Skip to main content

Digital education

Sarah Lethbridge: Fy mhrofiad gyda Blackboard Collaborate Ultra

21 October 2020

Ah, Blackboard Collaborate Ultra… gwyddwn ei fod yn aml yn cael ei feirniadu.  Dechreuodd rhywun ei feirniadu hyd yn oed pan oeddwn i yng nghanol cyflwyno gweminar yn dweud wrth bawb faint roeddwn i’n hoff ohono.

Dechreuais ei dreialu am y tro cyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl, diolch i fy ffrind Karl Luke (sydd yn rhywfaint o gwrw dysgu ar-lein) oherwydd gofynnais iddo beth oedd y pecyn gorau i’w ddefnyddio er mwyn dechrau gwneud gweminarau. Roeddwn i newydd gael fy mhenodi fel Cyfarwyddwr MBA Gweithredwr yr Ysgol Busnes ac roeddwn am gael y cyfle i hysbysebu sesiynau ar-lein yn rheolaidd er mwyn helpu i hyrwyddo’r rhaglen.  Roeddwn i’n meddwl y byddai’n rhaid i mi dalu am ryw fath o feddalwedd gweminar drwy Addysg Weithredol ond dychmygwch fy syndod pan ddywedodd wrthyf fod pecyn integredig eisoes mewn Dysgu Canolog y gallwn i ei ddefnyddio!? Pecyn y gallwn i rannu ei ddolen ag unrhyw un allanol a chynnal sesiwn gweminar yn rhithwir?! Anhygoel!

Rwy’n hoffi chwarae gyda phecynnau meddalwedd newydd ac felly es i ati i fynd i’r afael â sut roedd yn gweithio. Yn ffodus, gellir dod o hyd i’r tîm Addysg Weithredol (wel, yn y gorffennol) mewn un ystafell yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion ac felly roeddwn i’n gallu cynnal nifer o sesiynau treialu gyda Hannah, ‘Beth wyt ti’n gallu ei weld?’, ‘Wyt ti’n gallu gweld hwna?’ gan weiddi dros raniad y ddesg (heb wybod y byddai hynny’n torri rheolau COVID yn y dyfodol).  Cyrhaeddodd y diwrnod mawr pan oeddwn am gynnal fy ngweminar cyntaf er mwyn hyrwyddo ein rhaglen ardderchog. Roedd ar gael i’r we fyd-eang, ac i’r gynulleidfa enfawr o … Hannah.

Serch hynny, gwnes i barhau, gan gynnig gweminarau’n achlysurol i hyrwyddo’r rhaglen yn y gobaith y byddai rhywun yn ymuno un diwrnod. Gellir dweud yr un peth am ffrydiau byw Addysg Weithredol o’n sesiynau Hysbysu Dros Frecwast. Hefyd, dangosodd Karl sut i ddefnyddio Panopto i ffrydio sesiynau’n fyw, ac roeddwn i mor falch o allu gwneud hynny, yn enwedig gan ein bod wedi cael rhywfaint o feirniadaeth yn nodi nad oedd amseru’r sesiynau Hysbysu dros Frecwast yn gynhwysol, ac na allai unrhyw un a oedd â chyfrifoldebau mynd â phlant i’r ysgol fod yn bresennol.  Byddai ffrydio byw a’i recordio’n ddilynol yn golygu y gallai unrhyw un gymryd rhan yn y sesiynau, beth bynnag yw eu cyfrifoldebau, heblaw am y crwst danaidd (sydd ychydig yn rhy oer).

Felly, pan ddaeth y pandemig byd-eang, gwnaeth y cyfarfyddiadau hyn fy mharatoi’n dda i ddelio â’r her sylweddol roeddem yn ei wynebu, sef symud ein holl waith Addysg Weithredol ar-lein. Diolch i gydweithwyr a’r Rhaglen Addysg Ddigidol rwyf wedi dysgu cymaint am y newid mewn addysgeg sydd ei angen i gyflawni gwaith dysgu ardderchog ar-lein – llwybrau dysgu anghydamserol, byr, clir ac ati. ond mae ein myfyrwyr gweithredol yn awyddus iawn o hyd i gael y cyfle i drafod eu gwaith dysgu gyda’u darlithydd ‘yn fyw ar-lein’, maen nhw am glywed o’i gilydd, maen nhw am ryngweithio. Felly, roeddwn i’n gallu dangos i rai o arweinwyr ein modiwlau MBA Gweithredol beth roeddwn i’n ei wybod am Blackboard Collaborate. Y prif beth i mi y mae angen i chi ddod i arfer â’i wneud yw clicio i mewn ac allan o’r ‘botwm byrgyr’ (tair llinell, un ar ben ei gilydd) a’r ‘botwm saethau’, ar ochr chwith a dde y sgrîn, yn hytrach na dewislen rydym yn ei defnyddio fel arfer. 

