Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Fy mhrofiad o’r Arddangosfa Posteri Hyrwyddwyr Myfyrwyr eleni 

27 Mehefin 2023
Students in a group smiling
Student Champions 2022/23 at the Student Champions Poster Exhibition 2023

Emyr Kreishan, un o’n Hyrwyddwyr Myfyrwyr a fu’n rhan o’r Arddangosfa Posteri Hyrwyddwyr Myfyrwyr, llwyddiannus, ar 19 Ebrill, sy’n rhannu ei brofiadau.

Yn yr Arddangosfa Posteri Hyrwyddwyr Myfyrwyr, cyflwynodd Hyrwyddwyr Myfyrwyr bosteri ar amrywiaeth o bynciau yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Roedd yn ddiwrnod gwych a ddaeth â’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr at ei gilydd a chawsom ymgysylltu â staff, cyfadrannau a rhanddeiliaid eraill o bob rhan o’r brifysgol.

Ar ôl i mi gyrraedd, gwisgais fy hwdi Hyrwyddwr Myfyrwyr (wrth gwrs!), helpu i osod yr arddangosfa (roedd y rhan fwyaf o hyn wedi’i wneud eisoes) a chasglu fy mhecyn cinio (rhywbeth arall positif sy’n dod yn sgîl bod yn Hyrwyddwyr Myfyrwyr).

Cynllunio dyluniad y poster

Fe wnaeth dau o fy nghydweithwyr (Mya ac Alydia) oddi ar y Prosiect Pecyn Cymorth ar gyfer Y Gymuned Ymchwil, a minnau greu poster ar gydweithio effeithiol.

Dylai poster sydd wedi’i ddylunio’n dda fod yn ddeniadol, yn hawdd ei ddarllen, ac yn cyfleu elfennau allweddol eich gwaith – fe wnaethom ni ddewis arddull minimalaidd ar gyfer ein dyluniad nad oedd y mwyaf trawiadol yn weledol o bosib … (hei, dyw 2 allan o 3 ddim yn ddrwg!). Roeddem yn ddigon ffodus i beidio â gorfod poeni gormod am faint ein poster a’r argraffu gan fod y Tîm Hyrwyddwyr Myfyrwyr wedi gwneud hynny – diolch!

Ymarfer y Cyflwyniad

Wedi i ni ddylunio a chreu ein poster, roedd yn bwysig i mi ymarfer sut y byddwn yn ei gyflwyno gan nad oedd fy nghydweithwyr yn gallu bod yn y digwyddiad. Treuliais beth amser yn dychmygu’r hyn a alli fynnu prif ffocws y sawl oedd yn bresennol, ond gan fod gennym sawl pwynt allweddol ar y poster roedd yn anodd bod yn siŵr. Felly, canolbwyntiais ar y pwyntiau penodol o ran yr hyn yr oeddem yn ceisio’i gyflawni gyda’r poster a gwneud yn siŵr y gallwn grynhoi’r rhain mewn llai na 45 eiliad.

Ennyn diddordeb y gynulleidfa

Mae’n debyg mai ymgysylltu â’r gynulleidfa yw’r agweddau pwysicaf ar gyflwyno mewn arddangosfa bosteri (a’r rhan a all fod y mwyaf pleserus hefyd). Diolch byth, roedd gan yr holl bobl y bûm yn rhyngweithio â nhw ddiddordeb yn yr hyn oedd gen i i’w ddweud, ac roedden nhw am glywed amdanaf i, fy ngwaith gyda’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr a’r poster. Fe geisiais i wneud i bobl deimlo y gallen nhw ddod draw am sgwrs, gan geisio bod yn groesawgar, a pheidio â mynd yn rhy nerfus pan fyddai rhywun yn gofyn rhywbeth nad oeddwn yn sicr yn ei gylch (eto fe lwyddais i wneud 2 allan o’r 3 rwy’n credu!)

Llwyddais i siarad â phobl ddiddorol o bob rhan o’r brifysgol gan gynnwys sawl adran academaidd, tri aelod cyfeillgar o’r tîm ymgysylltu â myfyrwyr, aelod o’r tîm Dyfodol Myfyrwyr a oedd yn awyddus i ymrestru Hyrwyddwyr Myfyrwyr ar gyfer hyrwyddo eu gwasanaeth y flwyddyn nesaf, a datblygwr addysg o Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd a oedd â chwestiynau gwych i mi am fy mhrofiad ar y cynllun.

Y foment fawr

Wedi i’r arddangosfa ddod i ben, gwasgarodd y sawl oedd yn bresennol i wylio cyflwyniadau oedd yn canolbwyntio ar y gwahanol brosiectau yr oedd Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt. Manteisiais ar y cyfle i wrando ar un o’r rhain cyn iddi fod yn amser i mi gyd-gyflwyno gydag un o arweinwyr ein prosiect ychydig wedi hynny. Roedd y prosiect oedd yn cael sylw yn y cyflwyniad y gwnes i ei wylio’n wych. Siaradodd Dr. Isaac Myers a’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr oedd yn ei gynorthwyo (fe hoelion nhw ein sylw!) am y prosiect yr oedd yn ei arwain dan y teitl Unboxing Inboxes a oedd yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ebyst, gan drafod nifer o ffeithiau oedd yn agoriad llygad – er enghraifft, oeddech chi’n gwybod bod mwyafrif y negeseuon ebost ym mlwch derbyn y myfyriwr cyffredin yn cyrraedd naill ai ddydd Llun neu ddydd Gwener!? Mae’n ymddangos fel rysáit ar gyfer colli nifer o negeseuon!

Yna daeth fy nhro i, cerddodd Michael Hackman a minnau y llwybr hir o gefn ystafell 2.25/26 i’r bwrdd gwyn fel dynion wedi’u condemnio.

Fodd bynnag, cyn gynted ag y cawsom ddechrau arni, roedd yn wych ac roedd y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo bod ein cyflwyniad ar Becyn Cymorth y Gymuned Ymchwilio wedi ennyn cryn chwilfrydedd. Roedd yn brofiad gwych cael rhannu fy mrwdfrydedd ynghylch y prosiect gyda chynulleidfa gynnes oedd yn ymateb i ni – roeddwn i a Michael yn hapus gyda sut aeth ein cyflwyniad.

Yn gyffredinol, roedd Yr Arddangosfa Posteri gan Hyrwyddwyr Myfyrwyr 2023 yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn wych cael sgwrs ar ddiwedd y digwyddiad gyda’m cyd-Hyrwyddwyr Myfyrwyr cyn mynd allan i heulwen Caerdydd.