Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Hyrwyddwyr Myfyrwyr y mis: Mis Mawrth

18 Ebrill 2024

Llongyfarchiadau i Tobias Gadsby a Denise Mayande, sy’n Hyrwyddwyr Myfyrwyr y Mis ar gyfer mis Mawrth. 

Mae Tobias Gadsby a Denise Mayande ill dau wedi bod yn allweddol wrth helpu i lunio profiad cadarnhaol i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac maen nhw bob amser yn awyddus i gymryd rhan a chynhyrchu gwaith o safon uchel. 

Roedd Denise yn gweithio gyda Hiral Patel (Ysgol Pensaernïaeth Cymru) a Katherine Quinn (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) ar brosiect yn canolbwyntio ar Ofodau Dysgu Cymdeithasol. Roedd Tobias yn gweithio gyda Rubi Diaz (Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr, Academi Dysgu ac Addysgu) ar brosiect e-nodyn ‘gair i gall’. 

Roedd eu cyflwyniadau ynghyd ag aelodau staff yn ystod Arddangosfa Bosteri Hyrwyddwyr Myfyrwyr ar 20 Mawrth yn rhagorol. Nid yn unig roedden nhw wedi arddangos cyflawniadau eu prosiectau, ond aethon ati hefyd i ddangos effaith partneriaeth myfyrwyr wrth lywio prosiectau dan gyfarwyddyd staff er mwyn gwella profiad myfyrwyr mewn ffordd gadarnhaol. 

Llongyfarchiadau i chi!