Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Dysgu ac addysgu mewn cyd-destun Addysg Drawswladol: profiad datblygiad proffesiynol gwerthfawr

26 Mehefin 2023
Earth's globe in a library

Dr Alyson Lewis, Darlithydd mewn Datblygu Addysg yn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn rhannu ei barn ar Addysg Drawswladol (TNE).

Fel arfer, disgrifiad Addysg Drawswladol (TNE) yw ‘cyflwyno dyfarniad addysgol mewn gwlad heblaw’r un y mae’r corff dyfarnu wedi’i leoli ynddi’ (Universities UK, 2022). Er enghraifft, gallai myfyriwr astudio yn ei famwlad (e.e. Tsieina) a chael mewnbwn gan staff yn y brifysgol ddyfarnu (e.e. y DU). Gall y mewnbwn neu’r modd o gyflenwi, a’r math o bartneriaeth fod ar sawl ffurf, megis darlithwyr yn teithio i wlad arall i wneud eu gwaith neu gampysau cangen (Smith, 2014), dyfarniadau ar y cyd neu ddyfarniadau deol, rhaglenni alltraeth, addysg drawsffiniol, dysgu o bell, cynghreiriau addysg cydweithredol, a threfniadau masnachfraint a dilysu (Dai a Garcia, 2019); tirwedd gymhleth. 

Mae TNE yn cyfrannu’n sylweddol at economi’r DU. Rhagwelir mai £849 miliwn fydd ei chyfraniad yn 2025 (O’ Mahony, 2014). Mae’r sector hwn yn tyfu’n gyflym. Ei werth yn 2010 oedd £350 miliwn (Adran Addysg ac Adran Masnach Ryngwladol, 2021). Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr TNE y DU wedi’u lleoli yn Tsieina, gyda 61,495 o fyfyrwyr yn astudio ym mlwyddyn academaidd 2020/21 (Universities UK, 2022). Yn 2020/21, rhoddodd Universities UK (2022) wybod bod ‘162 o brifysgolion y DU wedi darparu rhyw fath o TNE i 510,835 o fyfyrwyr mewn dros 225 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd’ ac roedd 1,095 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhai TNE (Universities UK, 2022).  

Yn ogystal â chyfrannu’n sylweddol i economi’r DU, chwaraeodd y profiad TNE ran bwysig yn fy natblygiad proffesiynol yn ddarlithydd. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd ym mis Mai 2022, roedd gen i rôl ddarlithio unigryw. Roedd yn cynnwys addysgu myfyrwyr israddedig yn y DU a datblygu rhaglen TNE a chyflwyno modiwlau i fyfyrwyr yn Tsieina. Am gyfnod o bedair blynedd, byddwn yn hedfan i Tsieina i ddarlithio. Fel arfer byddwn yn treulio tair wythnos ddwys yn cyflwyno dau fodiwl i grwpiau o 30 i 40 o fyfyrwyr.  

Byddai fy nhaith i’r brifysgol yn cymryd tua 26 awr a byddwn yn teithio rhwng un a thair gwaith y flwyddyn academaidd. Roedd fy magiau yn llawn cymysgedd amrywiol o eitemau personol a phroffesiynol megis dillad isaf glân, bagiau coffi Taylors, adnoddau wedi’u lamineiddio a phypedau! Roedd gen i tua diwrnod a hanner i ymgartrefu, addasu i’r gwahaniaeth amser sef 8 awr, paratoi fy neunyddiau dysgu a dechrau cyflwyno’r modiwlau. Mae Smith (2017) yn crynhoi fy mhrofiad TNE yn dda iawn. Mae’n nodi bod darlithwyr sy’n gwneud y gwaith hwn yn gyffredinol yn cael profiad ‘mwy eithafol, dwys, a dryslyd’ (t.8) lle gall fod yn heriol ond yn werth chweil.  

Roedd gweithio mewn ystafell ddosbarth draws-ddiwylliannol lle roedd pob myfyriwr yn siarad Saesneg yn iaith ychwanegol yn cadarnhau pwysigrwydd yr agweddau addysgeg canlynol: 

  1. roedd dulliau dysgu chwareus, gweithredol yn ddefnyddiol wrth esbonio cysyniadau cymhleth 
  2. roedd deall profiadau blaenorol myfyrwyr yn gwneud y mwyaf o ddysgu ac wedi helpu i feithrin cydberthnasau cadarnhaol  
  3. roedd ailadrodd a chyflwyno geiriau/termau newydd yn ofalus wrth gyfathrebu, a darparu gwybodaeth lle bo hynny’n bosibl ym Mandarin (h.y. iaith gyntaf) wedi cynorthwyo’r dysgu 
  4. roedd ‘asesu yn ffordd o ddysgu’, ‘asesiad dilys’ ac esbonio meini prawf asesu a’r disgwyliadau yn y gwersi dyddiol wedi datblygu llythrennedd asesu myfyrwyr 
  5. roedd gweithio’n rhan o bartneriaeth a chreu perthynas gadarnhaol â chydweithwyr mewn dwy brifysgol e.e. gweithio gyda staff gwasanaethau proffesiynol wedi helpu i ddatblygu sgiliau astudio a chyfoethogi profiad myfyrwyr   
  6. roedd rhoi myfyrwyr yn gyntaf a gofyn ‘sut brofiad yw hyn iddyn nhw/o’u safbwynt nhw?’ wedi helpu i wella’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael 
  7. roedd cymryd rhan mewn myfyrio beirniadol rheolaidd gyda chydweithwyr wedi helpu i wella fy ymarfer 
  8. roedd bod yn greadigol, yn ddyfeisgar ac yn hyblyg wedi fy helpu i ddod yn hwylusydd dysgu gwell 

Rwy’n gwerthfawrogi efallai na fydd yr agweddau hyn yn newydd i’r rhai sy’n gweithio gyda myfyrwyr rhyngwladol yn rheolaidd, ond mae’r wyth pwynt yn hynod berthnasol ac yn fuddiol i bob myfyriwr mewn Addysg Uwch ble bynnag maen nhw’n dysgu a ble bynnag rydyn ni’n addysgu.   

  

Cyfeirnodau:  

Dai, K. & Garcia, J. (2019). Intercultural Learning in Transnational Articulation Programs: The Hidden Agenda of Chinese Students’ Experiences.  Journal of International Students, 9(2), 362-383. 

Department for Education and Department for International Trade (2021). International Education Strategy: 2021 update Supporting recovery, driving growth. Llundain: Llywodraeth y DU. International Education Strategy 2021 (publishing.service.gov.uk) 

O’ Mahony, J. (2014). Enhancing student learning and teacher development in transnational education.  Efrog:  The Higher Education Academy. enhancingtne_final_080414_1568036615.pdf  

Smith, K. (2014). Exploring flying faculty teaching experiences: motivations, challenges and opportunities. Studies in Higher Education, 39(1), 117-134. 

Smith, K. (2017). Transnational education toolkit. Efrog:  Higher Education Academy. Transnational education toolkit | Advance HE (advance-he.ac.uk) 

Universities UK. (2022) International Facts and Figures 2022. International Facts and Figures 2022 (universitiesuk.ac.uk)