Skip to main content

Addysg Ddigidol

Ailddatblygu’r cynllun Mentora Myfyrwyr gyda ni

24 Gorffennaf 2023
Students working

Gweithiodd Alex Stewart a Hannah Salisbury, y ddau yn Ddylunwyr Dysgu yn yr Academi Dysgu ac Addysgu ar y cyd â Carly Emsley-Jones, Rheolwr Sgiliau Academaidd a Mentora o Fywyd Myfyrwyr i ailddatblygu elfen ar-lein y cynllun Mentora Myfyrwyr.

Fel rhan o gyflwyno’r Cyrsiau Blackboard Ultra, mae’r Academi Dysgu ac Addysgu wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn Bywyd Myfyrwyr i symud modiwlau Dysgu Canolog presennol i’r llwyfan Blackboard Ultra newydd.

Yn sgil hyn daeth cyfle i’r Academi Dysgu ac Addysgu gydweithio â Bywyd Myfyrwyr i ailddatblygu elfen ar-lein y cynllun Mentora Myfyrwyr. Yr amcan oedd cynnig pecyn hyfforddi cyfunol i fyfyrwyr a fyddai’n eu galluogi i leihau amser cyswllt wyneb yn wyneb ac annog hyblygrwydd.

Yn ogystal, roeddem yn awyddus i greu modiwl pwrpasol lle gallai myfyrwyr gwblhau hyfforddiant yn ogystal â’i ddefnyddio’n rheolaidd fel adnodd drwy gydol eu cyfnod fel mentor.

Cydweithio

Bu Hannah Salisbury a minnau, fel Dylunwyr Dysgu o’r Academi Dysgu ac Addysgu, yn gweithio gyda Carly Emsley-Jones, Rheolwr Sgiliau Academaidd a Mentora Bywyd Myfyrwyr a’i thîm i adolygu ac ailddatblygu’r deunyddiau hyfforddi presennol er mwyn creu’r adnodd hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio’r llwyfan Cyrsiau Blackboard Ultra.

Drwy MS Teams a dogfennau ar y cyd, aethom ati i symleiddio cynnwys yr hyfforddiant presennol, datblygu bwrdd stori ar gyfer yr hyfforddiant ar-lein ac adeiladu’r modiwl yn y Cyrsiau Blackboard Ultra. I ddechrau, adeiladodd Hannah a minnau strwythur allweddol y modiwl yn y Cyrsiau Blackboard Ultra, a gallai Carly a’r tîm Bywyd Myfyrwyr gymryd yr awenau yn y camau olaf o’r datblygiad i atodi cynnwys a nodweddion ychwanegol er mwyn personoleiddio’r adnodd ar gyfer y Mentoriaid Myfyrwyr a chasglu adborth myfyrwyr.

Ers cyhoeddi modiwl Cyrsiau Blackboard Ultra, mae’r tîm Mentora Myfyrwyr wedi rheoli’r gwaith o weinyddu a chynnal yr hyfforddiant ar-lein a bydd yn parhau i wneud hynny wrth symud ymlaen gyda chymorth gan yr Academi Dysgu ac Addysgu pan fo angen.

Meddai Carly, “Diolch i gefnogaeth Alex a Hannah, mae ein tîm wedi gallu defnyddio Cyrsiau Blackboard Ultra yn ddidrafferth ac rydym bellach yn gallu rheoli’r modiwl a sicrhau ei fod yn parhau i adlewyrchu anghenion ein mentoriaid myfyrwyr. Mae’n ein galluogi ni i gyflwyno gwybodaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd i siwtio gwahanol arddulliau, annog myfyrwyr i ryngweithio drwy drafodaethau a gallant gyfeirio ato am gymorth os oes angen. Rwy’n hyderus ein bod yn cynnig profiad hyfforddi o safon uchel i fentoriaid myfyrwyr drwy ddefnyddio Cyrsiau Blackboard Ultra.”

Effaith y cynllun

Mae’r cynllun Mentora Myfyrwyr wedi bod ar gael i dros 700 o fyfyrwyr ers mis Chwefror 2023 ac mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn. Gyda 264 o ymatebion hyd yn hyn, roedd 99% o fyfyrwyr o’r farn bod cynnwys y deunydd hyfforddi yn ddefnyddiol ac roedd 99% o’r farn bod modiwl Cysiau Blackboard Ultra Courses yn hawdd i’w lywio a’i ddefnyddio. Mae gan y modiwl sgôr o 4.7 allan o 5 seren ar hyn o bryd. Mae themâu o’r adborth yn cynnwys – rhyngweithioldeb, y gallu i gwblhau yn eich amser a’ch cyflymder eich hun, addysgiadol, hawdd i’w ddilyn ac yn ddifyr.

Daeth y dyfyniadau ansoddol canlynol o’r arolwg adborth:

“Hawdd i’w ddefnyddio ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i’n galluogi ni i fod y mentoriaid myfyrwyr gorau posib. Rwy’n teimlo hyd yn oed yn fwy parod i ymgymryd â’r rôl hon ar ôl yr hyfforddiant hwn.”

“Hyblygrwydd i’w gwblhau ar fy liwt fy hun a defnyddioldeb yr hyfforddiant ar-lein”

“Cefais ddigonedd o wybodaeth heb iddi fod yn llethol nac yn anodd ei dilyn ac roeddwn yn gallu cwblhau’r hyfforddiant yn fy amser fy hun” 

Myfyrio a’r hyn a ddysgwyd

Wrth fyfyrio ar y prosiect, bu adborth y myfyrwyr a phrofiad y staff dan sylw yn gadarnhaol iawn.

Mae’r modiwl Cyrsiau Blackboard Ultra newydd yn cynnig profiad difyr, hawdd ei ddefnyddio i fyfyrwyr o’r cychwyn cyntaf ac mae wedi helpu i adeiladu cymuned ar-lein ar gyfer y Mentoriaid Myfyrwyr.

Yr hyn y mae’r staff sydd ynghlwm â’r prosiect wedi’i ddysgu yw y gall Cyrsiau Blackboard Ultra, gyda pheth arweiniad, fod yn llwyfan greddfol sy’n rhwydd i ychwanegu a rheoli cynnwys.

Wrth stmud ymlaen, mae Bywyd Myfyrwyr yn gobeithio recriwtio hyd at 1000 o wirfoddolwyr y flwyddyn ac mae disgwyl y bydd yr elfen ar-lein o’r hyfforddiant sy’n defnyddio Cyrsiau Blackboard Ultra yn apelio at fyfyrwyr yn hytrach na’r holl hyfforddiant a gyflwynir wyneb yn wyneb.

Bydd defnyddio Cyrsiau Blackboard Ultra i gyflwyno a rheoli’r hyfforddiant ar-lein yn galluogi staff i adolygu a diweddaru cynnwys yn flynyddol ac yn rhwydd i adlewyrchu anghenion y myfyriwr.

Gobeithiwn fod y prosiect hwn yn dangos sut y gall cydweithio traws-dîm hyrwyddo rhannu sgiliau a gwybodaeth ledled y brifysgol yn ogystal ag effeithio’n gadarnhaol ar y profiad myfyriwr.