac, fel mewn llawer o wledydd, mae rhagolygon swyddi ar eu cyfer yn arbennig o wael. Os na all y rhanbarth reoli’r feirws a rhoi hwb i’w heconomi, byddwn yn gweld twf “cenhedlaeth gloi”, sydd wedi’i dal mewn diweithdra, swyddi anffurfiol a thlodi mewn gwaith.

Diweithdra a’r economi gig

Mae nifer ac ansawdd swyddi’n dirywio’n gyflym o ganlyniad i’r ffordd y mae’r pandemig wedi parlysu’r economi. Mae Sefydliad Llafur Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif y bydd yr argyfwng iechyd yn gwthio cyfraddau diweithdra yn y rhanbarth i fyny o 8.1% i 11.5% yn 2020, sy’n cyfateb i fwy nag 11.5 miliwn o bobl newydd yn ddi-waith.

O ganlyniad, disgwylir i 30 miliwn ychwanegol ddisgyn i dlodi (a gwnaed yr amcangyfrifon hyn ym mis Mai, cyn i effeithiau’r feirws gydio go iawn). Bydd hyn yn effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc, sydd eisoes wedi dioddef cyfraddau diweithdra parhaus a oedd deirgwaith yn uwch na chyfradd oedolion hŷn cyn y pandemig.

Ond y lefel hanesyddol uchel o waith anffurfiol yn America Ladin a fydd yn gwneud yr adferiad yn llawer anoddach. Cyn y pandemig, roedd mwy na hanner y gweithlu ar draws y rhanbarth mewn cyflogaeth anffurfiol a bregus, heb unrhyw fesurau diogelu cymdeithasol fel tâl salwch neu hyd yn oed gontractau ysgrifenedig. Unwaith eto, mae pobl ifanc yn gyfran hyd yn oed yn uwch o’r gweithlu anffurfiol hwn.

Gydag economïau yn cyfyngu oherwydd y pandemig, mae mwy fyth yn troi at waith gig ledled y rhanbarth er mwyn chwilio am incwm dyddiol. Ond fe ddaw hyn gyda phris. Roedd dibynnu ar waith fel negesydd, gyrrwr tacsi neu ddarparu gwasanaethau glanhau drwy ap eisoes yn waith anodd. Yn gyffredinol, mae’n waith sy’n talu’n isel ac sydd yn osgoi cyfreithiau isafswm cyflog, gan fod gweithwyr yn cael eu cyfrif fel rhai hunangyflogedig neu rai sy’n gweithio y tu allan i’r holl gyfreithiau llafur cenedlaethol. Mae’n ansicr, gan gynnig dim sicrwydd swydd na buddion fel tâl salwch neu wyliau â thâl. Mae hefyd yn ynysig iawn, gan eich bod fel arfer yn gweithio ar eich pen eich hun, ac ychydig iawn y mae’n ei gynnig o ran rhagolygon gyrfa.

Peryglon a buddion

Gyda’r pandemig, cynyddodd y risgiau sy’n gysylltiedig â gwaith gig yn sylweddol wrth i’r gweithwyr hyn ddod i gysylltiad â chymaint o wahanol bobl. Ond daeth y pandemig hefyd â’r galw am y gwasanaethau hyn, gyda mwy o bobl yn archebu bwyd a phrydau tecawê yn y cyfnod clo, neu’n cymryd tacsis yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus.

Ac eto, nid yw bywyd fel gweithiwr gig wedi gwella. Ar draws America Ladin, mae’r gweithwyr allweddol hyn wedi nodi diffyg cefnogaeth o ran cyfarpar diogelu personol ac yswiriant iechyd. Mae niferoedd enfawr hefyd yn dweud bod eu hincwm wedi aros yr un fath, neu hyd yn oed wedi gwaethygu, er gwaetha’r ffaith eu bod yn gwneud mwy o swyddi. Mewn un arolwg o 298 o yrwyr ar draws 29 o ddinasoedd, dywedodd 64% fod eu cyflog wedi gostwng. Y rheswm am hyn yw newidiadau yn y telerau a gynigir gan gwmnïau.

Mae miloedd wedi bod yn protestio am well cyflogau a hawliau. Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi gweld streiciau gan yrwyr dosbarthu mewn dinasoedd ledled y rhanbarth, gan gynnwys yr Ariannin,Brasil, Colombia a Mecsico. Mae gwahanol gwmnïau ap yn gweithredu yno, ond mae’r gofynion yr un fath: gwell cyflog gan y cwmnïau a gwell rheoleiddio gan lywodraethau i atal camfanteisio.

Mae’r diffyg rheoleiddio yn rhan fawr o’r broblem. Mae’n caniatáu i ochr dywyll yr economi gig ddatblygu: sef cronfa gynyddol o weithwyr heb unrhyw ddiogelwch cyflogaeth, nad ydynt yn cael eu talu ddigon a sydd heb fawr ddim dewisiadau swyddi eraill, ac ychydig o bŵer i negodi gyda chwmnïau technoleg mawr sy’n rheoli eu gweithlu drwy algorithmau.

Bydd adferiad America Ladin o’r coronafeirws yn gofyn am newid sylweddol i farchnadoedd llafur y rhanbarth. Heb well fesurau diogelu rhag tangyflogaeth a thlodi mewn gwaith, mae perygl i’r rhanbarth wneud anghydraddoldeb yn waeth eto. Mae gwrando ar ofynion gweithwyr gig sydd ar streic yn lle da i ddechrau.

Mae Dr Luciana Zorzoli yn Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Y Sgwrs.