Skip to main content

COVID-19

Mae angen trethiant cynyddol arnom, a threth gyfoeth, i dalu am becynnau achub COVID-19

14 Medi 2020
Felly gallwn ddisgwyl y bydd ymyriad cyllidol llwyddiannus yn arwain at gynydd mewn chwyddiant yn y pen draw, os nad nawr, yna wrth i’r economi adfer.

Mae’n debygol y bydd cost pecynnau achub COVID-19 yn cael ei hariannu’n rhannol gan chwyddiant uwch, a fydd yn effeithio’n anghymesur ar bobl a gweithwyr llai cefnog, gan gynnwys staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Mae Dr Wojtek Paczos a Dr Paweł Bukowski (Ysgol Economeg Llundain) yn dadlau y dylai llywodraethau, er mwyn lledaenu’r baich hwnnw’n fwy teg, ystyried trethi incwm sy’n cynyddu ar raddfa a chyflwyno treth gyfoeth dros dro.

Chwyddiant yn dychwelyd?

Mae’r argyfwng COVID-19 wedi atgyfodi’r ddadl am chwyddiant. Mae rhesymau da i gredu y gallai ddychwelyd yn fuan. Yn gyntaf, arweiniodd y mesurau cloi at grebachiadau sydyn yn y cyflenwad cyfanredol a’r galw cyfanredol. Er bod y ddau yn niweidio cynhyrchiant a chyflogaeth, maent yn cael effeithiau i’r gwrthwyneb ar brisiau – mae crebachiadau yn y galw yn lleihau chwyddiant, tra bod crebachiadau yn y cyflenwad yn ei gynyddu. Mae’r effeithiau hyn yn anghytbwys ar draws sectorau’r economi. Cafodd y gostyngiad yn y chwyddiant mesuredig ym mis Ebrill a mis Mai 2020 ei yrru’n bennaf gan ddatchwyddiant mewn trafnidiaeth a dillad ac arafiad yn y sector tai. Mae hyn yn ddigynsail ac yn debygol o fod dros dro gan mai sectorau trafnidiaeth a thai oedd y cyfranwyr mwyaf at y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys chwyddiant costau tai perchnogion preswyl (CPIH) dros y deng mlynedd diwethaf. Ar yr un pryd, cynyddodd chwyddiant mesuredig mewn bwyd a hamdden a diwylliant (ONS, Mehefin 2020).

Yn ogystal, arweiniodd y mesurau cloi at newidiadau mawr yng nghyfansoddiad y fasged defnydd. Yn syml, nid yw rhai eitemau ar gael i’w prynu – bron i 15% o’r fasged CPIH nodweddiadol (ONS, Mai 2020), ond mae rhai eraill, er eu bod ar gael o hyd (petrol) yn cael eu prynu gryn dipyn yn llai. Felly, mae Dixon (Mai 2020) yn dadlau yn y DU, mae’n debygol bod y mynegai CPIH swyddogol yn tanamcangyfrif y gwir chwyddiant.

Yn ail, mae ymyriadau cyllidol enfawr yn y DU a gweddill y byd fel ei gilydd yn dibynnu ar fanciau canolog cenedlaethol (ac undeb-gyfan) yn darparu hylifedd brys ychwanegol. Yn y DU, mae hyn hyd yn oed wedi bod ar ffurf Banc Lloegr yn cyllido’r llywodraeth yn ariannol yn uniongyrchol. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yr ymyriad ariannol yn cynyddu’n fecanyddol faint o arian sydd mewn cylchrediad. Fodd bynnag, ni all y galw gynyddu ar y cyd oherwydd y mesurau clo. Bydd hyn, yn ôl theori meintiol arian, yn arwain at chwyddiant uwch: “Pan fydd stociau a stocrestrau’n isel, bydd y system brisiau yn cyfateb i’r meintiau llai a’r cynnydd mewn gwariant yn y ffordd arferol. Bydd prisiau yn codi.” (Baldwin, Mawrth 2020).

