Skip to main content

Cynaliadwyedd

Mentrau iechyd meddwl a lles ym maes Addysg Uwch y DU

12 Mawrth 2024

Mae Cristina Higuera Martín, Datblygwr Addysg yn y Gwasanaeth Datblygu Addysg yn amlinellu’r dulliau strategol cyfredol ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn sector addysg uwch y DU. Eu bwriad yw atal neu fynd i’r afael â materion lles meddwl, a hyrwyddo profiad dysgu ac addysgu iach a chadarnhaol i bawb.

Yn ei blog blaenorol, amlinellodd Cristina y llu o ffactorau sy’n llywio penderfyniadau ynghylch iechyd meddwl a lles ym mhrifysgolion y DU.

Beth sy’n cael ei ystyried yn arfer gorau?

Yng Nghynhadledd Iechyd Meddwl a Lles Advance HE (2023) amlygwyd dulliau prifysgol gyfan fel arferion gorau sy’n hyrwyddo lles trwy gyfrwng:

  1. Mannau ffisegol
  2. Presenoldeb ar-lein a
  3. Profiadau dysgu ac addysgu

Yn ddelfrydol, bydd yr hyn fydd ar gael yn y dyfodol yn adlewyrchu’r cydbwysedd gorau posibl rhwng ystyriaethau ymarferol ac addysgeg, a lles staff a myfyrwyr.

Mentrau cyfredol

Mae ystod eang o fentrau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio yn y sector ar hyn o bryd i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr a staff. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Systemau hyfforddi, mentora a chyfeillio
  • sesiynau hyfforddiant (Bordogna a Lundgren-Resenterra, 2023) i oruchwylwyr doethurol a meistr
  • rhaglenni mentora hybrid i staff a myfyrwyr
  • systemau cymorth cyfeillio myfyrwyr sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gysylltu â myfyrwyr profiadol sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth cyfeillgar
  1. Gwasanaeth galw heibio, cwnsela a chynghorwyr lles
  • sesiynau galw heibio hybrid a arweinir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar bynciau iechyd meddwl a lles
  • gwasanaeth galw heibio a arweinir gan fyfyrwyr, gyda chymorth staff clinigol, sydd ar gael i unrhyw fyfyriwr sy’n teimlo’n unig, yn hiraethus, yn bryderus neu’n ofidus
  • pedwar apwyntiad cwnsela rhad ac am ddim ar gyfer ymyriadau byr sy’n canolbwyntio ar atebion, a’r posibilrwydd o gael apwyntiadau ychwanegol drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu
  • cymorth cynghorydd lles sy’n hwyluso ffyrdd o feithrin sgiliau lles rhagweithiol. Maent hefyd yn cynnig cyngor a gwasanaeth cyfeirio at gynrychiolwyr staff a myfyrwyr, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd â hanes o drawma
  1. Datblygiad proffesiynol parhaus
  • hyfforddiant yn seiliedig ar rôl ym maes goruchwyliaeth adferol (Walker a Jennison, 2023) i diwtoriaid personol a staff ar lawr gwlad
  • hyfforddiant gorfodol mewn cymorth bugeiliol i diwtoriaid personol a goruchwylwyr doethurol (Hayball, 2023)
  1. Proffilio iechyd meddwl

Defnyddir hyn i atal yn ogystal â thargedu a theilwra ymyriadau. Mae data disgrifiadol am fyfyrwyr yn cael ei gasglu, ei glystyru trwy broses fodelu ystadegol, cyn cael ei ddehongli i lywio penderfyniadau.

  1. Offer hunangymorth
  • Arolwg ynghylch gwahanol bynciau sy’n gysylltiedig â lles (Meyer a Sidiropoulou, 2023). Mae’r rheiny sy’n llenwi’r arolwg yn cael adborth, gwybodaeth am strategaethau hunanofal ac argymhellion personol yn seiliedig ar eu hymatebion.
  • Deunyddiau ar-lein sy’n ystyried ymwybyddiaeth emosiynol, annog ymddygiad sy’n gofyn am help, cydnabod cyflawniadau a gwerthfawrogi cyfleoedd dysgu (Arferion Digidol Cadarnhaol, 2023).
  1. Mannau tawel ym myd natur

Mae wedi dod i’r amlwg bod mannau tawel ar gyfer ysgrifennu traethawd Meistr (Stevenson, 2020) yn gwrthsefyll straen a theimladau o unigedd ymhlith myfyrwyr wrth iddynt wneud eu traethodau hir.

