Skip to main content

COVID-19

Ymdopi â COVID – Dyfodol Teithio

29 Medi 2020

Yn ein postiad diweddaraf, mae Steve Hull, cyfaill i Ysgol Busnes Caerdydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Destination Ski, yn esbonio sut mae’r asiantaeth deithio wedi addasu a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn wyneb pandemig byd-eang COVID-19.

Pan fydd eich busnes yn gwerthu gwyliau wythnosau, fisoedd a hyd yn oed flynyddoedd i’r dyfodol, mae cael rhai pobl yn canslo’n normal. Mae cynlluniau’n newid, mae pethau’n digwydd, ac mae’n rhaid i bobl newid neu ganslo eu harchebion. Ond beth am pan fydd pawb yn canslo? Doedd hyn erioed wedi digwydd o’r blaen, roedd yn ddigynsail, ond roedd rhaid inni greu cynllun i gael hyd i ffordd drwyddo, ac nid dim ond drwyddo, ond yn barod i dyfu eto yn y pen arall.

Dyma’r sefyllfa y ces i fy hun ynddi ym mis Mawrth eleni, fel Rheolwr Gyfarwyddwr Destination Ski, asiantaeth deithio arbenigol sy’n gwerthu gwyliau sgïo i Ewrop a Gogledd America.  Roedd gennym ni gwsmeriaid i ffwrdd ar eu gwyliau oedd angen dod adre, cwsmeriaid yn barod i deithio, a staff dramor oedd angen pacio a dod adre’n gyflym – cymaint i’w drefnu a chyn lleied o amser.

Gwneud cynllun cadarn

Asgwrn cefn unrhyw fusnes yw cynllun da. Ac mae unrhyw syniad busnes yn dechrau gyda chynllun, sylfaen i adeiladu arni. Fel ar sawl adeg yn ystod oes fy musnes, roedd yn bryd llunio cynllun. Roedd yn bwysig bod yn realistig, dod i delerau â difrifoldeb y sefyllfa, ac ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy.

Yn ogystal â gwneud cynlluniau ar gyfer cwsmeriaid a staff, roedd o’r pwys mwyaf i gynllunio’n ariannol hefyd.

“Fe es i drwy ein holl daliadau misol i nodi pa rai allai gael eu lleihau a pha rai allai gael eu dileu’n gyfan gwbl, felly roedd hynny’n golygu lleihau’r lle yn y swyddfeydd, llai o wariant marchnata, a llawer o ostyngiadau llai hefyd mewn meysydd fel telathrebu ac argraffu.”

Yn wir, roedd yn eithaf da cael clirio pethau doedden ni ddim hyd yn oed yn eu defnyddio ond yn talu amdanyn nhw.

Gan fod fy ffrydiau incwm yn sychu, roedd angen imi sicrhau y gallai ein llif arian gynnal y busnes drwy’r pandemig, oedd yn olygu gweithio gyda’n banc i ddarparu arian ychwanegol y gallai fod ei ddefnyddio yn y dyfodol. Dyna pam mae’n bwysig nid yn unig cynllunio ar gyfer y tymor byr, ond nodi pwyntiau yn y dyfodol lle gallai llif arian fod yn broblem, a rhoi cynllun ar waith nawr i sicrhau eich bod chi ddim yn mynd i drafferthion. Mae’n golygu ein bod ni’n wynebu’r 12 mis nesaf gan wybod bod gennym gynllun wrth gefn rhag ofn bydd angen hynny.

Nodi cyfleoedd newydd

Mae Destination Ski yn asiantaeth deithio arbenigol, ac o fewn y busnes, mae gennym ddau frand arall hefyd, y ddau ohonynt hwythau’n rhan o’r diwydiant teithiau sgïo. Hyd yma, mae hyn wedi gweithio’n dda iawn tra bod pobl yn gallu teithio. Fodd bynnag, gyda’r gaeaf yn dod yn agosach  o hyd a chyfyngiadau teithio yn aros yn eu lle, am y tro, mae’n golygu bod rhaid i ni chwilio am gyfleoedd newydd i sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i weithredu.

