Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Dysgu gydol oes – deall rôl addysg uwch mewn cynaliadwyedd

4 Mawrth 2024

Mae Prifysgol Caerdydd yn dathlu Wythnos Cynaliadwyedd rhwng y 4-8 Mawrth 2024. Rydym yn falch o rannu’r blog isod gan Laura Barritt, o’r Tîm Cymrodoriaethau Addysg, Yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Mae disgyrsiau cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch wedi’u cydnabod mewn llenyddiaeth ers tro. Er hynny, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw wedi cynyddu i roi’r syniadau hyn ar waith mewn ymarfer addysgu i gefnogi dysgwyr â sgiliau cyflogadwyedd a dysgu gydol oes yn y dyfodol. Mae canfyddiadau Cook (2020) yn tynnu sylw at yr angen i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau trawsbynciol ac i gofleidio ffyrdd rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol o weithio a dysgu.  Nid yw gweithio mewn seilos yn ddigon i fynd i’r afael â materion mor gymhleth a’r problemau enbyd sy’n deillio o heriau cynaliadwyedd (QAA / Advance HE 2021; Cook 2020). I gefnogi’r datblygiad hwn, mae angen i ni ymgysylltu â disgyrsiau cynaliadwyedd yn ein hymarfer addysgu, i gefnogi dysgwyr a’n sefydliadau gyda datblygu cynaliadwy.

‘Mae Datblygu Cynaliadwy yn broses uchelgeisiol barhaus o fynd i’r afael â phryderon cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i greu byd gwell’ (QAA / Advance HE 2021 t8).

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Gellir cefnogi’r cynnwys a addysgwn a’i berthynas â datblygu cynaliadwy trwy ystyried 17 Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) y Cenhedloedd Unedig (uchod). Mae’r nodau hyn yn cynnig fframwaith; ffordd i ni feddwl a thrafod sut y gallwn gysylltu ein cynnwys â chynaliadwyedd.

Gallai hyn ddechrau’n eithaf cyffredinol wrth i ni ddechrau trafodaethau sy’n datblygu ein dealltwriaeth o beth y gallai hyn ei olygu i ni yn ein hymarfer. Yna gellir datblygu’r syniad hwn ymhellach trwy ddatblygu ymwybyddiaeth ac arferion cynaliadwyedd yn ofalus gyda myfyrwyr trwy ein sesiynau addysgu (Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy).

‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy – y broses o greu strwythurau cwricwlwm a chynnwys pwnc-berthnasol i gefnogi a gweithredu datblygu cynaliadwy’ (QAA / Advance HE 2021 t8).

O ran ymgorffori hyn yn ein hymarfer addysgu, mae rhai cymwyseddau wedi’u cydnabod fel rhai o bwysigrwydd arbennig ar gyfer cynaliadwyedd. Mae UNESCO wedi datblygu’r rhain yn Gymwyseddau Cynaliadwyedd (Advance HE / QAA 2021). Mae’r galluoedd hyn yn ffyrdd y gallwn ddechrau cefnogi dysgwyr i dyfu ac esblygu o fewn byd sy’n esblygu; lle mae marchnadoedd swyddi, amgylcheddau a chymdeithas sefydlog yn dod yn atgof, yn rhith o’r gorffennol. Mae’r cymwyseddau cynaliadwyedd yn cefnogi gwahanol agweddau ar ddysgwr sy’n datblygu – heb ganolbwyntio’n llwyr ar y dimensiwn gwybyddol, maent yn ceisio ymgysylltu’n fwy holistig â’r dysgwr trwy gefnogi ‘ffyrdd o fod’ (gwerthoedd, myfyrio), ‘ffyrdd o feddwl’ (gwybodaeth wybyddol) a ‘ffyrdd o wneud’ (sgiliau ymarferol).  Mae hyn yn paratoi myfyrwyr i fod yn fwy addasadwy, adfyfyriol a hyblyg ar adegau o newid a chymhlethdod.