  1. Cylchlythyrau a thaflenni wedi’u targedu
  • Mae cylchlythyrau’n cael eu hanfon at fyfyrwyr ar adegau pwysig i’w cynorthwyo yn ystod cyfnodau o newid, fel mynd trwy asesiadau crynodol.
  • Mae taflenni’n cael eu defnyddio i geisio lleihau niwed. Maent yn cynnwys canllawiau sy’n targedu defodau ymuno â chymdeithasau myfyrwyr.
  1. Pecynnau cymorth
  • dulliau strategol o greu strategaeth iechyd meddwl yn y brifysgol yn unol â Stepchange (Universities UK, 2020)
  • arferion digidol cadarnhaol mewn cysylltiad â hunaniaethau dysgwyr, cymunedau digidol ac addysgeg gadarnhaol (Arferion Digidol Cadarnhaol, 2023)
  1. Modiwlau lles
  • modiwl ar-lein i fyfyrwyr, yn meithrin ffyrdd tosturiol o feddwl am eu hunain ac eraill (Meyer a Murgatroyd, 2023)
  • modiwl ar-lein sy’n arwain myfyrwyr i gael gwybod am Arferion Digidol Cadarnhaol (2023) a’u deall yn well

Cymerwch ran

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am yr effaith a’r ymdrech sydd eu hangen i roi’r mentrau iechyd meddwl a lles hyn ar waith ar lefel prifysgol gyfan.

Rhagor o wybodaeth

Advance HE (2023) Cynhadledd iechyd meddwl ym maes AU 2023: rhoi theori ar waith – creu dull sy’n gofalu am les myfyrwyr a staff ar lefel prifysgol gyfan | Advance HE (advance-he.ac.uk).​

Bordogna, C. M., a Lundgren-Resenterra, M. (2023) Integreiddio a normaleiddio hyfforddiant fel arfer cyffredin mewn goruchwyliaeth ddoethurol. International Journal of Doctoral Studies, 18, 99-118. https://www.researchgate.net/deref/https%3A%2F%2Fdoi.org%2F10.28945%2F5096

Prifysgol Caerdydd (2020) Galluogi Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy’n Iach yn Feddyliol​

Hayball, J. (2023) Hyfforddiant cymorth bugeiliol i diwtoriaid personol a goruchwylwyr doethurol https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23

Meyer, D., a Murgatroyd, C. (2023) Y cwricwlwm arwain sy’n gwneud gwahaniaeth: Ymgorffori cymuned dan arweiniad myfyrwyr er mwyn creu gwir deimlad o berthyn, lles a dysgu’n llwyddiannus https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23

Meyer, D., a Sidiropoulou, MD. (2023) Deall eich teclyn hunangymorth lles – astudiaeth achos o ddull prifysgol gyfan o ymdrin â myfyrwyr a staff https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23

Prosiect Arferion Digidol Cadarnhaol (2023) – Arferion Digidol Cadarnhaol (weebly.com)

Stevenson, N. (2021) Datblygu lles academaidd trwy fannau tawel ar gyfer ysgrifennu.

Journal of Further and Higher Education, 45 (6), 717-729. https://doi.org/10.1080/0309877X.2020.1812549

 

Universities UK (2020) Stepchange: Prifysgolion sy’n iach yn feddyliol Stepchange: prifysgolion sy’n iach yn feddyliol (universitiesuk.ac.uk)

 

Walker, J., a Jenninson, L. (2023) A all goruchwyliaeth adferol gael effaith gadarnhaol ar les emosiynol darlithwyr sefydliadau addysg uwch ym maes gofal iechyd? https://www.advance-he.ac.uk/Mental-Wellbeing-23