“Mae rhedeg busnes llwyddiannus yn golygu meddwl yn barhaus am sut gallwch chi ddatblygu syniadau, arloesi, arbrofi a gweithredu strategaethau newydd.”

Yn ein hachos ni, rydyn ni’n edrych ar sut gallwn ni drawsnewid ein sylfaen busnes a chwsmeriaid o gynnig gwyliau sgïo yn y gaeaf yn unig, i un sy’n cynnig gwyliau drwy gydol y flwyddyn, fel bod modd i ni fanteisio ar y galw sydd wedi cronni am deithio cyn gynted ag y caiff cyfyngiadau teithio eu llacio.  Daw hyn yn ôl at greu cynllun, gosod nodau tymor byr a thymor hir, ac yna llawer o waith caled i’w weithredu – dylai ein brand gwyliau haf newydd fod yn cael ei sefydlu yr hydref yma, ond bydd ffordd hir i fynd i’w ddatblygu’n frand teithio cydnabyddedig fydd yn eistedd ochr yn ochr â’n portffolio presennol.

Canolbwyntiwch ar yr hyn y gallwch ei wneud

Ar hyn o bryd mae llawer iawn o bethau’n digwydd sydd y tu hwnt i’n rheolaeth yn llwyr, felly mae’n bwysig canolbwyntio ar y pethau y gallwch eu gwneud yn hytrach na chaniatáu i’r cylch di-baid o newyddion negyddol eich digalonni.  Drwy ganolbwyntio ar y pethau hyn byddwch yn gallu gweld canlyniadau yn hytrach na phoeni yn unig. Fe wnes i ddarganfod bod y cyfnod pan oedd y busnes yn dawel yn ddelfrydol ar gyfer gwneud pethau y bu angen i mi eu gwneud ers tro, fel symud cwpl o’n gwefannau i weinydd gwe newydd wedi’i ddiweddaru.  Cafwyd cyfle hefyd i ymchwilio’n ddyfnach i gynnwys ein gwefan i weld ble gallwn ni wneud gwelliannau.

Edrych i’r dyfodol

Mae’n amhosibl gwybod sut bydd yr ymateb i COVID-19 yn datblygu yn ystod y chwech i ddeuddeg mis nesaf. Rwy’n gwybod, os yw fy musnes i ffynnu pan ddeuwn ni’n nes at yr hyn oedd yn arfer bod yn normal, bod angen i mi fod yn barod gyda’m cynllun, gyda’m syniadau newydd, ac agwedd gadarnhaol i fwrw ymlaen unwaith eto.

“Rwy’n credu bod busnes yn fater o esblygu, ac mae hwn yn sicr yn gyfnod i wneud hynny.”

Mae’n sicr yn mynd i fod yn flwyddyn ddiddorol o’n blaenau i’r diwydiant teithio, wrth i gyfyngiadau teithio gael eu gweithredu a’u llacio, ac rwy’n siŵr, wrth i ni ddod allan o hyn, y bydd galwadau am newidiadau i’r ffordd y mae’r diwydiant yn gweithredu, yn ogystal â newidiadau i ddeddfwriaeth. Felly mae digon o bethau newydd i’n cadw ar flaenau ein traed.

Mae’n bosibilrwydd brawychus pan fydd gennych chi fusnes i’w redeg. Mae cynifer o bethau’n anhysbys.  Ond, ar y llaw arall, mae’n bryd rhoi cynnig ar bethau newydd, yn adeg i newid, a chyda hynny daw’r cyffro o roi fy holl brofiad ar waith i wneud yn siŵr ein bod ni’n barod i dyfu wrth i ni drechu COVID-19 gyda’n gilydd.

Steve Hull yw Rheolwr Gyfarwyddwr Destination Ski asiantaeth deithio a seiliwyd ar wyliau sgïo hyblyg.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Steve wedi rhannu ei arbenigedd busnes gyda charfannau MBA Prifysgol Caerdydd, gan gynnig cymorth, adborth ac arweiniad yn Noson Gyflwyno Cynllun Busnes flynyddol yr MBA.