Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

“Dyna’r cyfan am y tro!” Neu oes rhagor? Myfyrdodau ar ddiwedd ‘Dysgu Addysgu’

21 Gorffennaf 2023
Person smiling

Mae Michael Willett, Uwch Ddarlithydd ac arweinydd y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol a achredwyd gan AdvanceHE a Chynllun Datblygu Cymrodyr yn myfyrio ar ddiwedd ‘Dysgu i Addysgu’, gan ganolbwyntio ar y Rhaglen Cymrodoriaeth Gysylltiol.

Gyda’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt ymhell i mewn i’w hail flwyddyn o fod ar waith yn llawn, a gweithdy ‘Launchpad’ llwyddiannus ar fin dod yn hyfforddiant gorfodol i bob tiwtor graddedig newydd ac arddangoswr graddedig o fis Medi 2023, byddai’n hawdd anghofio pa mor bell y mae’r Brifysgol wedi dod o ran rhoi cymorth i ôl-raddedigion sy’n ymwneud ag addysgu ac arddangos. Mae’n anodd credu, dair blynedd yn ôl, nad oedd darpariaeth ledled y Brifysgol i roi cymorth i’r rheiny a oedd ar gamau cynharaf eu gyrfaoedd academaiddi ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau i lwyddo i greu profiadau deniadol, effeithiol a chynhwysol ar gyfer eu dysgwyr.

Hyd yn hyn, mae’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt wedi cael ei chynnal 11 o weithiau, gan ddyfarnu statws Cymrodoriaeth Gyswllt yr Academi Addysg Uwch (AFHEA) i 116 o unigolion adeg ysgrifennu’r blog hwn. I barhau â’r trosiad o ba mor bell rydym wedi dod, bellach mae ei thaith wedi hen ddechrau. Ond yn gynharach eleni, daeth ei bartner hŷn, ‘Dysgu Addysgu’, i ben ei thaith ei hun, pan gwblhaodd y garfan olaf o ôl-raddedigion a gofrestrodd ar y cwrs eu portffolios a chael statws AFHEA. Roedd Dysgu Addysgu yn rhaglen arloesol mewn sawl ffordd. Wedi’i chreu yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn 2008, o dan arweiniad Dr Heather Worthington, Dr Elizabeth Staddon a’r Athro Martin Coyle, hon oedd y ddarpariaeth gyntaf yn y Brifysgol â’r nod benodol o roi cymorth i ôl-raddedigion i ddatblygu eu sgiliau addysgu a darparu llwybr a oedd yn eu helpu i gyrraedd statws Cymrodoriaeth Gyswllt, a oedd ar y pryd yn gymharol newydd. Roedd yn cynnig cydnabyddiaeth ym mhob rhan o’r sector o ymrwymiad y rheiny a oedd yn cymryd rhan i gyflawni safonau proffesiynol a datblygu eu hymarfer addysgu. Er ei bod ychydig y tu ôl i gynigion tebyg ym Mhrifysgolion Bryste a Chaerwysg, roedd Dysgu Addysgu ymhell ar y blaen i lawer o ddarpariaethau eraill yn y sector. Roedd y rhaglen hefyd yn arloesol o ran ei dull asesu. Yn hytrach na gofyn am un ‘adroddiad myfyriol o ymarfer’ – sef yr hyn sy’n ofynnol o ran ceisiadau uniongyrchol i’r Academi Addysg Uwch (Advance HE bellach), mabwysiadodd Dysgu Addysgu ddull portffolio. Roedd hyn wedi’i ysbrydoli gan lawer o ddarpariaethau TAR, gan rannu’r asesiad yn ystod o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau myfyriol byr, adolygiadau gan gymheiriaid, cynlluniau sesiynau a dadansoddiadau o adborth myfyrwyr. Y syniad y tu ôl i hyn oedd ysgogi dull ‘ychydig ac yn aml’ o fyfyrio a fyddai’n arwain at ddatblygiadau gweladwy o ran ymarfer, gan osgoi’r demtasiwn i unigolion ysgrifennu un adroddiad o’u buddugoliaethau. Roedd hon yn rhaglen wedi’i seilio’n gadarn ar ymarfer, gan roi sylfaen i ddatblygu sgiliau a ffyrdd o weithioochr yn ochr âdatblygu gwybodaeth am gysyniadau damcaniaethol. Mae bob amser yn anodd cael y cydbwysedd hwn yn iawn mewn rhaglen fel hon (gweler y drafodaeth yn Allen, 2009; Resch, Schrittesser a Knapp, ar ddod).