Yn drydydd, pan gaiff y mesurau clo eu codi, bydd y galw yn codi unwaith eto. Mae Goodhart a Pradhan (Mawrth 2020) yn dadlau, gan y bydd hyn yn digwydd yn dilyn cyfnod o becynnau achub cyllidol ac ariannol enfawr, y gallai arwain at ymchwydd mewn chwyddiant o fwy na 5%. Mae Roach (Mai 2020) yn awgrymu y gallai’r amhariadau ar gadwyni cyflenwi byd-eang a dychweliad gweithgynhyrchu oddi ar y tir waethygu’r sefyllfa hon. Os mai hyn fydd y “normal newydd”, bydd yn golygu costau cynhyrchu uwch a phrisiau uwch ar gyfer cynhyrchion terfynol.

Felly gallwn ddisgwyl y bydd ymyriad cyllidol llwyddiannus yn arwain at gynydd mewn chwyddiant yn y pen draw, os nad nawr, yna wrth i’r economi adfer. Bydd hyn yn newyddion da – byddai prisiau sefydlog neu rai sy’n disgyn yn arwydd nad yw’r polisi cyllidol wedi cyrraedd ei lawn botensial.

Pwy sy’n talu’r treth chwyddiant?

Mae’r dosbarth canol yn fwy agored i chwyddiant wrth i’w gwariant gynyddu’n gymharol fwy pan fydd chwyddiant yn taro.

Mae chwyddiant, waeth p’un a fydd yn cael ei adlewyrchu’n gywir yn y CPIH ai peidio, ar ffurf treth incwm a threth gyfoeth. Mae’n lleihau gwerth cynilion a chyflogau mewn unedau defnydd. Felly, gellir ystyried y pecyn achub fel offeryn ailddosbarthu: trosglwyddiad i’r rhannau o’r economi sydd wedi’u taro gan yr argyfwng y telir amdanynt gan chwyddiant a threthi’r dyfodol.

Nid yw chwyddiant yn dreth mor egalitaraidd ac yr ymddangosir. Mae’n effeithio’n bennaf ar dri grŵp. Y grŵp cyntaf yw’r gweithwyr lle nad yw eu cyflogau’n codi mor gyflym â chwyddiant. Mae’r rheiny’n cynnwys gweithwyr allweddol o’r sector cyhoeddus (nyrsys, meddygon, ymatebwyr cyntaf, athrawon), y mae eu cyflogau enwol wedi’u rhewi ers 2010 oherwydd mesurau cyni (Dolton 2017). Oni bai bod chwyddiant yn cael ei wrthbwyso â’r cynnydd yn yr isafswm cyflog, bydd hefyd yn effeithio ar alwedigaethau sgiliau isel a chanolig o’r sector preifat. Nid yw hon yn ffenomen newydd – ers 2007 mae’r cyflog canolrifol go iawn yn y DU wedi crebachu o 3%, y cwymp mwyaf yn Ewrop ar ôl Gwlad Groeg (Costa a Machin 2019).  Mae’r lefelau isaf erioed o undeboli (Farber et al. 2018) a phŵer bargeinio gwan iawn gweithwyr (Bell et al. 2018) yn awgrymu y bydd y ffenomen hon yn parhau hefyd ar ôl argyfwng COVID-19.

Mae effaith chwyddiant yn dibynnu ar gyfansoddiad y fasged defnydd. Mae cartrefi sy’n defnyddio nwyddau a gwasanaethau gyda phrisiau mwy sefydlog, fel gwersi, gofal plant neu gynhyrchion moethus, wedi’u cysgodi i ryw raddau o’r cynnydd cyffredinol mewn prisiau. Mae’r ymchwil diweddar ar aelwydydd yr Unol Daleithiau yn dangos mai pobl incwm uchel yw’r rheiny ar y cyfan (Cravino et al.  2020). Ar y llaw arall, mae’r dosbarth canol yn fwy agored i chwyddiant wrth i’w gwariant gynyddu’n gymharol fwy pan fydd chwyddiant yn taro.

Yn olaf, mae chwyddiant yn fwy pwysig i bobl sy’n cadw eu cynilion yn bennaf mewn cyfrifon banc rheolaidd. Mae’r rhain yn cynnig cyfraddau llog enwol isel yn hanesyddol ac nid ydynt yn diogelu cynilwyr rhag chwyddiant. Mae’r rhan yn bennaf o’r dosbarthiadau isel a chanol. Ar y cyfan, mae pobl gefnog yn berchen ar fwy o eiddo tiriog (real estate) a safleoedd busnes, yn ogystal â chynhyrchion ariannol, y mae enillion arnynt yn hanesyddol wedi gor-golledu am chwyddiant (Crowe 2005, Piketty 2020).

