Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg: defnyddio dylunio dysgu’n effeithiol i gefnogi dysgu myfyrwyr

23 Mehefin 2023
Hand placing jigsaw pieces together

Mae Dr Nathan Roberts, Rheolwr Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg yn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn egluro pwysigrwydd cynllunio dysgu i gefnogi dysgu myfyrwyr.

Mae’r gallu i ddatblygu modiwl neu raglen sydd wedi’i dylunio’n dda yn elfen hanfodol o’r addysgu. Sut ydyn ni’n dylunio mewn ffordd sy’n rhoi’r cyfle gorau i’n myfyrwyr lwyddo? Rydym yn tueddu i feddwl am addysgu effeithiol o ran nodweddion ‘yn y dosbarth’ (creu amgylchedd calonogol, ymateb i anghenion dysgu amrywiol myfyrwyr, rhoi adborth da ac yn y blaen) ond heb fframwaith trosfwaol sy’n gosod nodau, gweithgareddau ac asesiadau priodol, bydd cyfyngiad mawr ar eu heffaith. Ar bob cam o’ch gyrfa addysgu neu gefnogi dysgu, bydd datblygu eich arbenigedd dylunio dysgu yn arwain at fanteision enfawr i’ch myfyrwyr a’ch ymarfer proffesiynol ehangach. 

Mae hwn yn faes ffocws pwysig ar draws Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg y Brifysgol. I’r rhai sy’n dechrau ac yn gweithio tuag at eu Cymrodoriaeth Gysylltiol, mae dylunio dysgu yn aml yn ymwneud â gwneud penderfyniadau da ynghylch sut i strwythuro seminarau unigol neu sesiynau labordy a gwneud cysylltiadau ystyrlon â’r modiwl a’r asesiadau ehangach.  

Mae’r rhai sy’n gweithio tuag at Gymrodoriaeth yn aml yn (ail) ddylunio modiwlau ac yn gweithio allan sut i slotio’r holl ddarnau gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr yn nhermau addysgeg.  

Mae ein carfannau Uwch Gymrodoriaethau fel arfer yn cyflwyno newidiadau i raglenni ar raddfa ac yn cefnogi eraill yn eu hymdrechion dylunio dysgu eu hunain. Ein nod ar draws y darn yw helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu harbenigedd eu hunain trwy gyflwyno modelau a thechnegau y gellir eu defnyddio’n ymarferol mewn gwahanol gyd-destunau ac sy’n seiliedig ar y sylfaen dystiolaeth sy’n esblygu’n gyflym ar gyfer ymarfer effeithiol.  

Mae’r ysgoloriaeth yn y maes hwn yn enfawr ond mae wedi sefydlu set o egwyddorion y cytunwyd arnynt yn eang ar gyfer dylunio:  

  • Dechreuwch ar y diwedd! Meddyliwch am yr hyn y mae angen i fyfyrwyr allu ei wneud ar ôl cwblhau sesiwn/modiwl/rhaglen. Mae dull ‘dylunio yn ôl’ yn cynnwys dechrau gyda’ch nodau (y gellir, yn gyfarwydd, eu mynegi fel deilliannau dysgu) a gweithio’n ôl o’r fan honno. 
  • Adeiladu strategaeth asesu ac adborth sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddangos y nodau rydych wedi’u gosod. Hynny yw: aseswch y pethau cywir yn y ffordd gywir. Os bydd cydweithio creadigol yn allweddol i’ch graddedigion, efallai y bydd yn amser i chi feddwl y tu hwnt i’r traethawd ysgrifenedig unigol. 
  • Defnyddio amrywiaeth o weithgareddau dysgu cynhwysol sy’n adeiladu tuag at yr asesiad ac yn rhoi sawl ffordd i fyfyrwyr ymgysylltu. 

Bydd llawer yn gyfarwydd â’r syniad o ‘aliniad adeiladol’ sy’n pwysleisio pwysigrwydd y berthynas rhwng y tair elfen hon. Mae adeiladu cyfleoedd i wneud y gwaith dylunio hwn mewn partneriaeth â myfyrwyr hefyd wedi cael ei ddangos i fod yn strategaeth effeithiol. Yr hyn sy’n allweddol yw y bydd cael yr hanfodion hyn yn eu lle yn rhoi digon o gyfle i ehangu, archwilio ac arbrofi wrth ddarparu strwythur clir, dealladwy i bawb dan sylw. 

Gall ymgymryd â dysgu proffesiynol yn y maes hwn helpu pawb sy’n ymwneud ag addysgu a chefnogi dysgu ac mae’r rhai sydd wedi cwblhau un o’n rhaglenni achrededig Uwch yn aml yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae eu DPP wedi’i chael ar eu prosiectau dylunio modiwlau a rhaglenni (gweler yr ystod o straeon cyfranogwyr ar Twitter).

Cymrwch rhan neu ddysgwch mwy 

Os hoffech ddatblygu eich arfer dylunio dysgu a chael cydnabyddiaeth broffesiynol ar hyd y ffordd, ystyriwch gofrestru ar un o’n Rhaglenni Cymrodoriaeth. 

Mae sawl pwynt derbyn ar draws y flwyddyn ac mae ein tîm bob amser ar gael i drafod yr opsiynau. Gallwch anfon ebost atom educationfellowships@caerdydd.ac.uk neu ddod i un o’n sesiynau galw heibio Zoom agored bob dydd Mercher rhwng 12:30 — 13:30. 

Mae cymorth ar gyfer dylunio dysgu hefyd ar gael drwy raglen agored yr Academi Dysgu ac Addysgu o weithdai a thimau o staff arbenigol.