Wrth i mi gymryd yr awenau ddiwedd 2014 daeth momentwm newydd. A minnau’n gynfyfyriwr y rhaglen, roeddwn yn awyddus i gynnwys dysgwyr yn fwy cyflawn yng ngwaith cynllunio a hwyluso’r cwrs, ac i ddatblygu’r gymuned ddysgu ymhellach trwy ddarparu cyfleoedd mwy sylweddol i ôl-raddedigion rannu rhai o’r arferion a’r dulliau addysgu diddorol — ac arloesol yn aml — yr oeddent yn eu defnyddio. I’r perwyl hwn, gan dynnu ar addysgeg megis gwaithHealey, Flint a Harrington (2014)ar ‘fyfyrwyr-yn-bartneriaid’, rhoddais ar waith gyfres o weithgareddau dysgu newydd ym mhob un o’r gweithdai, megis sesiwn fer ‘dulliau addysgu arloesol’, lle byddai’r rheiny a oedd wedi cwblhau’r cwrs ac ennill eu statws AFHEA yn dychwelyd i ennyn diddordeb dysgwyr mewn arddangosiadau rhyngweithiol 5 i 10 munud o hyd o ddulliau neu weithgareddau newydd yr oeddent wedi’u datblygu. Wrth i bob blwyddyn fynd heibio, enillodd y cwrs enw da iawn am ragoriaeth a boddhad dysgwyr, a daeth â diddordeb cynyddol gan ôl-raddedigion y tu hwnt i’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Ym mis Medi 2017, o dan gyfarwyddyd Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS) Damian Walford Davies, roedd Dysgu Addysgu ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig ym mhob un o ddeg Ysgol yr AHSS. Roedd y seilwaith yn ei le ar gyfer darpariaeth ledled y Brifysgol, ac ym mlwyddyn academaidd 2019-20, dechreuwyd datblygu ein hystod newydd o raglenni Cymrodoriaethau.

Rwy’n falch o fod wedi bod yn arweinydd rhaglen Dysgu Addysgu o 2014 tan iddi ddod i ben eleni, a bod y tasglu mawr y tu ôl i ddatblygu’r rhaglenni Cymrodoriaethau wedi cydnabod cryfderau’r cwrs. Mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio’n benodol ar ymarfer, asesu portffolio, a datblygu cymuned ddysgu ystyrlon sy’n meithrin rhyngweithio â chyfoedion ac ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Mae’n galonogol bod y nodweddion hyn wedi cael eu trosglwyddo i ddatblygiad ei holynydd, a’u bod wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol a’u dogfennu’n dda mewn adborth gan ddysgwyr. Rwy’n edrych yn ôl gyda hoffter ar y datblygiadau arloesol mae’r rheiny sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi’u rhannu, ac rwyf wedi mwynhau defnyddio ac addasu llawer o’r rhain yn rhan o fy  ymarfer fy hun. Dyma rai enghreifftiau arbennig o gofiadwy:

  • ‘Yr olygfa o fy ffenestr’, math newydd o ymarfer ‘dod i adnabod pobl’ ar gyfer addysgu ar-lein a ddatblygwyd yn ystod pandemig COVID-19 – diolch i Anya Richards yn JOMEC
  • Annog myfyrwyr i ddefnyddio hoff lun i fyfyrio ar brofiad penodol – diolch i Stephen Jennings yn SOCSI
  • Defnyddio Skittles (mae losin eraill ar gael) i ddysgu myfyrwyr am fodelu ariannol – diolch i Evelina Kazakeviciute yn CARBS
  • Cynnal dadl yn y ddosbarth yn arddull cynhadledd ffug COP i ddysgu sgiliau trafod a’r broses o ddod i benderfyniad mewn ffordd ddiplomyddol – diolch i Rosa Maryon yn LAWPL
  • Defnyddio caneuon Beyoncé i helpu myfyrwyr i ddeall barddoniaeth – diolch Anna-Marie Young yn ENCAP

