Skip to main content

Digital educationStudent engagement

The importance of reflecting on our digital practice | Pwysigrwydd myfyrio ar ein harferion digidol

14 August 2018
Triangle mapping creation, consumption and conversation

by Chloe Reid, Student Engagement Intern.

As a new intern within the Centre of Education Support and Innovation, I was pleased to be given the chance to attend a conference led by this very department on Tuesday 3 July.  The conference focused on ‘Education Innovation in Practice’ and served as a fascinating insight into what goes on behind the scenes within learning and teaching. As a student it was refreshing to have the opportunity to converse with staff in a different setting about approaches to education and trying out new ideas.

The workshop that piqued my interest most of all was titled ‘Prelude to change: understanding your own digital practice’ (developed by Donna Lanclos and Lawrie Phipps for the Jisc Digital Leaders Course). This was led by Dewi Parry from the CESI Learning Technology team and Matt Smith of the WCPPE, School of Pharmacy.  For both students and staff, our use of digital technology is so ubiquitous that sometimes we forget how much we rely on it.  For that reason I was intrigued to learn more about this session.

The workshop began with an invitation to sketch out a triangle on a large piece of paper, in line with the image below:Triangle mapping creation, consumption and conversation

Workshop and diagram: Lanclos, D and Phipps, L (2018) Leadership and Social Media: Challenges and Opportunities

Sitting on a table with other academics, I was then encouraged to think about how I create, consume and converse with others digitally. This included both within the institution, as well as externally – whether that be catching up on news or speaking to friends over social media. It was important to include apps that we might use on our phones and tablets, as well as websites like Google that are so obvious that it’s easy to miss.

What quickly became clear was the variety of websites my fellow students and staff use, and for different purposes. Some of us tended to consume material more than we created.

Triangle mapping creation, consumption and conversation

We were invited to add emoji stickers alongside different digital practices to express our emotions about each.  As a student you have a vague understanding of what academics do outside their scheduled contact hours with you. However it was illuminating to realise just how many emails academics may receive during the course of their working day, and why it may take them a little longer to respond sometimes.

It is useful to consider how our use of technology gradually evolves over time. We had an interesting discussion about how texting and making telephone calls for personal use had dropped, with WhatsApp and social media dominating instead.

Overall it was a welcome opportunity to reflect on the digital tools we use and why, and how this could be used more effectively. It was stimulating not to be given advice on how to use software, but instead slow down and consider whether as individuals we could be using our digital tools differently.

A big thank you goes to Dewi and Matt for organising this thought provoking session.


gan Chloe Reid, Intern Ymgysylltu â Myfyrwyr.

Fel intern newydd yn y Ganolfan Arloesedd a Chymorth Addysg, roeddwn yn falch o gael cyfle i fynychu cynhadledd dan arweiniad yr adran hon ddydd Mawrth 3 Gorffennaf.  Bu’r gynhadledd yn canolbwyntio ar ‘Arloesedd Addysg ar waith’ a rhoddodd gipolwg diddorol ar yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni fel rhan o waith dysgu ac addysgu. Fel myfyriwr, roedd yn braf cael cyfle i siarad â staff mewn lleoliad gwahanol ynghylch dulliau o ymdrin ag addysg a rhoi cynnig ar syniadau newydd.

Teitl y gweithdy a enynnodd fy niddordeb fwyaf oll oedd ‘Rhagarweiniad i newid: deall eich arferion digidol eich hun’ (a ddatblygwyd gan Donna Lanclos a Lawrie Phipps ar gyfer Cwrs Arweinwyr Digidol Jisc). Arweiniwyd hwn gan Dewi Parry o dîm Technoleg Dysgu’r CESI a Matt Smith o WCPPE, yr Ysgol Fferylliaeth.  Yn achos myfyrwyr a staff, gall ein defnydd o dechnoleg ddigidol fod mor hollbresennol nes ein bod weithiau’n anghofio faint rydym yn dibynnu arni.   Am y rheswm hwnnw, roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am y sesiwn hon.

Dechreuodd y gweithdy gyda gwahoddiad i fraslunio triongl ar ddarn mawr o bapur, yn unol â’r ddelwedd isod:

Triongl yn mapio creu, defnyddio a sgwrsio

Gweithdy a diagram: Lanclos, D a Phipps, L (2018) Arweinyddiaeth a Chyfryngau Cymdeithasol: Heriau a Chyfleoedd

Ochr yn ochr ag academyddion eraill o gwmpas y bwrdd, cefais fy annog wedyn i ystyried sut rwy’n creu, yn defnyddio ac yn sgwrsio ag eraill yn ddigidol. Roedd hyn yn cynnwys o fewn y sefydliad, yn ogystal ag yn allanol – boed hynny’n golygu dal i fyny gyda’r newyddion neu siarad â ffrindiau dros y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yn bwysig cynnwys apiau y gallem fod yn eu defnyddio ar ein ffonau a’n tabledi, yn ogystal â gwefannau fel Google sydd mor amlwg nes bod yn hawdd anghofio amdanynt.

Daeth yn amlwg yn fuan iawn fod fy nghyd-fyfyrwyr a’r staff yn defnyddio amrywiaeth helaeth o wefannau, a hynny at ddibenion gwahanol. Roedd rhai ohonom yn tueddu i ddefnyddio deunydd yn fwy na’i greu.

Triangle mapping creation, consumption and conversation

Cawsom ein gwahodd i ychwanegu sticeri emoji yn ymyl gwahanol arferion digidol i fynegi ein hemosiynau am bob un.  Fel myfyriwr mae gennych ddealltwriaeth fras o’r hyn mae academyddion yn ei wneud y tu allan i’w horiau cyswllt gyda chi sydd ar yr amserlen.  Ond roedd yn agoriad llygad sylweddoli faint o negeseuon e-bost gall academyddion eu derbyn yn ystod eu diwrnod gwaith, a pham gallan nhw gymryd ychydig mwy o amser i ymateb weithiau.

Mae’n ddefnyddiol ystyried sut mae ein defnydd o dechnoleg yn esblygu’n raddol dros amser. Cawsom drafodaeth ddiddorol am sut roedd nifer y negeseuon testun a’r galwadau ffôn personol wedi gostwng, gyda WhatsApp a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael y lle blaenaf yn lle hynny.

Yn gyffredinol roedd yn gyfle da i fyfyrio ar yr offer digidol rydym ni’n eu defnyddio a pham, a sut gellid eu defnyddio’n fwy effeithiol.  Roedd yn ysgogiad peidio â chael ein cynghori ynghylch sut mae defnyddio meddalwedd, ond yn hytrach arafu ac ystyried, fel unigolion, a allem ni fod yn defnyddio ein hoffer digidol mewn ffordd wahanol.

Diolch o galon i Dewi a Matt am drefnu’r sesiwn hon, oedd yn cynnwys digon i gnoi cil arno.