Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Llais y Myfyrwyr mewn Addysg Uwch: Byd Newydd

28 Gorffennaf 2023
Some of our Student Champions in a collage

Gan Maksymilian Karczmar, Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr, Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.

Yn ddiweddar, roedd yn bleser gen i a fy nghydweithiwr, Charis Francis, gynrychioli Prifysgol Caerdydd yng nghynhadledd Lleisiau Myfyrwyr mewn Addysg Uwch yn Birmingham. Ar ôl seibiant hir roedd yn wych cael y cyfle i ddod ynghyd â chydweithwyr o sefydliadau addysg uwch eraill i drafod profiad myfyrwyr mewn byd sy’n newid yn gyson.

Roedd y gynhadledd eleni yn cwmpasu tair thema eang yn ymwneud â llais y myfyrwyr:

  • disgwyliadau myfyrwyr
  • lles myfyrwyr
  • ymgysylltu â myfyrwyr

Roedd ein cyflwyniad yn canolbwyntio ar:

  • ein profiad ym Mhrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf
  • dulliau newydd o wella profiad myfyrwyr rydym yn eu treialu
  • y gwersi rydym wedi’u dysgu hyd yn hyn

Rydym wedi rhoi sylw i’r buddsoddiad diweddar i lwyddiant myfyrwyr, addasu i’r newid cyflym yn sgil y pandemig ac ailgynllunio dulliau o ymdrin â llais y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gyda strwythur llywodraethu newydd.

Llwyddiant

Un o’r llwyddiannau a gafodd ei rannu gennym oedd datblygiad y Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr unigryw sydd wedi bod yn rhan annatod o Lais y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf.

Gyda diolch i’n myfyrwyr a’n haelodau staff sydd wedi ymwneud â’r cynllun, a’n cydweithwyr ymroddedig sy’n ei gynnal, mae wedi tyfu’n gyflymach ac yn gyflymach. Er bod cynlluniau tebyg yn bodoli yn y DU, mae gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd – yn Hyrwyddwyr Myfyrwyr a gaiff eu talu – gyfle unigryw a hyblyg i ennill a datblygu sgiliau technegol a phersonol ymhellach, megis dadansoddi data neu gynllunio digwyddiadau tra’n hybu eu cyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol a llunio Llais y Myfyrwyr wrth iddynt astudio yma.

Arolygon

Rydym wedi cynnwys newidiadau i’r ffordd rydym yn casglu adborth yn ffurfiol gan fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir mewn arolwg newydd: Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS). Rydym wedi gwrando ar adborth gan staff a myfyrwyr ac wedi ail-ddylunio’r prif arolwg sy’n cael ei gynnal bob mis Mai, a hynny er mwyn galluogi gweithio ar y cyd, trafod a gwella.

Rydym hefyd wedi cyflwyno holiadur byr ar wahân sy’n cael ei gynnal bob mis Awst sy’n canolbwyntio ar gam y traethawd hir. Cawsom lawer o ddiddordeb gan sefydliadau addysg uwch eraill ar sut y gwnaethom weithredu’r arolwg newydd hwn gyda chwestiynau byrrach, mwy penodol a sut y llwyddon ni i gyflawni cyfradd ymateb uwch na’r cyfartaledd ar gyfer arolwg profiad cyrsiau ôl-raddedig a addysgir (PTES) cyfatebol a gynhaliwyd gan

Rydym hefyd wedi trafod treialu dull newydd o gynnal arolygon drwy Cipolwg Caerdydd a gynhaliwyd rhwng 2020 a 2021. Arweiniodd hyn at gyflwyno’r system Gwella Modiwlau newydd yna rhan o newid mwy i Lais y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys disgwyliadau a chyfrifoldebau a nodir yn Fframwaith Llais y Myfyrwyr.

