Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Myfyrio ar ddigwyddiad mis Mawrth yng Nghyfres seminarau Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yng nghwmni James Field

11 Ebrill 2024

Ysgrifennwyd gan yr Athro James Field, Athro Deintyddiaeth Adferol ac Addysg Ddeintyddol a’r Athro Emmajane Milton, Athro Ymarfer Addysgol 

Cawson ni sesiwn drafod arall a oedd yn ysgogi’r meddwl ar 20 Mawrth 2024 yng nghyfres rhwydweithio a thrafod reolaidd Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol y Brifysgol.  

‘Rhagoriaeth mewn addysgu – beth sydd dan sylw? oedd teitl sesiwn James Field, a oedd yn ysgogi cydweithwyr i ystyried llwybr eu gyrfaoedd eu hunain a’r hyn a sbardunodd nid yn unig eu diddordeb mewn dysgu ac addysgu ym myd addysg uwch ond hefyd eu hymrwymiad i’r pethau hynny. Cawson ni ein herio gan James i feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl gan ein myfyrwyr ac, uwchlaw pob dim, yr hyn y maen nhw’n ei ddisgwyl gennym ni, gan gynnwys ym mha ffordd orau y gallwn ni gwrdd â nhw lle maen nhw er ein disgwyliadau uchel. Trafodon ni ysgolheictod a beth mae hynny wedi’i olygu i James yn ystod ei yrfa, pwysigrwydd datblygu a bod yn gyfrifol am sut rydych chi’n cyfrannu a hefyd bwysigrwydd cydnabod yr amrywiaeth helaeth o weithgareddau sy’n gyfystyr ag ysgolheictod. 

Gofynnwyd i James Field am ei feddyliau, hefyd: 

“Gwych oedd siarad â chydweithwyr eraill o bob rhan o’r Brifysgol er mwyn meddwl am eu profiadau ac ym mha ffyrdd y gallwn ni fynd ati ar y cyd i greu cymuned ac ymrwymo i ymarfer addysgol, gan gynnwys cefnogi dysgu myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.” 

Roedd y rhai a gymerodd ran yn arbennig o hoff o’r canlynol: 

  • Cyfleoedd i drafod   
  • Elfen stori bersonol y cyflwyniad – pwerus iawn 
  • Amser a lle i ystyried ymarfer addysgol ac ysgolheictod 
  • Amrywiaeth eang o gydweithwyr i ryngweithio â nhw – gan gynnwys athrawon rhan-amser y Brifysgol, staff y Gwasanaethau Proffesiynol ac academyddion  

Ymunwch â ni yn ein seminar nesaf 

Rydyn ni’n eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni yn seminar nesaf yn y gyfres Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol ar 17 Ebrill rhwng 13:00 a 15:00 ar gampws Parc y Mynydd Bychan, a hynny yn Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad yr Ysbyty. Cofrestrwch drwy Core i gael dolen y digwyddiad.  

Yn ein digwyddiad nesaf, sef Gwahaniaethau unigol a chynllunio dysgu: sut rydyn ni’n galluogi hunan-asesu a hunan-reoleiddio mewn byd sy’n newid?, byddwn ni’n gweld Dr Stephen Greenwood o’r Ysgol Feddygaeth. Mae Dr Greenwood ymhlith y cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd i sicrhau Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol.  

Cadwch eich lle drwy’r System AD gan ddefnyddio’r côd TEAC9691. 

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yno.