Skip to main content

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Anabledd Cyfreithiol? Profiadau gyrfa pobl anabl sy’n gweithio ym mhroffesiwn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr: ymchwil ac adnoddau

21 Medi 2020
Yr Athro Debbie Foster gydag aelodau o’r Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau.

Fel yr esbonia’r Athro Debbie Foster o Ysgol Busnes Caerdydd (ymchwilydd arweiniol), mae Anabledd Cyfreithiol? yn brosiect cydweithredol parhaus unigryw. Fe’i dewiswyd i dderbyn cyllid gan Anabledd Cymru, gyda’r grant yn dod o fenter gan y loteri genedlaethol sy’n cynnwys cyrff hawliau anabledd ar draws pedair gwlad y DU. Cynhaliwyd gwaith ymchwil mewn partneriaeth â Dr Natasha Hirst (ymchwilydd anabledd annibynnol) ac Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau (LDD) Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.

Crëwyd nifer o adnoddau gwerthfawr hefyd: adroddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth (y cyntaf o’i fath yn y DU) ar brofiadau gyrfa pobl anabl ym mhroffesiwn y gyfraith; gwefan prosiect a fideos proffil personol. Mae’r rhain yn herio’r hyn y mae cyfranogwyr y prosiect yn credu sy’n ‘ddiwylliant o ddyhead isel’, a briodolir fel mater o drefn i bobl anabl yn y farchnad lafur yn y DU. 

Pobl anabl yw’r grŵp sy’n dioddef fwyaf o ddiffyg cynrychiolaeth deilwng ym mhroffesiwn y gyfraith. Canfu ein hymchwil eu bod nid yn unig yn wynebu rhwystrau corfforol/synhwyraidd (e.e. amgylcheddau gwaith a llysoedd anhygyrch), ond hefyd rwystrau diangen sy’n deillio o arferion, agweddau a defodau anhyblyg. Yn arwyddocaol, canfuom yn 2020 fod cyfreithwyr, bargyfreithwyr a barnwyr anabl yn dal i fod yn ‘annisgwyl’ yn y proffesiwn, yn profi cam-drin, heb ddarpariaethau priodol ar eu cyfer a’u bod yn adnodd talent na chaiff ei ddefnyddio.

Yn aml caiff proffesiwn y gyfraith ei ystyried yn gadarnle i’r breintiedig, ond mae’n gynyddol ymwybodol o’r angen i adlewyrchu a chynrychioli grwpiau amrywiol yn y gymdeithas, a hynny yn anad dim i ateb cyhuddiadau bod y gyfraith yn cael ei llunio gan normau ar sail dosbarth a rhywedd, sy’n hiliol ac sy’n gwahaniaethu ar sail abledd. Drwy ddefnyddio methodoleg cyd-gynhyrchu ceisiodd y prosiect nid yn unig gynhyrchu gwybodaeth, ond hefyd rymuso pobl anabl yn y proffesiwn i gyfrannu at y wybodaeth honno a’r adnoddau a gynhyrchir a’u defnyddio i sicrhau newid a mwy o gynrychiolaeth.

Cynrychiolwyr yng nghynhadledd Anabledd Cyfreithiol? ym mis Ionawr 2020.

Fel rhan o’n hagenda effaith cynhaliwyd cynhadledd yn yr Academi Brydeinig yn Llundain ym mis Ionawr 2020 i gyflwyno a thrafod canfyddiadau ein hymchwil. Roedd cymdeithasau proffesiynol a rheoleiddwyr yn bresennol yn ogystal â phobl anabl yn y proffesiwn, a denodd gryn sylw.

Gallwch weld yr adroddiadau ymchwil, y datganiad i’r wasg ac adroddiad y gynhadledd ar ein gwefan.

Rydym yn parhau i gyd-gynhyrchu adnoddau gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr i alluogi’r proffesiwn i roi argymhellion yr ymchwil ar waith.

Yn ystod y cyfnod clo yn 2020, cyd-gynhalion ni nifer o ddigwyddiadau bord gron rhithwir hefyd gyda’r LDD a thîm Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas y Cyfreithwyr. Denodd y rhain dros 100 o bobl o bob rhan o broffesiwn y gyfraith ac roedd yn gyfle i ni gyflwyno ein hymchwil i gynulleidfa fwy a hefyd i gyfranogwyr holi cwestiynau.

Gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr, aethom ati hefyd i hyrwyddo cyfres o ‘Fanteision Rhwydd’, a dynnwyd o’n hargymhellion ymchwil, i gwmnïau a sefydliadau eu hystyried. Caiff yr adnoddau hyn eu hychwanegu at ein gwefan wrth iddyn nhw gael eu cwblhau.

Anabledd Cyfreithiol? a Chymdeithas y Cyfreithwyr: Digwyddiad bord gron rhithwir 2020.

Adnodd arall rydym ni wedi’i greu drwy gyllid Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd yw cyfres o ‘Broffiliau Personol’. Mae’r rhain yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl anabl sy’n gweithio ym mhroffesiwn y gyfraith ar hyn o bryd.

Yn rhy aml dywedir wrth bobl ifanc anabl fod rhaid iddynt gyfyngu eu dyheadau gyrfaol, ond cawsom gyfarfod â llawer o bobl anabl yn ystod ein hymchwil oedd naill ai wedi cael yr offer, cymorth ymarferol ac anogaeth gywir, neu a wrthododd wrando ar stereoteipio negyddol ac a aeth ymlaen i gyflawni eu dyheadau. Cytunon nhw i siarad ar gamera am eu profiadau er mwyn annog pobl anabl uchelgeisiol eraill i fynd i faes y gyfraith.

Rob Camm, cyfreithiwr dan hyfforddiant.
Sarah Viner, Gweithredwr Cyfreithiol yn y cwmni bancio buddsoddi UBS.

Caiff fideos ac adnoddau eraill eu hychwanegu wrth gael eu datblygu.

Mewn partneriaeth â Chymdeithas y Cyfreithwyr, lansion ni arolwg yn ystod haf 2020 i gasglu data ar effaith COVID-19 ar gyfreithwyr anabl mewn cyflogaeth a hyfforddiant. Roedd ein hymchwil flaenorol wedi canfod mai hyblygrwydd a gweithio gartref oedd yr addasiadau rhesymol y gofynnwyd amdanynt amlaf ond a wrthodwyd, ac yn ystod y cyfnod digynsail o weithio gartref dros y cyfnod clo roedd gennym ni ddiddordeb i weld a oedd profiadau gwaith y grŵp hwn wedi gwella.

Mae’r cyfleoedd ar gyfer ailgynllunio swyddi er budd pobl anabl, mewn sector sydd wedi glynu at waith swyddfa traddodiadol, yn well nag y buon nhw erioed. Byddwn yn trafod ein canfyddiadau cychwynnol yn Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Mercher 30 Medi 2020.

Cofrestru i ddod i’r digwyddiad rhithwir hwn.

Yn dilyn hyn, caiff y canfyddiadau a’r argymhellion llawn eu lansio gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ym mis Hydref.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Brosiect Anabledd Cyfreithiol drwy ein dilyn ar Twitter @LegallyDisabled a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr legallydisabled.com.

Mae Deborah Foster yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd

Mae Natasha Hirst yn ymchwilydd ac yn newyddiadurwr ffotograffig annibynnol.