Yn anad dim efallai, fy mhwynt dysgu allweddol yw ei bod yn hanfodol ysbrydoli, annog a chefnogi arloesedd. Mae arloesedd yn bodoli ar sawl ffurf, a does dim angen iddo olygu arferion sy’n arwain neu’n newid y sector sydd heb eu gweld erioed o’r blaen. Yn hytrach, gall arloesedd olygu rhywbeth newydd i’n hymarfer ein hunain; rhywbeth nad ydym eto wedi’i roi ar waith yn ein cyd-destunau ein hunain. Ar yr amod bod rhesymeg glir a phrofiad dysgu’r myfyrwyr yn ganolog iddo, mae arloesi ein hymarfer yn hanfodol i’n llwyddiant yn addysgwyr.

Yn olaf, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r nifer fawr o bobl a roddodd o’u hamser i helpu â Dysgu Addysgu dros y blynyddoedd, yn benodol:

Anna Field Angela Parry Catherine Camps
Clare Kell Damian Walford Davies Elizabeth Staddon
Elizabeth (Bettie) Heatley Emily Blewitt Emmajane Milton
Heather Worthington Iain Mossman Kara Johnson
Martin Coyle Martin Jephcote Martin Kayman
Nathan Roberts Neil Harris Robert Gossedge
Sarah Robertson Sarah Williamson Stephen Rutherford

Hoffwn hefyd ddiolch i’r 200 o ôl-raddedigion AHSS a gwblhaodd y rhaglen gyda mi ac a enillodd eu statws AFHEA rhwng 2014 a 2022. Rwy’n mawr obeithio eich bod wedi mwynhau’r cwrs a’i fod wedi bod yn ddefnyddiol. Mae eich adborth yn sicr yn awgrymu hyn.

Dyma edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf o fyfyrio, arloesi a rhannu ymarfer da!

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, mae dwy ffordd i gofrestru. Os ydych yn gallu cyrchu CoreHR, cewch ddod o hyd i’r rhaglen a chofrestru ar ei chyfer gan ddefnyddio’r cod TEAC9600. Os nad ydych yn gallu cyrchu CoreHR, anfonwch ebost at y Tîm Cymrodoriaethau yn uniongyrchol i gofrestru: educationfellowships@caerdydd.ac.uk

Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen yn derbyn unigolion newydd mis Medi, mis Tachwedd a mis Ionawr bob blwyddyn academaidd. Nid oes ffi ymuno ar gyfer y Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, ac mae’n agored i bob tiwtor graddedig, arddangoswr graddedig a staff a gyflogir gan Brifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rheiny ar gontractau anrhydeddus a chontractau cysylltiol, megis staff y GIG sy’n ymwneud ag addysgu’r Brifysgol).

Cyfeirnodau

Allen, J. (2009) “Valuing practice over theory: How beginning teachers re-orient their practice in the transition from the university to the workplace”. Teaching and Teacher Education, 25 (5): 647-654.

Healey, M, Flint, A, a Harrington, K. (2014) ‘Engagement through partnership: students as partners in learning and teaching in higher education’. York: Higher Education Academy. Ar gael ar-lein yma https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/engagement-through-partnership-students-partners-learning-and-teaching-higher, cyrchwyd 01.06.2023.

Resch, K., Schrittesser. I, a Knapp, M (ar ddod) “Overcoming the theory-practice divide in teacher education with the ‘Partner School Programme’. A conceptual mapping”. European Journal of Teacher Education. https://doi.org/10.1080/02619768.2022.2058928