Skip to main content

Amdanom ni

Rydym yn gwybod nad yw hi bob amser yn hawdd ymgysylltu â phrifysgolion. Mae’r syniadau uchel-ael yn gallu ymddangos yn haniaethol ac yn anodd eu deall.

Ein syniad ni, er enghraifft, yw ‘gwerth cyhoeddus’. Ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni hyn mewn cymunedau yng Nghymru a gweddill y byd.

Mae gwerth cyhoeddus, fel rydym yn ei ddeall, yn golygu gwneud gwahaniaeth i’r economi ac i gymdeithas.

Mae ein harbenigwyr yn cydnabod bod busnes a rheoli yn chwarae rhan ganolog wrth fynd i’r afael â rhai o heriau mawr ein cymdeithas. Pethau fel swyddi da, tlodi, anghydraddoldeb, camfanteisio, gwahaniaethu, cynaliadwyedd, iechyd gwael, a llygredd ariannol.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hun. Dyna pam rydym yn gweithio gydag eraill.

O lywodraethau i lunwyr polisïau, prifysgolion, busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol i entrepreneuriaid, athrawon, gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr y gorffennol a’r presennol, rydym am weithio mewn partneriaeth i ysgogi newid a hyrwyddo atebion.

I wneud hyn mae’n rhaid i ni ddeall beth mae gwerth cyhoeddus yn ei olygu i chi.

Ein blog

Mae ein blog yn chwarae rhan fawr yn hyn o beth. Mae’n lle i chi ac i ni. Lle i ymgysylltu, rhoi sylwadau, egluro, cysylltu a rhannu, ac i ddatblygu cymuned ddigidol.

Cymuned ddigidol lle gallwn wneud gwahaniaeth gyda’n gilydd.