Skip to main content

COVID-19

Cyfnod clo COVID-19 ac anghenion gweithwyr dillad yn Bangalore, India

20 Hydref 2020

Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae’r Athro Jean Jenkins yn egluro’r gwaith mae hi wedi ymgymryd ag ef ynghyd â chydweithwyr fel rhan o brosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar Weithredoli Hawliau Llafur.

Ers mis Hydref 2018, mae ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r corff anllywodraethol, Cividep-India. Rydym ni wedi bod yn dadansoddi data ar b’un a yw gweithwyr dillad yn Bangalore yn gallu cael mynediad at gamau unioni (hynny yw, y camau a gymerir i atal, ymchwilio, cosbi ac unioni achosion o gam-drin hawliau dynol sy’n gysylltiedig â busnes) ar lefel y gweithle.

Gweithredoli Hawliau Llafur (OLR) yw teitl ein prosiect. Fe wnaethom ni gyflwyno rhai o’r canfyddiadau rhagarweiniol i Bartneriaeth Tecstilau Cynaliadwy yr Almaen ym mis Ebrill 2020, ac rydym ni wedi cyfrannu ar drydedd cam Prosiect Hawliau Dynol Mynediad at Gamau Unioni (ARP III) Uwch-gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig.

Hyd yn hyn, rydym ni wedi canfod fod yr achosion canlynol o fynd yn groes i hawliau cyflogaeth a dynol yn gyffredin mewn ffatrïoedd dillad:

  • gwrthwynebiad clir ac agored cyflogwyr tuag at ryddid cysylltiad,
  • defnydd rheolaidd o godi cywilydd, ynysu, trais llafar a chorfforol fel dulliau i reolwyr reoli,
  • amharu’n fwriadol ar barhad gwasanaeth fel ffordd o gyfyngu ar hawliau statudol gweithwyr a’r posibilrwydd o greu undeb,
  • addasu gwaith papur er mwyn gwadu gweithwyr eu hawliau,
  • cau ffatrïoedd fel ffordd o wadu gweithwyr eu hawliau, gan gynnwys dwyn cyflogau.

Ar 24 Mawrth 2020, daeth ein hastudiaeth i stop dros dro yn sydyn, gyda chyhoeddi’r cyfnod clo yn India gyda dim ond pedair awr o rybudd. Collodd gweithwyr dillad eu gwaith wrth i ffatrïoedd gau eu drysau, gyda brandiau rhyngwladol yn canslo archebion y dyfodol a rhai hyd yn oed yn torri contractau ar gyfer gwaith a oedd eisoes wedi’i gwblhau.

“O ganlyniad i’r caledi ofnadwy a ddilynodd, dechreuodd cannoedd ar filoedd o weithwyr gerdded adref i’w pentrefi tra bod y rhai a arhosodd yn Bangalore heb yr incwm yr oedd ei angen arnynt i dalu eu rhent neu brynu bwyd.”

Mewn cyd-destun argyfwng, cydweithiodd tîm prosiect OLR yn India a Chaerdydd i addasu adnoddau ymchwil OLR (ffonau ac e-lechi) i alluogi’r Undeb Llafur Dillad a Chymdeithas Cymdeithasol Munnade i gysylltu â gweithwyr mewn angen. Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai 2020, fe wnaethom ni gofnodi 412 o weithwyr mewn angen argyfyngus am fwyd a chyflenwadau meddygol. Roedd bron i 90% o’r bobl hyn yn weithwyr dillad, gyda’r gweddill yn weithwyr adeiladu neu ddomestig. Roedd y rhan fwyaf ohonynt (83%) yn ymfudwyr o ardaloedd eraill a ddaeth i Bangalore i chwilio am waith, yn byw gyda’u teuluoedd agos a gydag aelodau o’u teulu a oedd yn dibynnu ar eu hincwm.

Roedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr (ychydig dros 92%) yn byw mewn llety rhent, a phan ofynnwyd iddynt a oedd ganddynt ddigon o arian i fforddio talu’r rhent a’r hanfodion byw sylfaenol, dywedodd dim llai na 96% nad oedd ganddynt. Tra bod y llywodraeth wedi gorchymyn cyflogwyr i dalu gweithwyr tan ddiwedd mis Mawrth 2020, roedd oddeutu 30% o’r gweithwyr yn ein data dim ond wedi cael eu talu’n rhannol. Yn wir, roedd oddeutu 10% heb gael unrhyw dâl ar gyfer mis Mawrth ac mewn misoedd dilynol, dywedodd bron i draean nad oeddent wedi cael unrhyw dâl ers cyflwyno’r cyfnod clo yn wreiddiol.

Wrth i argyfwng COVID-19 barhau, dechreuodd ffatrïoedd dillad mwy ail-agor eto yn Bangalore tuag at ddiwedd mis Mai 2020, ond mae’r sefyllfa yn parhau i fod yn anrhagweladwy ac yn agored i gyfnodau clo lleol. Mewn mannau eraill, mae’r sector dillad mewn argyfwng byd-eang a’r gweithwyr, fel ag erioed, sy’n dioddef o’r herwydd.

Mae ein partneriaid yn India, Cividep, yn parhau â’u gwaith i gefnogi gweithwyr dillad ar lawr gwlad. Wrth i ffatrïoedd ail-agor yn Bangalore, mae diweithdra yn parhau i fod yn uchel ac mae llawer o weithwyr dillad yn methu â chael eu hen swyddi yn ôl.  I’r rheiny sydd yn ôl mewn ffatrïoedd, mae pwysau yn y gweithle wedi cynyddu a’r caledi yn parhau.

“P’un a yw cyflogwyr yn ymateb i’r straen cystadleuol sy’n gysylltiedig â’r pandemig neu’n manteisio ar y cyfle i ecsbloetio bregusrwydd cynyddol gweithwyr, mae bygythiad go iawn o weld ‘normal newydd’ o safon is ar gyfer hawliau llafur, rhyddid undebau llafur ac amodau gweithio.”

Mae tîm ymchwil OLR yn ymwybodol iawn y gall mynediad at gamau unioni ddod yn anoddach fyth i weithwyr dillad ei gael yn y dyddiau sydd o’n blaenau. Yn y cyd-destun hwn, rydym ni’n parhau i fod yn benderfynol o ddeall a chofnodi realiti gweithleoedd yn y gobaith y gall ein hymchwil gyfrannu at newid mwy positif a gwaith boddhaol i bawb.

Mae Jean Jenkins yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Caiff prosiect Gweithredoli Hawliau Llafur ei ariannu gan Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang ESRC – cyfeirnod grant: ES/S000542/1.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar flog WISERD.