Ein profiad yn y gynhadledd

Er bod llawer o gyflwyniadau diddorol gan gydweithwyr o sefydliadau addysg uwch eraill, roeddem am dynnu sylw at un a oedd wedi gadael ei farc arnom. Cyflwynwyd y sesiwn dan y teitl ‘Humanising the Student Experience’ gan Dr Joanna Thurston o Brifysgol Bournemouth, Arweinydd Ffrwd Gwaith Llais y Myfyrwyr yn Swyddfa’r Is-Ganghellor. Canolbwyntiodd Joanna ar sut y gallwn ni ddyneiddio’r ffordd rydyn ni’n siarad am brofiad myfyrwyr ac felly rheoli disgwyliadau myfyrwyr. Roedd hyn yn seiliedig ar ymchwil sydd wedi’i chynnal ar ddyneiddio gofal iechyd. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

  • dadansoddiad o’r sylwadau gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)
  • y mathau o ddyneiddio a dad-ddyneiddio sy’n deillio o’r rhain
  • gwerthoedd neu egwyddorion y dylem eu hymgorffori i fynd i’r afael â’r materion y mae myfyrwyr yn sôn amdanynt, ond hefyd sut rydym trafod hyn gyda myfyrwyr a pha fath o iaith y dylem ei defnyddio wrth wneud hynny

Ar ôl y cyflwyniad, trafodon ni’r cysyniad cymhleth o ‘berthyn’ sy’n amlwg iawn mewn sgyrsiau cyfredol ynghylch profiad myfyrwyr. Gallai fod yn ddefnyddiol os nad yw sefydliadau o reidrwydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn ‘perthyn’, gan ei bod yn anodd iawn cyflawni hyn mewn amgylchedd prifysgol mewn cyfnod cymharol fyr, a gall gymryd blynyddoedd o safbwynt seicolegol i unigolion greu’r ymdeimlad o berthyn i’r byd hwnnw o’u cwmpas. Yn hytrach, yr hyn sydd wedi’i gynnig yw canolbwyntio ar fyfyrwyr yn teimlo ‘cysylltiad’ â’r brifysgol, yr ysgol, y pwnc, y cwrs neu eu carfan. Mae hyn yn ymddangos yn fersiwn sy’n cario llai o bwysau na ‘pherthyn’, a gallai fod yn haws i’w gyflawni.

Yn y drafodaeth am reoli disgwyliadau myfyrwyr, cytunwyd y dylid cyflwyno myfyrwyr i gynrychiolaeth fwy cywir o realiti profiad myfyrwyr drwy gydol eu hamser yn y brifysgol. Ar hyn o bryd, mewn sawl ffordd, mae myfyrwyr yn cael eu boddi gan y delweddau o unigolion sy’n gwenu’n hapus sydd i’w gweld ar wefannau prifysgol, prosbectysau, ac ati. Maent yn cyflwyno’r byd delfrydol sydd ddim yn bodoli, ac wrth wynebu rhwystrau neu broblemau, efallai y bydd myfyrwyr yn teimlo pwysau tuag at ‘positifrwydd’ perfformiadol a gwenwynig, gan ofyn cwestiynau megis ‘pam nad wyf yn teimlo/edrych fel y myfyrwyr hyn ar y lluniau neu yn y fideos, beth sydd o’i le gyda mi?’. Wrth fynd i’r afael â hyn, dylai sefydliadau gynnwys darlun mwy cywir o brofiad myfyrwyr, ac enghreifftiau gan fyfyrwyr presennol yn esbonio beth sydd wedi bod yn dda iddyn nhw yn ystod eu hamser yn y brifysgol, ond hefyd pa faterion y gallent ddod ar eu traws wrth astudio, pa gymorth sydd ar gael a sut i ddelio ag ef.

Crynodeb

Mae’n deg dweud bod y dull o weithredu Llais y Myfyrwyr ym maes addysg uwch yn fwy hyblyg o’i gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl.  Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae angen i sefydliadau addasu ac ymateb yn llawer cyflymach. Hefyd, mae’n rhaid iddynt fod yn barod i dreialu ffyrdd newydd o ymgysylltu â myfyrwyr, ac weithiau gallu newid eu dulliau yn flynyddol, gan gynnal yr egwyddorion craidd a gaiff eu harwain gan fyfyrwyr.