Fodd bynnag, y broblem oedd nad oedd fy mhrofiad o’r pecyn hyd yn hyn erioed wedi cael ei brofi gan gynulleidfa fawr o’r blaen. Yn gyflym iawn gwnaethom ddysgu am un o’i brif anfanteision, mae’n anwadal yn dibynnu ar y porwr gwe a ddefnyddir gan yr athro a’r cyfranogwyr.  Os ydych yn bwriadu defnyddio Blackboard Collaborate ac heb weithio hyn allan eto, mae angen i chi, ac yn gyflym! Y porwr gorau i’w ddefnyddio yw Chrome, neu Edge. Mae’n CASÁU Safari ac er fy mod i wedi ei ddefnyddio’n iawn gyda Firefox gall hynny hefyd gyfyngu ar faint y gallwch ei weld. 

Rhywbeth allweddol arall i mi gyda Blackboard, ac yn sicr gyda Zoom, yw bod angen i chi ddechrau meddwl fel golygydd Teledu mewn ystafell newyddion, neu hyd yn oed DJ Radio mewn bwth recordio sydd ag arwydd coch ‘YN FYW’ mawr uwchben y drws. Tra eich bod jyglo meddwl am yr hyn yr hoffech ei ddweud, sut mae eich myfyrwyr yn teimlo, mae hefyd yn rhaid i chi ddechrau meddwl ‘Beth ydw i’n ei ddarlledu ar hyn o bryd? Beth y maen nhw’n gallu ei weld?’. Felly mae angen i chi gael i mewn i’r rhythm o feddwl ‘Rwyf am ddangos y wefan hon iddyn nhw nawr’ ac yna gwasgu botymau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu eu gweld hefyd.  Mae’r broblem yn dod pan rydych yn edrych ar eich sgrîn (neu sgriniau gobeithio – mae nifer o fonitorau yn gwneud y gwaith o gyflwyno sesiynau ar-lein byw gymaint haws) efallai eich bod yn meddwl eu bod yn gallu gweld yr hyn rydych chi’n ei weld ond mae angen i chi ofyn i chi eich hun, a ydw i wedi gwasgu’r botwm ‘go live’/’share’? Mae’n anodd iawn cofio i gyfeirio eich hun, yn enwedig yng nghanol perfformiad.  Felly ydy, mae’r tweet hwn yn berthnasol…

Ar y cyfan, rwy’n mwynhau cyflwyno gwaith ar-lein. Y tric i mi yw ceisio ymlacio cymaint â phosibl, i beidio â gadael i’r problemau technegol ANOCHEL (i fod yn onest, pan mae rhywbeth yn mynd o’i le mae’n llwyddo i gael sylw pawb! “a ni nôl yn yr ystafell!”) ac i ddefnyddio’r cyfle i ddod i adnabod eich myfyrwyr, i ddangos iddynt pwy ydych chi, beth rydych wedi’i ddysgu a beth sy’n bwysig i chi.

Oes, mae penderfyniadau sydd angen eu gwneud ynghylch pa becynnau i’w dewis (rwyf wedi llunio tabl bach i rannu fy safbwyntiau â chi) – rwyf yn hoff iawn o Blackboard Collaborate, ond rwyf hefyd yn hoff iawn o Zoom. Rwy’n gallu gweld potensial Teams ond nid ydw i wedi cymryd ato eto ar gyfer addysgu. Rwy’n siwr y byddaf i, ryw’n gwybod bod llawer ohonoch chi wedi cymryd ato. Rwyf wir yn credu po fwyaf y pecynnau rydych yn eu defnyddio, mwyaf hyderus byddwch chi’n defnyddio pob un ohonynt a’r hyn sy’n wych yw bod pob un ohonynt yn parhau i ddiweddaru’r hyn maent yn eu cynnig bob amser, i gystadlu mewn i ras i’r pecyn rydych chi’n ei ddewis, felly bydd anfantais pecyn un wythnos yn diflannu â diweddariad yr wythnos nesaf. 

Felly, cofion gorau… os oeddech chi fel fi yn yr Ysgol, bob amser yn cael y rolau “menyw nwdls rhif 2”, “person yn y dorf”, “gwerthwr cnau castan poeth” yn sioe’r Ysgol, nawr yw eich cyfle i serennu’n ‘fyw ar-lein’! Pob lwc i chi!

Ysgrifennwyd gan Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol a Chysylltiadau Allanol (Ysgol Fusnes Caerdydd)