Skip to main content

myfyrwyrProfiad myfyrwyr

Dewch i gwrdd â Chymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd

25 Ebrill 2023
Business school society members dressed smartly at event.

Dewch i gwrdd â Martha, ysgrifennydd Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd. Fe wnaethom ofyn i Martha, sy’n astudio Rheoli Busnes (BSc), i sôn am y gymdeithas a pham mae myfyrwyr yn ymuno…

Mae Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd yn gymdeithas sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Gyda thros 3500 o fyfyrwyr yn yr ysgol busnes, dyma’r ffordd orau i fyfyrwyr gwrdd â phobl eraill o wahanol gyrsiau, blynyddoedd a chefndiroedd.

Mae’r gymdeithas hon yn tyfu’n barhaus ac rydym yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn academaidd gyda digwyddiad bob pythefnos. Mae gennym ni ddigwyddiadau cymdeithasol anacademaidd megis dawnsfeydd, nosweithiau cwis, a barbeciws haf. Cyn bo hir byddwn yn cynnal Dawns Ffarwel ar gyfer myfyrwyr yr ysgol busnes sy’n graddio eleni.

This slideshow requires JavaScript.

Mae gennym hefyd ddigwyddiadau gyda siaradwyr gwadd trwy gydol y flwyddyn lle rydym yn cael siaradwyr allanol i ymweld â ni o ystod eang o fusnesau i rannu eu straeon a chynnig cyngor. Ymhlith y siaradwyr a gawsom yn ddiweddar mae: Mark Sweeney, Prif Weithredwr yn Novo solutions, Ciaran Branney, Cyfarwyddwr Peirianneg yn Purple Sector, a Tillie Page, Hyfforddwr Busnes a Dechrau Busnes.

Mae ymuno â chymdeithas yn rhan allweddol o’ch bywyd prifysgol a bydd yn cyfoethogi eich profiad cyfan.  Mae llawer o fanteision ond yr un gorau yw’r cyfleoedd diddiwedd i gwrdd â phobl.

Rwy’n rhan o’r pwyllgor sy’n rhedeg y gymdeithas a fi yw’r ysgrifennydd sy’n gwneud y gwaith gweinyddol, yn cadw cofnodion cywir ac yn cyfathrebu â’r pwyllgor ac aelodau’r gymdeithas. Rydw i wir wedi mwynhau fy rôl ar y pwyllgor eleni a bod yn rhan o’r gymdeithas. Mae wedi dysgu sgiliau amhrisiadwy i mi, fel rheoli amser, trefnu pobl, a chynllunio digwyddiadau. Gallaf drosglwyddo’r sgiliau hyn i fy mywyd gwaith.

Rydw i wrth fy modd yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd gan fy mod yn teimlo’n rhan o gymuned sydd eisiau helpu eraill i ffynnu a llwyddo. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o brifysgol sy’n cefnogi ei myfyrwyr ac yn rhoi’r cyfleoedd gorau iddynt i’w helpu i wella mewn sawl ffordd. Gallai hyn gynnwys ymuno â’r ystod eang o gymdeithasau lle gallwch ddysgu sgil neu chwaraeon newydd neu gwrdd â phobl newydd o bob cefndir.

Mae’n hawdd ymuno â chymdeithas a gallwch roi cynnig ar gymdeithas cyn ymrwymo i brynu aelodaeth flynyddol. Mae’r mwyafrif o gymdeithasau’n cynnal sesiynau ‘rhoi cynnig arni’ ar ddechrau’r ddau semester er mwyn i fyfyrwyr allu dod draw i roi cynnig ar y gweithgareddau cymdeithasol, cwrdd â phobl, a gweld a yw’r gymdeithas yn cyd-fynd â’u diddordebau.

Mae Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd yn codi £4 am aelodaeth flynyddol.

Rhagor o wybodaeth ac ymuno

(Gall darpar fyfyrwyr ymuno ar ôl iddynt gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd).

200+ o gymdeithasau myfyrwyr

Mae dros 200 o gymdeithasau i ddewis ohonynt yn Undeb Y Myfyrwyr. Mae grwpiau ar gyfer Economeg, Ymgynghoriaeth, Cyllid, Masnachu ac Entrepreneuriaeth. Mae yna gymdeithasau penodol hyd yn oed i Taylor Swift, Yoga, Nofio Gwyllt, Dawns Hip Hop ac A-cappella, felly mae rhywbeth i bawb.