Skip to main content

Rhesymau dros ymchwil i iechyd meddwl a lles ym maes addysg uwch yn y DU

27 Gorffennaf 2023
Plants growing in soil

Mae Cristina Higuera Martín, Datblygwr Addysg yn y Gwasanaeth Datblygu Addysg yn amlinellu’r rhesymau sy’n llunio dulliau strategol ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym maes addysg uwch y DU i atal neu fynd i’r afael â materion lles meddwl, ac i hyrwyddo profiad dysgu ac addysgu iach a chadarnhaol i bawb.

Beth yw iechyd meddwl a lles?

Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) yn nodi ‘bod gan bob un ohonom iechyd meddwl, yn union fel y mae gan bob un ohonom iechyd corfforol. Mae’r ddau yn newid trwy gydol ein bywydau, ac fel ein cyrff, gall ein meddyliau fynd yn sâl’ (CIPD, 2023).

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ‘yn unigolion neu gyda’n gilydd, mae iechyd meddwl yn elfen annatod o iechyd a lles sy’n sail i’n gallu i wneud penderfyniadau, meithrin cyd-berthynas a chreu’r byd rydym yn byw ynddo’ (WHO, 2018).

Er bod safbwyntiau a ffiniau gwahanol yn bodoli ym maes ymchwil lles y disgyblaethau gwahanol, gellir diffinio lles seicolegol yn rhywbeth sy’n cael ei nodweddu gan ‘deimladau hapus/bodlon, ymdeimlad o fod â chydbwysedd a chysylltiad â’r byd o’n cwmpas, ac ymdeimlad o fod mewn rheolaeth o’n bywydau’ (Phimister, 2022).

Felly, mae sicrhau’r cydbwysedd gorau posibl rhwng ystyriaethau ymarferol ac addysgeg, a lles staff a myfyrwyr yn sector addysg uwch y DU yn hanfodol bwysig.

Y rhesymau sy’n llunio dulliau strategol ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn sector addysg uwch y DU

Mae nifer o amodau mewnol ac allanol sy’n llunio penderfyniadau iechyd meddwl a lles yn sector addysg uwch y DU:

  1. Mae costau byw ymhlith y rhesymau hyn, gan ychwanegu pwysau ariannol i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd – bwyd, llety, ffioedd, trafnidiaeth, ac ati.
  2. Mae galw cynyddol ac amseroedd aros am wasanaethau cwnsela, ar gyfer gwasanaethau’r GIG a gwasanaethau prifysgolion, hefyd yn rheswm dros ddatblygu mentrau i helpu â iechyd meddwl a lles unigolion.
  3. Mae gwahaniaethau unigol hefyd yn llunio ymchwil iechyd meddwl a lles yn y sector, gyda’r bwriad o dargedu ymyriadau iechyd meddwl a lles yn fwy cywir.
  4. Mae arferion ymsefydlu i gymdeithasau myfyrwyr addysg uwch y DU yn parhau i esgor ar ganlyniadau iechyd a lles cymysg i fyfyrwyr, o hynod gadarnhaol i drawmatig a negyddol, gan arwain at fyfyrwyr yn marw ar sawl achlysur.
  5. Mae ein heconomi sy’n seiliedig ar wybodaeth yn cyflwyno heriau newydd i staff a myfyrwyr mewn amgylcheddau lle mae canlyniadau a deilliannau yn hollbwysig, lle caiff cyflawniad proffesiynol ac academaidd ei fesur a’i gysylltu â chyflogadwyedd, cyflog a dilyniant.
  6. Mae profiadau byw a hunaniaethau sy’n croestorri* yn esgor ar senarios cymhleth sy’n gysylltiedig ag effeithiau gwahanol ar iechyd meddwl a lles unigolion. Ar hyn o bryd mae ymchwil yn canolbwyntio ar sut i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu a cheisio cymorth tra yn y brifysgol. * Gall profiadau byw a hunaniaethau sy’n croestorri gynnwys: myfyriwr rhan-amser, cymudwr, dysgu o bell, myfyriwr aeddfed, bod ar gyfnod mamolaeth, bod yn ofalwr, statws priodasol, cenedligrwydd, statws o ran ffioedd, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, crefydd, rhywioldeb.
  7. Mae goruchwylio graddau meistr a doethuriaethau hefyd yn faes sy’n cael ei drafod, gyda goruchwylwyr yn gofyn am well hyfforddiant a chefnogaeth, a myfyrwyr sy’n diwtoriaid ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir yn wynebu heriau bod yn fyfyrwyr ac yn aelodau o staff ar yr un pryd.
  8. Mae tiwtora personol yn faes arall sy’n cael ei ymchwilio, gyda phwyslais arbennig ar yr effaith y gall y rôl hon ei chael ar iechyd meddwl a lles staff.
  9. Mae trawma blaenorol yn rheswm arall dros ymchwil iechyd meddwl a lles yn sector addysg uwch y DU, er enghraifft mewn perthynas â myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau academaidd a chyflawniad academaidd myfyrwyr.
  10. Mae gofynion disgyblaethau penodol ar ymarferwyr heddiw a rhai’r dyfodol – er enghraifft, proffesiynau gofal iechyd a darlithio – hefyd yn llunio penderfyniadau am iechyd a lles mewn prifysgolion. Mae tystiolaeth yn dangos (Advance HE, 2023) bod mesurau lles yn y proffesiynau hyn yn is na safonau’r boblogaeth gyffredinol.
  11. Mae pontio yn faes sydd hefyd wedi’i flaenoriaethu ar gyfer ymchwil ar hyn o bryd, gyda thystiolaeth yn tynnu sylw at yr angen am well ymwybyddiaeth o sut i gefnogi myfyrwyr wrth symud i’r brifysgol, dechrau ar eu hastudiaethau, asesiadau, pontio rhwng camau astudio, rhwng astudio a bod mewn lleoliad gwaith, a gorffen astudio, a hynny drwy feithrin ymdeimlad o berthyn mewn cymdeithas a thrwy ddarparu seilwaith, sgaffaldwaith a gwasanaethau cyfeirio.

Cymryd rhan

Pa reswm o’r rhestr sydd fwyaf pwysig?

Teipiwch un flaenoriaeth ymchwil ym maes ymchwil iechyd meddwl a lles addysg uwch y DU (Saesneg yn unig).

Rhagor o wybodaeth

Advance HE (2023) Mental wellbeing in HE conference 2023: putting theory into practice – creating a whole university approach to student and staff wellbeing | Advance HE (advance-he.ac.uk).​

Prifysgol Caerdydd (2020) Galluogi Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy’n Iach yn Feddyliol

CIPD (2023) https://www.cipd.org/uk/views-and-insights/cipd-viewpoint/employee-health-wellbeing/

Phimister, D. (2022) What is wellbeing?

Y Cenhedloedd Unedig (2023) The 17 Goals https://sdgs.un.org/goals

WHO (2023) Mental Health https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/mental-health-strengthening-our-response