Cwrdd â Katie Green ein Cynorthwyydd Ymgysylltiad Myfyrwyr
22 Mehefin 2023Mae ein Cynorthwyydd Ymgysylltiad Myfyrwyr, Katie Green yn dweud mwy wrthym amdani hi ei hun a’i rôl yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Beth mae eich rôl yn ei gynnwys a pha mor hir ydych chi wedi bod yn y rôl?
Dechreuais y rôl hon fel myfyriwr graddedig 9 mis yn ôl. Mae’n cynnwys gweithio gyda’r tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr ar brosiectau i wella profiad myfyrwyr, megis dadansoddi Gwella Modiwlau ac Arolwg Ôl-raddedig a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS).
Mae fy rôl graidd hefyd yn cynnwys rheoli’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr o ddydd i ddydd.
Pa brosiectau/tasgau ydych chi’n gweithio arnynt o fewn eich rôl ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar ddatblygu’r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ar gyfer 2023/24. Mae hyn yn cynnwys:
- adeiladu llinell amser
- gwerthuso’r cynllun hyd yn hyn
- recriwtio
- gwella adnoddau ar gyfer Hyrwyddwyr Myfyrwyr newydd
Dywedwch wrthym am hanes eich gyrfa
Cyn dechrau yn y rôl hon, bûm yn gweithio ochr yn ochr â’m hastudiaethau MSc fel Aelod o Dîm Mewnwelediad Myfyrwyr yn y Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ystod y rôl bûm yn gweithio mewn partneriaeth â staff o ysgolion a gwasanaethau proffesiynol. Rhoddais safbwynt myfyriwr ar brosiectau newydd ac ymgysylltais â datblygu strategaethau ar gyfer profiad myfyrwyr, llais myfyrwyr a chyflogadwyedd. Cynorthwyais y tîm hefyd i drefnu a chynnal y gynhadledd flynyddol a’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr.
Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr?
Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau darllen, mynd a’r cŵn am dro, a threulio amser gyda fy nai.
Dewch i gwrdd â mwy ohonom o’r Academi Dysgu ac Addysgu
Dewch i gwrdd â Phillip Harris, ein Cydlynydd Digwyddiadau Myfyrwyr sydd â’i rôl yn cynnwys datblygu a gweithredu cyfres o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar wella profiad myfyrwyr, adeiladu cymunedau, a dathlu rhagoriaeth dysgu ac addysgu.