Skip to main content

Cymrodoriaethau AddysgDathlu rhagoriaeth addysgu

Myfyrio ar ein digwyddiad Chwefror yng nghyfres seminarau Cymrawd Addysgu Cenedlaethol (NTF) gydag Emmajane Milton

12 Mawrth 2024

Gan Dr Nathan Roberts, Rheolwr Rhaglen y Cymrodoriaethau, LTA a’r Athro Emmajane Milton, Athro Ymarfer Addysgol

Cawson ni sesiwn drafod arall a oedd yn ysgogi’r meddwl ar 21 Chwefror 2024 yn nghyfres rhwydweithio a thrafod reolaidd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol (NTF) y Brifysgol.

Yn sesiwn Emmajane o’r enw “Mae’n rhan o bopeth a wnawn …. sef cyfrifoldeb a braint” gofynnwyd cydweithwyr i ystyried eu teithiau addysgu eu hunain … rhywbeth sy’n taflu goleuni bob amser yw ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng y profiadau a’r bobl sydd wedi ein hysbrydoli, yn ogystal â’r ffyrdd rydyn ni hwyrach yn ein haddysgu ein hunain. Yn y sesiwn soniwyd am ba mor bwysig yw cofio ein bod mewn sefyllfa i gael effaith fawr ar ddysgwyr a bod yn rhaid inni arfer hyn gyda chryn ofal a chyfrifoldeb. Yn y drafodaeth, soniwyd am y tarfu a gafwyd ar bob dysgwr yn ystod y blynyddoedd diwethaf a byddwn ni’n ymateb i ôl-effeithiau COVID am gryn amser i ddod … felly mae’n rhaid i’r ffordd ymlaen olygu ein bod yn modelu ffordd gynhwysol ac agored ar y cyd wrth ymwneud â’r myfyrwyr.

Gofynnon ni i Emmajane hefyd am ei myfyrdodau:

“Bydda i bob amser wrth fy modd yn cael y cyfle i weithio gyda chydweithwyr o ystod o ddisgyblaethau a chamau gyrfaol gan fy mod i bob amser yn teimlo wedyn fy mod i wedi dysgu llawer ac wedi meddwl am bethau o safbwyntiau gwahanol.”

Roedd y sawl a gymerodd ran yn gwerthfawrogi:

  • Natur ryngweithiol y sesiwn drafod
  • Y cyd-destun croesawgar yng nghwmni’r uwch-academyddion
  • Cael gwrando ar bobl ar gamau mor wahanol yn eu gyrfa
  • Cael yr amser a’r lle i feddwl a bod yn ddysgwr.
  • Yr elfennau deniadol a rhyngweithiol a oedd wedi hwyluso’r trafodaethau byw ymhlith y sawl a gymerodd ran, gan wneud y sesiwn yn fwy hwyliog a deinamig.
  • Cyfle i drafod pynciau hynod berthnasol i heriau addysgol cyfredol, yn enwedig wrth addasu i newidiadau yn sgil y pandemig
  • Y ffocws ar addysgeg gynhwysol a gofalu am les a dysgu myfyrwyr

Ymunwch â ni yn ein seminar nesaf

Rydyn ni’n eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni yn seminar nesaf y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ar 20 Mawrth rhwng 13.00 a 15.00 ar gampws Cathays yn adeilad Morgannwg am -1.80.

Bydd ein digwyddiad nesaf “Rhagoriaeth mewn addysgu – ydyn ni hyd yn oed ar yr un cae chwarae?” gyda’r Athro James Field o’r Ysgol Deintyddiaeth ac enillydd y Gymrodoriaeth yn 2018.

Cadwch eich lle ar y System AD gan ddefnyddio’r côd: TEAC9691

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yno.