Skip to main content

Economi gylchol

Creu a chipio gwerth yn yr economi gylchol

16 Rhagfyr 2020

Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae Dr Roberta De Angelis yn trafod ei hymchwil ddiweddaraf ar fodelau busnes mewn sefydliadau economi gylchol.

Nawr ein bod ni bellach wedi camu mewn i’r hyn y mae Paul J. Crutzen yn cyfeirio at fel ‘yr Anthroposen’, cyfnod daearegol newydd sydd wedi’i nodi gan effaith ddynol ddigynsail ar y Ddaear, sut allwn ni symud tuag at economi fyd-eang sy’n adeiladu ffyniant o fewn ffiniau ecolegol?

I ddechrau, gadewch inni edrych ar rai o’r pryderon amgylcheddol mwyaf.

Mae’r systemau cynhyrchu a defnyddio cyfredol yn wastraffus dros ben. Amcangyfrifir bod un lori sbwriel llawn tecstilau yn cael ei hanfon i safleoedd tirlenwi neu losgi pob eiliad, ledled y byd. Rydym ni’n defnyddio adnoddau naturiol fel pe bai mwy nag un blaned ar gael i ni. Mae’r galw blynyddol am adnoddau naturiol wedi chwalu’r hyn y gall y blaned Ddaear ei adfywio mewn wyth mis yn unig gyda Diwrnod Goresgyn y Ddaear yn digwydd ar 22 Awst eleni.

“Mae gweld ein hamgylchedd naturiol fel cronfa ddiddiwedd o adnoddau sydd â gallu amsugno diderfyn wedi’i gymryd yn ganiataol am lawer rhy hir.”

Yn lle hynny, sut fyddai economi ffyniannus, fwy gwydn ac effeithlon o ran adnoddau yn edrych? A ellir ail-lunio’r mecanweithiau y tu ôl i’n heconomi yn llwyr ar sail cysylltiad ac ymwybyddiaeth ecolegol?

Dychmygwch symud oddi wrth y systemau diwydiannol gwasgarol sy’n gweithredu’n llinol, lle mae cynhyrchion, ar ôl eu cynhyrchu gan ddefnyddio adnoddau gwerthfawr, yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi ar ddiwedd eu hoes ddefnyddiol, i systemau adferol lle nad yw’r cysyniad o wastraff yn bodoli mwyach. Byddai cynhyrchion wedi’u gwneud o ddeunyddiau synthetig, mwynol, yn cael eu dylunio i bara ac i’w hailddefnyddio a’u hail-bwrpasu fel bod gwastraff un cylch cynhyrchu a bwyta yn hafal i fwyd ar gyfer cylch arall. Byddai cynhyrchion sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau biolegol, adnewyddadwy yn cael eu dylunio i wneud dim niwed ac i bydru’n ddiogel i’r amgylchedd naturiol i adeiladu ac i adfer cyfalaf naturiol.

Efallai eich bod yn meddwl – am wych! Mae gwastraff yn hafal i fwyd ond hefyd, a yw hyn yn gyraeddadwy neu a yw’n weledigaeth bell, iwtopaidd yn unig o sut y gallai economi sydd wedi’i hintegreiddio o fewn ecoleg weithio?

Gadewch i mi eich synnu!

Nid ffuglen wyddonol mo hyn, ac mae wedi bod yn datblygu ar ffurf cysyniad y cyfeirir ato fel economi gylchol – fel economi sy’n cynnig nifer o fecanweithiau creu gwerth sydd wedi’u datgysylltu oddi wrth ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, mae mentrau economi gylchol yn ymddangos ar draws gwahanol chwarteri gan gynnwys y byd busnes. Ac mae hyn oherwydd bod yr economi gylchol nid yn unig yn mynd i’r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol cyfoes, ond hefyd yn galluogi cwmnïau i sicrhau mantais gystadleuol trwy gynhyrchu cynhyrchion arloesol, dod yn fwy effeithlon o ran adnoddau a gwella eu henw da.

Amcangyfrifir bod cyfleoedd economaidd byd-eang gwerth $4.5 triliwn yn bodoli os rhoddir egwyddorion yr economi gylchol ar waith.”

Felly, beth mae’n ei gymryd i economi o’r fath ddatblygu? Wel, yn sicr mae’n gofyn am arloesi modelau busnes, pwnc rydw i wedi bod yn ymchwilio iddo ers 2012.

Yn fwy diweddar, fe wnes i ymchwilio i entrepreneuriaeth gylchol, h.y. archwilio i gyfleoedd yng nghyd-destun economi gylchol a’u hecsbloetio. Canolbwyntiodd y prosiect diweddar hwn ar Wasted Apple, busnes bach, cylchol o Gernyw sy’n cynhyrchu seidr a sudd afal â llaw o afalau lleol a fyddai fel arall wedi mynd i wastraff.

Yn Wasted Apple, fe wnes i ymchwilio i entrepreneuriaeth o safbwynt proses a chyfeiriadedd. Yn ogystal ag arloesedd, cymryd risg a bod yn rhagweithiol, fe wnes i ddarganfod bod cyfeiriadedd entrepreneuraidd mewn economi gylchol wedi’i gymhwyso gan wreiddiad – creu gwerth i’r system ehangach y mae sefydliad yn rhan ohoni.

O ran y broses entrepreneuraidd, dechreuodd Wasted Apple arni trwy gydnabod problem ecolegol, h.y. atal afalau rhag cael eu gwastraffu, a throi hynny yn gyfle. Wrth lywio trwy ystod o anawsterau a glynu wrth egwyddorion creu gwerth ecolegol a chymdeithasol, mae’r sefydliad wedi llwyddo i gamu mewn i’r farchnad ac ehangu’r ystod o gynhyrchion traddodiadol ond arloesol heb golli golwg ar y rhesymeg gylchol – bod ffrwythau a fyddai fel arall yn mynd i wastraff yn cael eu defnyddio!

Dywedodd Richard Buckminster Fuller, gwyddonydd enwog am ei waith arloesol ar ynni adnewyddadwy a dylunio arloesol: “Dydych chi byth yn newid pethau trwy ymladd yn erbyn y realiti presennol. I newid rhywbeth, adeiladwch fodel newydd sy’n golygu nad oes defnydd ar gyfer model presennol bellach.”

Does dim dwywaith bod adeiladu model cylchol yn ymdrech gymhleth sy’n cynnwys nifer o ddatblygiadau arloesol ar draws gwahanol lefelau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r, sector corfforaethol. Ond y newyddion da yw bod arloeswyr busnes fel Wasted Apple yn rhoi ethos Fuller ar waith ac yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn dod â systemau diwydiannol sy’n gweithredu’n llinol i ben.

Mae Dr Roberta De Angelis yn Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaethau yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Gallwch ddarganfod rhagor am ei hymchwil ar entrepreneuriaeth gylchol yn Resources, Conservation & Recycling a gyhoeddwyd gan Elsevier.