Skip to main content

Ein tîm

Cwrdd â Charis Francis, ein Swyddog Ymgysylltu Myfyrwyr

1 Awst 2023
Person smiling

Mae Charis Francis, Swyddog Ymgysylltu Myfyrwyr yn y tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr yn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn dweud wrthym am ei rôl, ei phrosiectau a hanes ei gyrfa.

Dywedwch wrthym am hanes eich gyrfa

Es i Brifysgol Caerdydd fel myfyriwr Rheolaeth Busnes. Yn ystod fy mlwyddyn lleoliad, bûm yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymgysylltiad Myfyrwyr yn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Fe wnes i fwynhau cymaint nes i mi barhau yn y rôl hon yn rhan-amser ochr yn ochr â’m hastudiaethau am weddill fy nghwrs. Pan ddaeth i ben, roeddwn yn gweithio fel Swyddog Llais Myfyrwyr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, nes dod yn ôl fel Swyddog Ymgysylltu Myfyrwyr.

Beth mae eich rôl yn ei gynnwys a pha mor hir ydych chi wedi bod yn y rôl?

Rôl arolwg a dadansoddi data yw fy rôl yn bennaf, fodd bynnag rwy’n ymwneud ag ystod o wahanol weithgareddau llais myfyrwyr megis hyrwyddo arolygon, cyfathrebu ymgysylltu â myfyrwyr, grŵp rheoli arolygon, adolygiad blynyddol y Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, a helpu i arwain y cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr. Rwy’n ymwneud yn helaeth â’r prif arolygon myfyrwyr blynyddol fel yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Arolwg Ôl-raddedig a Addysgir Prifysgol Caerdydd, Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig, a Gwella Modiwlau. Yn ogystal, rwyf wedi bod yn cynorthwyo yn y Grŵp Goruchwylio Perfformiad Addysg i wella Profiad Myfyrwyr.

Pa brosiectau/tasgau ydych chi’n gweithio arnynt o fewn eich rôl ar hyn o bryd?

Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar gynyddu cyfraddau ymateb yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, CUPTS, a PRES, yn barod ar gyfer dadansoddi data yn yr haf. Rydym newydd gael ein Harddangosfa Poster Hyrwyddwr Myfyrwyr flynyddol, a gynhaliwyd yn bersonol am y tro cyntaf eleni ac a oedd yn ffordd wych o arddangos llwyddiant y cynllun.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr?

Rydw i wedi dechrau rhedeg 3 gwaith yr wythnos gyda chlwb i godi fy ffitrwydd. Ar wahân i hynny, rwy’n gefnogwr enfawr o fynd allan i fwytai am fwyd, treulio amser gyda fy nghŵn, a gwylio mewn pyliau Below Deck a Married At First Sight (Awstralia).

 

Darllenwch fwy gan Charis a’i phrofiad yn Arddangosfa Poster Hyrwyddwr Myfyrwyr eleni.