Skip to main content

Entrepreneuriaeth

“Byddwch yn driw i chi eich hun a’ch breuddwydion”

21 Hydref 2020
Dyna gyngor Bernie Davies, entrepreneur llewyrchus sydd ar genhadaeth i ysbrydoli unigolion i ddilyn eu breuddwydion a dechrau busnesau trwy eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu bywydau.

Bydd llawer o fyfyrwyr yn dyheu am redeg eu busnesau eu hunain ar ôl astudio yn y brifysgol. Gan ohebu ar gyfer Gair Rhydd, papur newydd myfyrwyr Caerdydd, cyfarfu Matt Ellis, myfyriwr israddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd, â’r awdur a’r wraig fusnes Bernie Davies sydd wedi ysgrifennu llyfr am sut i wneud hynny. Yn ystod eu sgwrs, cynigiodd hi beth cyngor i egin entrepreneuriaid.

“Rhaid i fyfyrwyr sy’n dyheu am fod yn entrepreneuriaid a rhedeg eu busnesau eu hunain yn y dyfodol ymddiried yn eu greddfau a bod yn driw I’r hyn sy’n eu gwneud yn wreiddiol ond rhaid hefyd iddynt weithio’n galed, paratoi ar gyfer cyfleoedd a rhwydweithio’n helaeth.”

Dyna gyngor Bernie Davies, entrepreneur llewyrchus sydd ar genhadaeth i ysbrydoli unigolion i ddilyn eu breuddwydion a dechrau busnesau trwy eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu bywydau. Mae’n dweud bod ei negeseuon yr un mor berthnasol i fyfyrwyr sy’n ystyried eu breuddwydion ag i weithredwyr busnes profiadol sy’n chwilio am ysbrydoliaeth am fenter newydd.

“I lwyddo mewn busnes, rhaid i chi fod yn wreiddiol a nodi eich cryfderau craidd gwirioneddol. Rhaid i chi frwydro dros bopeth a pheidio byth â rhoi’r gorau iddo,” meddai Bernie.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Davies lyfr newydd Your Business Your Way, sydd â’r nod o helpu unigolion i gyflawni eu potensial mewn busnes trwy gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n wirioneddol unigryw amdanynt a’r busnesau maent yn eu creu.

A chanddi CV hynod amrywiol, daeth Davies i’r amlwg yn wreiddiol fel atwrnai yng nghyfraith, gan symud ymlaen yn gyflym i fod yn bennaeth eiddo gyda NewLaw Solicitors.  Ers hynny, mae hi wedi symud ymlaen i greu gyrfa iddi’i hun fel entrepreneur, strategydd busnes, siaradwr ysgogol ac awdur. Mae ei rhestr helaeth o lwyddiannau’n cynnwys darparu seminarau hyfforddi misol hynod boblogaidd ar ei phen ei hun i gannoedd o fusnesau yn ne Cymru, bod yn Esiampl Dynamo ar gyfer Llywodraeth Cymru, a bod yn berchen ar Introbiz West Wales busnes rhwydweithio arobryn.

Mae stori Bernie Davies yn anhygoel. O symud yn wreiddiol i’r DU o Jamaica, roedd hi’n wynebu’r posibilrwydd o fod yn ddi-waith a gorfod hawlio lwfans ceisio gwaith, gan ymateb i hyn trwy gychwyn ei helusen ei hun er mwyn sefydlu ei thiriogaeth yn y DU. “Roeddwn bob amser yn teimlo’r awydd am y rhyddid i fynegi fy hun, ac roedd meddu ar yr hunanhyder a’r hunan-gred hynny yn bendant yn un o’r prif ffactorau yn fy mhenderfyniad i ddilyn gyrfa mewn busnes,” meddai hi.

Trwy gydol y llyfr, mae Davies yn pwysleisio pwysigrwydd darganfod eich rheswm “pam” elfen allweddol ar gyfer llwyddiant.

“I lwyddo mewn busnes, rhaid i chi fod yn wreiddiol a nodi eich cryfderau craidd gwirioneddol. Rhaid i chi frwydro dros bopeth a pheidio byth â rhoi’r gorau iddo.”

Mae Your Business Your Way hefyd yn canolbwyntio’n helaeth ar y syniad o rwydweithio. Mae rhwydweithio wedi dod yn rhan annatod o fusnes ac mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i fyfyrwyr ei ddeall er mwyn cael cyflogaeth lwyddiannus ar ôl y brifysgol. Yn ei geiriau ei hun, mae Davies yn credu bod “llwyddiant yn dod o gyfle a pharatoi”, a bod rhaid i fyfyrwyr baratoi’n drwyadl, gofyn cwestiynau a gwrando’n astud er mwyn bod yn rhwydweithwyr llwyddiannus.

Yn lle pobl enwog, mae Davies yn annog myfyrwyr i ystyried “pobl go iawn” fel yr esiamplau i’w dilyn mewn bywyd. Mae’n dweud mai ei theulu yw ei phrif ysbrydoliaeth, gan gynnwys ei mam, ei thad a’i brawd-yng-nghyfraith, sydd bob amser yn mynegi eu hunain trwy “waith caled a gonestrwydd” dyma’r un rhinweddau sydd wedi galluogi Davies i ennill Eicon Ddu Abertawe 2019, yn ogystal a chael lle trwy bleidlais yn y 100 gwraig fusnes orau yng Nghymru ar gyfer 2017.

Gyda phob llwyddiant, mae llawer o heriau. Ei her fwyaf mewn busnes yw rheoli pobl, yn yr ystyr nad oes un dull cywir o ymdrin â phobl. Mae’n honni mai “pobl yw’r adnodd pwysicaf”

I leddfu straen, ei chyngor gorau yw dechrau calonogi eraill, lledaenu agwedd gadarnhaol a rhoi gobaith i eraill. Ar gyfer iechyd meddwl da, mae Davies yn argymell myfyrdod boreol, ynghyd â llunio rhestr wirio ddyddiol i sicrhau bod nodau’n cael eu ticio trwy gydol y dydd.

I unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb mewn dechrau busnes, mae’r cyngor yn syml sicrhewch eich bod yn gwybod pwy rydych chi. Dylech chi ddatblygu uchelgais a chanolbwyntio ar eich crefft eich hun, gan bennu nodau ac amcanion y gellir eu cyflawni.

Mae Bernie Davies yn annog myfyrwyr i ddarllen ei llyfr. “Mae’r llyfr yn cynnwys popeth. Mae’n rhoi mewnwelediad gonest i’m gyrfa fusnes wrth eich cynorthwyo i ddod o hyd i’ch gwir bersonoliaeth a sut i ymgysylltu er mwyn gwneud busnes.”

Mae Your Business Your Way yn cynnig safbwynt unigryw ar ddatblygu busnes, gan helpu pobl i ddod o hyd i bwrpas wrth iddynt geisio darganfod eu hunain.

Mae Matt Ellis yn fyfyriwr israddedig trydedd flwyddyn sy’n astudio BSc Rheoli Busnes (Marchnata) yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Gair Rhydd – cylchlythyr myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.