Mae’r dull hwn hefyd yn cefnogi datblygu ymrwymiad i ddysgu gydol oes yn hytrach na dysgu ar gyfer moment, ar gyfer prawf; felly, gall y dysgwr gymryd rhan mewn dysgu dyfnach ac addasu wrth i’w brofiad newid dros amser. Mae’r newid hwn i ganolbwyntio ar y dysgwr cyfan yn dra gwahanol i ddulliau addysgu a dysgu traddodiadol blaenorol mewn addysg uwch. Mae’n gofyn i ni ystyried sut y caiff sesiynau gwahanol eu llunio i gefnogi pob un o’r galluoedd angenrheidiol. I gefnogi addysg gyda’r newid hwn, mae UNESCO (UNESCO 2017) wedi rhyddhau ystod o Ddeilliannau Dysgu sy’n cefnogi pob un o’r cymwyseddau hyn yn ymarferol ar draws ystod o bynciau ac NDCau.

Mae symud tuag at annog a chefnogi dysgu gydol oes holistig yn ddatblygiad sydd o fudd i bawb dan sylw – y dysgwr, yr athro, a’r sefydliad. Mae’n sefydlu diddordeb mewn – ac angen am – berthynas hirdymor ag addysg lefel uwch, ymhell y tu hwnt i ddiwedd gradd israddedig draddodiadol.  Mae’n cefnogi myfyrwyr i ddod yn fwy ymwybodol o sut maen nhw’n dysgu, yn ogystal â beth maen nhw’n ei ddysgu. Mae’n annog ymreolaeth a hunanreoleiddio, ac mae’n cefnogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth feddwl am effeithiau hirdymor yn hytrach nag atebion byrdymor. Mae’n datblygu’r dysgwr i’w alluogi i gymryd rhan mewn disgyrsiau cynaliadwyedd a hyd yn oed eu llywio; gan roi asiantaeth iddynt, yn ogystal â chefnogi sgiliau ac arferion meddwl mwy cymhleth, lefel uchel, a fydd o fudd i’w cyflogaeth yn y dyfodol.

Awgrymiadau Defnyddiol

Beth allwch chi ei wneud i ddechrau gweithio tuag at gynaliadwyedd yn eich rôl?

  • Edrychwch yn ofalus ar eich cynnwys. Allwch chi weld cysylltiadau ag unrhyw NDCau? Ydych chi’n ymgysylltu â heriau cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd? Mae creu cysylltiadau clir yn fan cychwyn – mae hyn yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr wneud cysylltiadau.
  • Edrychwch ar y Cymwyseddau Cynaliadwyedd. A oes tasgau ydych chi’n eu defnyddio eisoes sy’n ategu’r rhain? A oes unrhyw dasgau y gallech eu datblygu i wella’r cymwyseddau hyn yn ymarferol?
  • Oes gennych chi gyfleoedd i hunanfyfyrio a hunanasesu? Sut gallech chi ddatblygu’r rhain i gefnogi hunanreoleiddio mewn dysgwyr?
  • Meddyliwch am y darlun ehangach a gweithredwch – cysylltwch ag eraill yn eich ardal sydd â diddordeb mewn creu cysylltiadau a datblygiadau mewn cynaliadwyedd. Pa DPP allech chi ei gynnig i’n graddedigion a’n cyn-fyfyrwyr i ymgysylltu ymhellach â’r agenda gynaliadwyedd a’i llywio?

Cyfeiriadau

17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig Ar gael yn https://sdgs.un.org/goals

Advance HE & The Quality Assurance Agency for Higher Education (2021) Education for Sustainable Development Guidance. Ar gael yn:  Education for Sustainable Development Guidance | Advance HE (advance-he.ac.uk)

Cook, I (2020) ‘Future Graduate Skills: A Scoping Study’. Change Agents UK. Ar gael yn: Future Graduate Skills: A Scoping Study (sustainabilityexchange.ac.uk)

Education for Sustainable Development Goals: learning objectives; 2017 – 247444eng.pdf (unesco.org

UNESCO (2017) Education for Sustainable Development Goals: learning objectives. Llyfrgell Ddigidol UNESCO. Ar gael yn: https://unesdoc.unesco.org/ark:/48223/pf0000247444.locale=en