Skip to main content

COVID-19

Risg sofran ar ôl COVID-19: Peidiwch ag anghofio’r ddyled ddomestig

30 Hydref 2020

Mae’r gostyngiadau sydyn mewn allbwn economaidd a gwariant ar raddfa fawr gan y llywodraeth yn sgil pandemig COVID-19 wedi arwain at risg uwch o ddiffygdaliadau sofran, yn arbennig mewn economïau sy’n datblygu.

Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Wojtek Paczos a Dr Kirill Shakhnov yn dadlau bod gostyngiad mewn allbwn yn unig yn cynyddu’r perygl o ddiffygdaliadau tramor, tra bod cynnydd sydyn mewn gwariant yn unig yn cynyddu’r perygl o ddiffygdaliadau domestig. Felly, o ystyried natur ddwbl sioc COVID, mae cynigion diweddar a fyddai’n lleddfu baich y ddyled dramor ar ôl COVID-19 mewn economïau sy’n datblygu yn angenrheidiol, ond efallai na fyddant yn ddigonol i atal ton o ddiffygdaliadau ar ddyled ddomestig.

Mae’r IMF wedi rhagweld y bydd allbwn y byd yn cyfyngu 4.9% yn 2020 (IMF 2020). Ar yr un pryd, mae llywodraethau wedi’u gorfodi i ddarparu pecynnau achub economaidd ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen i liniaru costau economaidd pandemig COVID-19. Bydd y cyfuniad o golledion mewn allbwn, gostyngiad mewn refeniw treth, a gwariant cyllidol cynyddol yn rhoi pwysau aruthrol ar gyllid cyhoeddus, yn enwedig mewn economïau sy’n datblygu ac sydd mewn dyled. Tynnwyd sylw at hyn gan Stiglitz a Rashid (2020) (wedi’i gyfieithu): “Gyda llawer o weithgarwch economaidd wedi’i atal a refeniw cyllidol yn cwympo’n rhydd, bydd llawer o wledydd yn cael eu gorfodi i ddiffygdalu. Bydd eraill yn dwyn adnoddau prin at ei gilydd i dalu credydwyr, gan dorri nôl ar wariant iechyd a chymdeithasol mawr ei angen.” 

Mae Ffigur 1 yn nodi graddfa ddisgwyliedig y twf go iawn yn y 
Cynnyrch Domestig Gros (GDP) a’r prif newidiadau mewn diffygion o 2019 (sêr gwyrdd) i 2020 (cylchoedd coch). O’i gymharu â 2019, disgwylir i dwf GDP y marchnadoedd sy’n datblygu yn 2020 fod 5.7 pwynt canran yn is, tra disgwylir i’w prif ddiffygion gynyddu o 4.3% o’r GDP. Mae’r mesurau cyllidol newydd, sy’n cynnwys gwariant ychwanegol a refeniw a gollwyd ar ffurf benthyciadau, ecwiti a gwarantau, yn cyfrif am 5.1% o’r GDP mewn economïau sy’n datblygu (IMF 2020). Mae’r duedd gyffredinol yn amlwg, gyda’r saethau sy’n cynrychioli newidiadau cyfartalog ar gyfer grwpiau gwledydd oll yn pwyntio tuag at y de-ddwyrain. 

Ffigur 1

Sut y dylid ariannu diffygion digynsail o’r fath ac ysgogi economïau? Hyd yn hyn, mae llywodraethau wedi pentyrru dyled er mwyn ariannu pecynnau achub ac adfer. Mae lefelau dyled uwch ynghyd â gostyngiad mewn allbwn a gwariant cynyddol y llywodraeth yn codi’r cwestiwn cynaliadwyedd eto. Oherwydd problem ymrwymo, bydd economïau sy’n datblygu yn ei chael hi’n anodd mynd i ddyled bellach i leihau effaith aflonyddwch economaidd. O ganlyniad, mae economegwyr a llunwyr polisi wedi galw am fesurau brys. Mae gwledydd y G20 wedi atal taliadau cyfradd llog ar ddyledion dwyochrog. Mewn gwaith diweddar, mae Bolton et al. (2020a, 2020b) yn dadlau am fesurau eang i “sefyll yn stond ar ddyled” a fydd yn cynnwys credydwyr preifat ac a fydd ar gael i set fawr o wledydd, gyda dyled hyd at $3 triliwn yn cael ei hystyried. Mae diddordeb academaidd cynyddol hefyd yn effeithiau economaidd COVID-19 ar economïau sy’n datblygu, gyda’r ymchwil ddiweddar wedi’i chrynhoi yn eLyfr VoxEU newydd (Djankov a Panizza 2020).

Mae’r drafodaeth yn y lenyddiaeth ddiweddar yn canolbwyntio ar ddyled allanol. Ac eto, dim ond traean o gyfanswm dyled gyhoeddus yr economïau sy’n datblygu yw’r ddyled allanol. Mae’r ddyled sy’n weddill yn ddyledus i fuddsoddwyr domestig. Nid yw diffygdaliadau ar ddyled ddomestig yn anghyffredin ac maent yn gysylltiedig ag aflonyddwch economaidd y gellir eu cymharu â’r rhai ar ôl diffygdaliadau tramor – ffaith a ystyrir i fod yn “hanes sydd wedi’i anghofio” mewn macro-economeg (Reinhart a Rogoff 2011). 