Felly, mae chwyddiant yn dreth incwm a chyfoeth atchwel (regressive) – po’r isaf yw’r incwm, yr uchaf yw’r gyfran ohono a gaiff ei drethu gan chwyddiant. Mae’r baich hwn hefyd yn disgyn yn anghymesur ar weithwyr rheng flaen. Beth ellir ei wneud i ledaenu cost pecynnau achub yn fwy cyfartal?

Trethi incwm a chyfoeth cynyddol

Treth ar y gorffennol yw treth gyfoeth, yn hytrach na threth ar ffrydiau incwm y dyfodol.

Rydym ni’n cynnig datrysiad dwy haen. Yn gyntaf, i ddiogelu staff rheng flaen rhag chwyddiant, dylid cynyddu eu cyflogau. Dylai hyn fod yn rhan o becyn ehangach o hybu gwariant ar y GIG. Mae argyfwng y coronafeirws wedi profi na ddylid trin gofal iechyd fel gwariant, ond yn hytrach fel buddsoddiad. Buddsoddiad a allai fod wedi achub yr economi.

Yn ail, gallai’r gwariant newydd hwnnw, yn ogystal â’r ddyled gyhoeddus newydd sy’n ariannu’r pecynnau achub, gael eu talu’n rhannol gyda threth gynyddol a godir ar y rheiny a oroesodd yr argyfwng heb lawer o effaith arnynt. Gallai hyn fod trwy dreth gyfoeth ar werth net yr 1% o’r unigolion cyfoethocaf. Cyflwynodd Landais, Saez a Zucman (Ebrill 2020) gynnig o dreth gyfoeth gynyddol dros dro ledled yr Undeb Ewropeaidd gyda thair cyfradd: 1% o werth net uwchlaw €2 filiwn (£1.75 miliwn), 2% o werth uwch na €7 miliwn (£8 miliwn) a 3% o werth uwch na €1 biliwn (£870 miliwn). Maent yn amcangyfrif y byddai’r dreth newydd hon yn talu’r ddyled newydd maint 10% o’r GDP ar ôl 10 mlynedd.

Mae dwy brif fantais i’r datrysiad hwn: Gan fod cyfoeth y rhai mwyaf cefnog hefyd yn hylifol mewn rhannau sylweddol, ni fyddai’n rhaid iddynt werthu asedau nad ydynt yn hylifol (fel eu tŷ) i dalu’r dreth. Er enghraifft, mae gwarantau ac arian parod yn cyfrif am fwy na 40% o werth cyfalaf gros ystadau sydd â gwerth net uwch na £1 miliwn (ONS 2019). Yn ail, treth ar y gorffennol yw treth gyfoeth, yn hytrach na threth ar ffrydiau incwm y dyfodol. Nid yw’n ystumio penderfyniadau ar ddefnydd, cynilion, cyflenwad llafur na buddsoddi. Cyflwynwyd trethi cyfoeth dros dro o’r fath mewn llawer o wledydd ar ôl y Rhyfeloedd Byd, er enghraifft, yr Almaen, Japan a Gwlad Pwyl. Bu bron i’r DU gyflwyno treth gyfoeth barhaol yn ystod llywodraethau Llafur Harold Wilson a James Callaghan yn 1974-1976.

Mae Milton Friedman yn enwog am ddweud nad oes y fath beth a chinio am ddim. Mae pecynnau achub yn adnodd polisi angenrheidiol yn yr argyfwng presennol, ond nid ydynt yn dod am ddim. Bydd yn gostus i achub yr economi a bydd yn rhaid talu’r costau hynny, yn hwyr neu’n hwyrach, ar ffurf cynnydd mewn trethi.  Mae lledaenu’r baich hwn yn deg yn y dyfodol yr un mor bwysig â manylion y pecynnau achub heddiw. Hebddo, bydd costau’n disgyn yn anghymesur ar y rheiny sydd eisoes yn talu’r pris uchaf heddiw.

Mae Dr Wojtek Paczos yn facroeconomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl.

Mae Dr Paweł Bukowski yn ymchwilydd a darlithydd yn y Ganolfan Perfformiad Economaidd, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar flog COVID-19 Ysgol Economeg Llundain (LSE).