Skip to main content

LT Conference

View the recordings from the Learning and Teaching Conference 2021

28 July 2021

On 1 and 2 July, we hosted the annual Learning and Teaching Conference, which featured a total of 64 online presentations and workshops. You can now access post-conference session recordings and resources.

Our annual Learning and Teaching Conference 2021 focused on the theme of Digital Education and featured a range of workshops, Pecha Kucha, story presentations and closing panels.

The conference was an opportunity for colleagues and students to share their experiences over the past 18 months and to look ahead to the future of learning and teaching in a post-pandemic university.

The sub-themes this year were:

  • Designing and delivering engaging blended modules/programmes
  • Student engagement in a digital world
  • Engaging online assessment and feedback
  • Digital inclusion and accessibility
  • Learning Community and Cohort Identity

We would like to thank all who attended for their active contributions, discussions, and engagement over the course of the event. They would also like to thank all presenters and workshop hosts for offering a wide range of excellent learning opportunities during this event.

Explore our conference resources

If you were unable to attend the conference or missed a specific session, you can now explore our conference recordings and blog resources by downloading our updated programme outline. If you are external to the University, you can view the programme here.

We will also be sharing PowerPoint slides from our conference workshops in the August edition of the CESI newsletter. If you do not currently receive the CESI newsletter, you can request to be added to the mailing list by emailing cesi@cardiff.ac.uk

Learning and teaching summer training events

We are hosting a range of training events July – September. You will need to book if you’d like to attend any of these events. You can view the list of events and access booking information on our learning and teaching events page.


Ar 1 a 2 Gorffennaf, cynhaliom y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu blynyddol a oedd yn cynnwys cyfanswm o 64 o gyflwyniadau a gweithdai ar-lein. Bellach, gallwch chi gael gafael ar y recordiadau yn sgîl sesiynau’r gynhadledd yn ogystal ag adnoddau’r gynhadledd.

Addysg Ddigidol oedd y thema ganolog yn ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 flynyddol ac roedd yn cynnwys ystod o weithdai, Pecha Kucha, cyflwyniadau stori a phaneli i gloi.

Roedd y gynhadledd yn gyfle i gydweithwyr a myfyrwyr rannu eu profiadau yn ystod y 18 mis diwethaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddyfodol dysgu ac addysgu yn y brifysgol ar ôl y pandemig.

Yr is-themâu eleni oedd:

  • Dylunio a chyflwyno modiwlau/rhaglenni cyfunol deniadol
  • Ymgysylltu â myfyrwyr mewn byd digidol
  • Asesu a rhoi adborth ar-lein
  • Cynhwysiant a hygyrchedd digidol
  • Cymuned Ddysgu a Hunaniaeth Carfanau

Hoffwn ddiolch i bob un ohonoch chi am eich cyfraniadau egnïol, eich trafodaethau a’ch sylwadau yn ystod y digwyddiad. Hoffen nhw hefyd ddiolch i bob un o’r cyflwynwyr a’r arweinwyr yn y gweithdai am gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu rhagorol yn ystod y digwyddiad hwn.

Porwch drwy adnoddau ein cynhadledd

Os nad oeddech chi’n gallu mynd i’r gynhadledd neu eich bod wedi colli sesiwn benodol, gallwch chi bori bellach drwy recordiadau’r gynhadledd ac adnoddau’r blog drwy lawrlwytho’r amlinelliad mwyaf diweddar o’n rhaglen.

Byddwn ni hefyd yn rhannu sleidiau PowerPoint o weithdai ein cynhadledd yn rhifyn mis Awst o gylchlythyr CESI. Os nad ydych chi’n derbyn cylchlythyr CESI ar hyn o bryd, gallwch chi ofyn am gael eich ychwanegu at y rhestr bostio trwy ebostio cesi@caerdydd.ac.uk

Digwyddiadau hyfforddiant dysgu ac addysgu dros yr haf

Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau hyfforddi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Bydd yn rhaid ichi gofrestru os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o’r digwyddiadau hyn. Gallwch weld y rhestr o’r digwyddiadau a gwybodaeth am sut i gadw lle ar ein tudalen digwyddiadau dysgu ac addysgu.