Cwrdd â’r cydweithiwr: Cath Bushell
19 Ebrill 2024Dyma Cath Bushell, Pennaeth Addysg Ddigidol yn sôn am ei swydd a’r prosiectau mae’n gweithio arnynt yn y tîm Addysg Ddigidol yn Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd.
Dywedwch rywfaint wrthon ni am eich gyrfa:
Cyn fy swydd bresennol, rwy wedi bod yn ffodus o gael y cyfle i weithio ledled Prifysgol Caerdydd mewn ystod o swyddi a thimau, gan ddod i ddeall rhagor am sut mae’r Brifysgol yn gweithio o safbwyntiau gwahanol iawn. Dechreuais i yn yr hyn sydd bellach yn Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi, gan wneud gwaith anghyson â’r adran braidd, sef ymdrin â’r myfyrwyr a datblygu a chyflwyno addysg menter ac entrepreneuriaeth.
Yna, aeth y tîm Menter yn rhan o Ddyfodol Myfyrwyr, ac es i’n Bartner Busnes yn y tîm hwnnw, gan gefnogi Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a’r Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Yn rhan o hyn roedd gweithio gyda’r Ysgolion i ddod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr. Yn dilyn hyn, symudais i o’r gwasanaethau proffesiynol canolog i Ysgol benodol, gan dreulio pum mlynedd yn Ddirprwy Reolwr Ysgol BIOSI, gan oruchwylio’r holl gefnogaeth gan y gwasanaethau proffesiynol a oedd yn canolbwyntio ar addysg. Roedd hyn yn caniatáu imi weld cefnogaeth myfyrwyr o safbwynt gwahanol iawn a deall y prosesau cymhleth y mae ysgolion yn eu dilyn i gefnogi eu myfyrwyr boed yn gofrestru neu raddio, ond hefyd rôl allweddol Ysgolion a’u timau cymorth yn y gwasanaethau proffesiynol wrth roi profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Cyn ymuno â’r Academi Dysgu ac Addysgu, bues i’n gweithio yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn Bartner Busnes Strategaeth a Chynllunio, gan fod yn gyfrifol am oruchwylio proses gynllunio integredig y Coleg a chefnogi’r prosiectau strategol ehangach yno.
Beth yw cynnwys eich swydd a pha mor hir rydych chi wedi bod ynddi?
Dim ond ers mis Ionawr 2024 rwy wedi bod yn y swydd, felly rwy’n dal i ddysgu beth mae’n ei olygu – mae pob wythnos yn datgelu rhywbeth newydd nad oeddwn i’n gwybod y dylwn i ei wybod!
Mae gen i dîm gwych sy’n canolbwyntio ar ddarparu Addysg Ddigidol mewn partneriaeth â’r Ysgolion ar draws y Brifysgol. Fy ngwaith felly yw cefnogi ac arwain y tîm hwn, gan sicrhau ein bod yn rhoi cymorth sy’n ychwanegu gwerth at addysg yr ysgolion.
Ymhlith y prosiectau o bwys yn y tîm ar hyn o bryd mae datblygu model gwella’r Amgylchedd Dysgu Digidol (DLE). Bydd hyn yn rhoi arweiniad ac adnoddau i staff academaidd i wella’r ffordd maen nhw’n defnyddio’r Amgylchedd. Mae datblygu’r ffordd y mae’r Brifysgol yn datblygu Dysgu Hyblyg yn flaenoriaeth arall, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu opsiynau yn y dyfodol o ran datblygu cyrsiau DPP ar sail darpariaeth hyblyg a/neu gyrsiau achrededig eraill.
Pa brosiectau/tasgau rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd yn eich swydd?
Ar ôl i’r Tîm Addysg Ddigidol gyflwyno Blackboard Ultra yn llwyddiannus, rydyn ni’n edrych tua’r dyfodol a fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod y tîm mewn sefyllfa dda i gefnogi newidiadau posibl yn y ffordd rydyn ni’n dysgu ac yn addysgu, a hynny yn dilyn strategaeth newydd y Brifysgol.
Beth rydych chi’n ei wneud yn eich amser hamdden?
Mae fy mhlant wedi cyrraedd yr oedran pan fydd llai o angen/eisiau eu mam arnyn nhw, felly mae gen i fwy o amser imi fy hun ac rwy wedi bod yn darganfod ffyrdd o wneud hyn!
Ymunais i â chôr y llynedd ac rwy’n mwynhau fy sesiwn ganu wythnosol. Rwy’n aelod o grŵp llyfrau ac mae’r gwin a’r clecs yr un mor bwysig â’r adolygiad llyfr, ond mae’n fy nghadw ar y trywydd iawn o leiaf o ran darllen yn rheolaidd. Efallai bod y rheini ohonoch chi sydd wedi fy ngweld ar alwadau Teams gartref wedi gweld wal yn llawn gwlân y tu ôl imi sy’n bwydo fy mhrosiectau crosio – un diwrnod bydd y defnydd o’r gwlân yn mynd yr un mor gyflym â’i gwaith o’i brynu!
Gan nad yw bywyd yn ddigon prysur, es i’n Rhiant-lywodraethwr yn ysgol uwchradd fy mhlant ychydig o fisoedd yn ôl, ac yn sgil hyn rwy wedi cael cipolwg diddorol ar addysg mewn cyd-destun gwahanol iawn!