Skip to main content

Economi gylchol

Defnydd ar sail hygyrchedd: y ffordd i gyflawni dyfodol mwy cynaliadwy a chylchol?

9 Tachwedd 2020

Datgelodd canfyddiadau arolwg diweddar o 1,462 o ddefnyddwyr rhwng 18 a 54 oed fod tua 50% yn cytuno y gallai rhentu nwyddau traul helpu i ddiogelu adnoddau naturiol a chyfrannu at leihau gwastraff a gwell amgylchedd byw. Fodd bynnag, doedd 65% o’r ymatebwyr ddim yn ymwybodol o lwyfannau rhentu ar-lein ar gyfer nwyddau traul.

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Nicole Koenig-Lewis a Dr Carmela Bosangit, o Adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Busnes Caerdydd, yn amlinellu dyheadau eu hymchwil a gyllidir gan yr Academi Brydeinig/Ymddiriedolaeth Leverhulme ar yr economi rhannu.

Nod y prosiect sydd ar waith yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fodelau busnes rhentu nwyddau traul fel math amgen o ddefnydd cynaliadwy a all gyfrannu at economi gylchol. Yma maen nhw’n dweud wrthym sut maen nhw wedi bod yn gwneud hynny. 

Yn ddiweddar, mae masnachwyr y stryd fawr fel Selfridges a John Lewis wedi lansio partneriaethau gyda llwyfannau rhentu fel Hurr a Fat Llama. Mae hyn yn symudiad cadarnhaol tuag at leihau defnydd o adnoddau drwy fynediad a rennir at nwyddau traul. A gyda masnachwyr mor fawr yn bwrw iddi, mae’n duedd sy’n tyfu o ran poblogrwydd.

Yn ddiweddar cyfrannais at bodlediad newydd BBC Radio 5 Live “What Planet Are We On?” gyda Liz Bonnin. Mae’r podlediad, sydd hefyd yn cynnwys y darlledwr, arbenigwr bywyd gwyllt a thrysor cenedlaethol, Syr David Attenborough yn y rhifyn cyntaf, yn cynnig datrysiadau a chyngor ymarferol ynghyd â dealltwriaeth arbenigol ar effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yn rhifyn 4, ‘Mindful Consumption’, roeddwn i’n trafod canlyniadau ein harferion defnydd ac yn cynnig dewisiadau amgen cynaliadwy fel lleihau, atgyweirio, ailddefnyddio a rhentu nwyddau traul.

© BBC Radio 5 Live

Mae’n rhan o gyfres o weithgareddau ymgysylltu a chynnig sylwadau mae Carmela a fi wedi bod yn eu gwneud i gefnogi ein hymchwil.

Ym mis Hydref cynhalion ni weminar fel rhan o Ddigwyddiad Blynyddol ASPECT 2020.  Rhwydwaith yw ASPECT (Platfform y Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfer Entrepreneuriaeth, Masnacheiddio a Thrawsffurfio) i sefydliadau sydd am geisio cyfleoedd masnachol a busnes sy’n deillio o ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. Mae’r aelodau yn cynnwys: Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cranfield, Prifysgol Glasgow, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Trent Nottingham a’r Coleg Celf Brenhinol.  

Roedd thema gweminar eleni’n canolbwyntio ar feithrin llewyrch a llesiant drwy arloesedd yn y gwyddorau cymdeithasol. Gyda diwydiant, llywodraeth a’r gymuned academaidd yn bresennol, fe gydion ni yn y cyfle i gyflwyno ein hymchwil hyd yma!

Yng nghwmni Eve Kekeh, syflaenydd Bundlee, y blwch tanysgrifio cyntaf yn y DU ar gyfer dillad babi a Chris Hellawell, sylfaenydd a chyfarwyddwr Llyfrgell Offer Caeredin, byrdwn y drafodaeth oedd a all rhentu fel ffordd o ddefnyddio fod yn weithgaredd prif ffrwd. Yn anochel, drwy’r drafodaeth fe nodon ni heriau y mae’r mathau hyn o fusnesau a sefydliadau yn eu hwynebu a’r cymorth a allai fod ei angen arnyn nhw i fynd i’r afael â’r heriau hynny. 

Cafodd y sesiwn ei recordio ac mae croeso i chi ei gwylio. Beth am roi gwybod i ni a ydych chi’n meddwl y gallai rhentu fel ffordd o ddefnyddio fod yn weithgaredd prif ffrwd a pha heriau a allai fod i fusnesau a sefydliadau eraill? Dywedwch wrthym yn y sylwadau isod.

Wrth edrych ymlaen, mae gennym ni ddigwyddiad arall ar 11 Tachwedd rhwng 4pm a 5pm fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC 2020. Y tro hwn byddwn yn myfyrio ar effeithiau pandemig coronafeirws (COVID-19) ar fusnesau rhentu. Byddwn yn ystyried i ba raddau mae defnyddwyr yn fwy ymwybodol o effaith amgylcheddol eu harferion defnydd, ac os felly, a ydyn nhw wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w defnydd bob dydd yn sgil y pandemig. 

Unwaith eto, bydd dau berchennog busnes yn ymuno am drafodaeth banel: Rosie de Malmanche, sylfaenydd Our Closet, llwyfan ar-lein sy’n rhentu dillad rhwng cymheiriaid a Jessica Green, sylfaenydd Toybox Club, gwasanaeth blwch tanysgrifio teganau. 

Cofrestrwch ar ein sesiwn ‘Rhentu nwyddau traul: defnydd cynaliadwy mewn byd ar ôl COVID?’ yma.

Mae Dr Nicole Koenig-Lewis yn Ddarllenydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Dr Carmela Bosangit yn Uwch-ddarlithydd mewn marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyllidir yr ymchwil ar fodelau rhentu a dyfodol defnyddio gyda Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig/Leverhulme – SRG/171202. Ceir rhagor o wybodaeth am eu hymchwil yma.