Skip to main content

COVID-19

Goblygiadau annisgwyl COVID-19

5 Tachwedd 2020

Rydym yn clywed llawer am effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ac, yn anochel, gallwn ni weld yr effaith anferthol mae wedi’i chael ar gyflogaeth – yn benodol i’r rhai sy’n dioddef yn uniongyrchol oherwydd cau’r sectorau manwerthu, gwasanaethu a lletygarwch. Wrth i bob un o’r rhain ailagor yn ystod haf 2020, roedd gobaith bod y gwaethaf o’r feirws y tu ôl i ni ac y gallwn symud ymlaen.

Fodd bynnag, wrth i ni nesáu at ddiwedd mis Hydref, rydym yn gwybod mai gobaith ofer oedd hwn. Mae nifer yr achosion positif yn cynyddu, felly hefyd nifer y rhai sy’n cael eu derbyn i ysbytai ac mae cyfyngiadau symud newydd mewn gwahanol ardaloedd o’r DU, a allai newid i gyfnod clo cenedlaethol fel sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Mae’n mynd i fod yn aeaf anodd. Bydd yr effaith ar yr economi yn ddifrifol.

Ond, fel ymchwiliwr sy’n gweithio ym maes Rheoli Cyhoeddus, yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb I mi yw goblygiadau annisgwyl COVID-19 – y tu hwnt i’r ergydion economaidd ar draws y DU.

Datganoli

Yn gyntaf, mae’r pandemig wedi gwreiddio datganoli yn y DU mewn ffyrdd nad yw 20 mlynedd o ddatganoli wedi llwyddo i’w wneud.

Wrth i COVID-19 fwrw’r DU ym mis Mawrth 2020, roedd y rhai yn y cyfryngau’n cyflwyno adroddiadau newyddion am bolisi COVID yn rheolaidd fel petai’n berthnasol ar draws y wlad gyfan. O’r misoedd cynnar, roedd y gwallau hyn yn cael eu cywiro ac erbyn hyn rydym yn clywed yn rheolaidd am bolisïau gwahanol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae’r newid aruthrol hwn o’r gorffennol wedi dod yn arferol. Mae’r Prif Weinidogion yn cyflwyno eu polisïau a’u harweiniad eu hunain ac rydym ni, y cyhoedd, wedi ymgyfarwyddo â’r fformat hwn ar draws pedair gwlad y DU.

Ers y pandemig, mae bellach agenda bolisi pedair gwlad gryfach gyda’r potensial am amrywio enfawr wrth lunio polisïau.

Agwedd fwy diweddar ar ddatganoli yw amlygrwydd Meiri mewn nifer o ddinasoedd Lloegr. Er mai dim ond yn gymharol diweddar yng nghyd-destun hanes y sefydlwyd Meiri, am y tro cyntaf rydym wedi gweld tensiwn mawr yn o leiaf un o ddinasoedd Lloegr, rhwng ei haelodau etholedig (gan gynnwys y Maer) a Phrif Weinidog y DU.

Sut bynnag y caiff tensiynau rhwng llywodraethau lleol a chenedlaethol eu datrys, mae’r ‘gath allan o’r cwdyn’ o ran y cyfle i aelodau etholedig, dan arweiniad y Maer mewn ardal, wrthdaro â pholisi llywodraeth y DU (Lloegr). Mae’r sefyllfa hon yn fy atgoffa o’r anghydfodau yn y 1980au rhwng y Prif Weinidog ar y pryd, Mrs Thatcher, a Maer Llundain, Ken Livingstone. Rydym yn gwybod beth oedd y canlyniad yn y pen draw yno – ad-drefnu!

Unigrwydd

Canlyniad annisgwyl arall COVID-19 yw unigrwydd. Mae’n bosibl bod llawer ohonom yn y gorffennol wedi cysylltu unigrwydd â hen bobl yn byw ar eu pennau eu hunain neu mewn aelwydydd bach. Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod argyfwng COVID yw unigrwydd sy’n gysylltiedig â phobl o bob oedran.

Gan ystyried person sengl o oedran gweithio, oherwydd COVID roedd rhaid iddo weithio gartref ac, am ran o’r cyfnod clo o leiaf, ni chaniatawyd iddo gwrdd â phobl mewn aelwydydd eraill. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd cwrdd â phobl mewn tafarnau neu fwytai, coginio pryd o fwyd i ffrindiau gartref na mynd i weithle. Nid oedd modd cwrdd neu gael sgyrsiau amser cinio nac ymlacio gyda ffrindiau ar ôl gwaith na mynd i’r gampfa neu’r sinema. Rhoddwyd terfyn ar bob agwedd ar fywyd cymdeithasol y tu allan i’r cartref ac, i lawer o bobl, yn enwedig pobl sengl, mae hyn wedi arwain at gryn dipyn o unigrwydd.

Mae unigrwydd yn fater rydym wedi’i drafod â gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus fel rhan o’n MSc mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus.  Yn amlwg, nid yw’n hawdd ei ddatrys ac er mwyn mynd i’r afael ag ef, mae angen ymateb mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gyda charfan wedi’i thynnu o lywodraeth ganolog a lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y GIG ac eraill, roedd yn hynod ddiddorol clywed am y gwahanol ddulliau a thechnegau arloesol y mae gweithwyr proffesiynol yn gyfarwydd â nhw ac yn eu rhoi ar waith.

Her iechyd a llawer mwy 

Dechreuodd COVID-19 fel her iechyd ond yr hyn sy’n glir i mi yw ei fod wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau. 

Mae wedi datgelu problemau sylweddol ynghylch anghydraddoldeb i grwpiau, gan gynnwys y rhai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig – fel a amlygwyd mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru gan fy nghydweithiwr, yr Athro Emmanuel Ogbonna. Yn ogystal, mae’r pandemig wedi datgelu anghydraddoldeb mewn cyfleoedd addysgol, rhywedd a thai , ynghyd ag eraill hefyd. 

Mae llawer o lywodraethau wedi ceisio lleihau’r rhain ac yn sicr wedi gwneud datganiadau polisi cyhoeddus yn y gobaith o oresgyn yr heriau hyn dros y blynyddoedd. Yn anffodus, mae’n glir o’r dystiolaeth sydd gennym o effaith COVID-19 hyd yn hyn nad oes llawer o gynnydd wedi’i wneud. Mae amrywiaeth o’r anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd hyn yn parhau, ac mae’r feirws wedi tynnu sylw’r wlad gyfan atynt, gan gynnwys sylw’r cyfryngau, y llywodraeth ac aelodau o’r gymuned academaidd hefyd.

Rhaid i ni weithredu y tro hwn er mwyn eu tanseilio.

Wrth i ni symud o’r hydref i’r gaeaf yn 2020 gydag amrywiaeth o gyfyngiadau symud ar waith, mae’n anochel y bydd rhagor o oblygiadau annisgwyl yn sgil COVID-19. Yn ogystal â delio â’r pandemig a’i oblygiadau amlycaf, rhaid i ni geisio tanseilio’r rhai disgwyliedig hefyd.

Efallai bod y goblygiadau hyn yr un mor niweidiol i’n cymdeithasau â’r rhai sy’n haws eu rhagweld. Yn amlwg, yr her yw’r angen i ymateb i’r rhain i gyd mewn ffyrdd newydd ac o sawl safbwynt.

Mae Dr Catherine Farrell yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae hi’n gyfarwyddwr rhaglenni ar gyfer y cwrs MSc Arweinyddiaeth Gyhoeddus rhan-amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â Catherine
Ebost: FarrellCM@cardiff.ac.uk
Twitter: @catherinefarre