Nid yw dyledion domestig a thramor yn debyg iawn. Mae dyled dramor yn golygu trosglwyddo adnoddau i mewn ac allan o economi, a all helpu i greu defnydd gan liniaru’r cylch busnes. Ni all dyled ddomestig gyflawni hyn, gan fod ei chyhoeddi a’i had-dalu yn digwydd o fewn economi – nid yw benthyca domestig yn dod ag adnoddau ychwanegol i mewn. 

Mewn papur newydd (Paczos a Shakhnov 2020), rydym ni’n cynnig fframwaith damcaniaethol i ddadansoddi cynaliadwyedd dyled pan fydd gan lywodraeth rwymedigaethau domestig a thramor sy’n weddill. Yn y fframwaith hwn, mae llywodraeth yn arsylwi lefelau cynhyrchiant a diffyg ac yn gosod lefel y trethi llafur i godi refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion. Nid oes gan y llywodraeth ymrwymiad, felly gall benderfynu i beidio â thalu naill ai ei rhwymedigaethau tramor neu ddomestig (neu’r ddau). Gan fod yr aflonyddwch economaidd yn sgil pandemig COVID-19 wedi bod yn sydyn ac yn annisgwyl, rydym ni’n modelu newidiadau mewn cynhyrchiant a diffygion yn gredadwy fel datblygiadau alldarddol.

Yn ein model ni, mae ad-dalu yn gostus: mae’n rhaid i lywodraeth gynyddu trethi, sy’n ystumio’r economi yn fewndarddol. Fodd bynnag, yn achos dyled ddomestig, mae’r ystumiad hwn yn cael ei liniaru’n rhannol gan adnoddau sy’n llifo’n ôl i aelwydydd domestig. Mae diffygdalu hefyd yn gostus: yn seiliedig ar dystiolaeth empeiraidd (e.e. Reinhart a Rogoff 2011) rydym ni’n tybio, ar ôl diffygdalu, bod lefel cynhyrchiant economi yn gostwng. 

Fe ganfyddwn ganlyniad trawiadol: gwahaniad bron yn berffaith o benderfyniadau diffygdalu domestig a thramor. Mae diffygdalu tramor yn fwy tebygol ar ôl sioc cynhyrchiant negyddol, ac mae bron yn annibynnol ar lefel y gwariant cyhoeddus, tra bod diffygdalu domestig yn fwy tebygol ar ôl sioc gwariant cyhoeddus mawr ond mae bron yn annibynnol ar lefel y cynhyrchiant. Mae Ffigur 2 yn dangos y canlyniad hwn.

Ffigur 2

Mae’r graff yn fersiwn theori o’r empirig yn Ffigur 1. Mae’r echel fertigol yn cynrychioli lefel cynhyrchiant (A) ac mae’r echel lorweddol yn cynrychioli gwariant y llywodraeth (g) yn ôl graddfa’r allbwn (y∗). Mae’r llinellau toredig yn cynrychioli cyfuchliniau allbwn. Mae llinell ad-dalu dyledion tramor (soled) bron yn gyfochrog â’r cyfuchliniau allbwn, tra bod y llinell ad-dalu dyledion domestig (toredig) yn croesi cyfuchliniau allbwn yn serth. Ad-delir dyled pan fydd yr economi yn uwch na’r llinell ad-dalu. Mae gostyngiad sydyn a mawr yn A yn achosi i’r llywodraeth ddatgan diffygdaliadau yn ei dyled dramor. Mae cynnydd sydyn a mawr yn g ar y llaw arall yn achosi i’r llywodraeth ddatgan diffygdaliadau yn ei dyled ddomestig. Mae’r ddau sioc yn lleihau allbwn economi. Ar ôl ‘sioc Covid’, pan fydd A yn cwympo a g yn cynyddu, mae’r economi mewn risg o fynd i ddiffygio’n llwyr – gan symud i ran dde isaf y graff. 

Caiff union leoliadau’r llinellau ad-dalu ar y graff eu pennu gan baramedrau’r model, ond caiff eu gwahanol lethrau eu gyrru gan y mecanwaith economaidd ac maent yn gadarn i newidiadau paramedr. Mae aelwydydd yn trin diffygdaliadau tramor a domestig yn wahanol. Pan fydd llywodraeth yn diffygdalu ar ddyled dramor, mae’r economi’n dioddef dirywiad mewn cynhyrchiant ond mae aelwydydd yn elwa trwy drethi is. Mae’r cyfaddawd hwn yn annibynnol ar lefel gwariant y llywodraeth. Felly mae diffygdaliadau tramor yn cael eu gyrru’n bennaf gan sioc i gynhyrchiant. Pan fydd llywodraeth yn diffygdalu ar ddyled ddomestig, mae aelwydydd yn talu trethi is ond maent hefyd yn colli eu cynilion. O ganlyniad, maent yn gweithio fwy ac yn dod yn llai ymatebol i newidiadau mewn trethi. Mae’r ail effaith yn annibynnol ar lefel y cynhyrchiant. Felly mae diffygdalu domestig yn cael ei yrru’n bennaf gan sioc mewn gwariant.

Rydym ni’n dod i’r casgliad bod ‘sioc Covid’, sy’n lleihau allbwn ac yn cynyddu gwariant y llywodraeth, yn dod â’r economi yn agosach at ddiffygdalu’n llwyr. Hyd yn oed yn achos rhaglenni ailstrwythuro dyledion tramor a rhaglenni ‘sefyll yn stond’ sydd wedi’u dylunio’n dda, gallwn ddisgwyl ton o ddiffygdaliadau domestig o hyd. 

Cyfeirnodau

Mae Dr Wojtek Paczos yn facroeconomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl.

Mae Dr Kirill Shakhnov yn Ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Surrey.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Vox Eu.