Skip to main content

Ein tîm

Cwrdd ag Ada Huggett-Fieldhouse, ein Uwch Ddatblygwr Addysg

29 Ionawr 2024

Dyma Ada Huggett-Fieldhouse, Uwch Ddatblygwr Addysg yn ein Gwasanaeth Datblygu Addysg, i sôn mwy am ei rôl a’r prosiectau mae’n gweithio arnynt yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yma:

Dechreuais fy ngyrfa yn dysgu Saesneg ar gyfer oedran uwchradd ac astudio am radd Meistr mewn Addysg, ac fe daniodd fy niddordeb mewn gweithred ymchwil yn y dosbarth. Ar ôl hynny, bum yn Ddatblygwr Dysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ystod y pandemig, gweithiais fel Dylunydd Dysgu, a rwyf wedi bod yn Uwch Ddatblygwr Addysg ers bron i ddwy flynedd. Rwyf hefyd wedi dysgu Ieithyddiaeth drwy’r adran Dysgu Gydol Oes, ac fe wnes i fy ngradd mewn Saesneg yma yng Nghaerdydd!

Ers faint ydych chi wedi bod yn y rôl, a beth yw eich cyfrifoldebau?

Rwyf wrth fy modd yn fy rôl newydd gan mod i’n gweithio ochr yn ochr a staff dysgu mewn ysgolion er mwyn llywio a chefnogi eu blaenoriaethau datblygu addysg. Mae bob un o’r Datblygwyr Addysg yn ein hadran yn gweithio yn bennaf â’u grŵp penodol o ysgolion eu hunain.

Rwy’n cynorthwyo staff fel y Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu i gynllunio eu datblygiad addysgol, gan wneud y mwyaf o’r arbenigwyr a’r adnoddau sydd gennym yn yr Academi. Rwyf hefyd yn gwrando’n astud ar anghenion penodol yr ysgolion er mwyn teilwra’r adnoddau fwy cyffredinol sydd gennym ni ar eu cyfer.

Gall diwrnod arferol i mi gynnwys mynychu grŵp ail ddilysu er mwyn cynnig cefnogaeth ac arweiniad. Efallai byddaf yn rhedeg gweithdy wedi ei deilwra ar gyfer ysgol gydag aelod o staff academaidd a chyfuniad o gyd-weithwyr o’r Academi. Ar ddyddiau pan wyf wrth fy nesg, gall y tasgau gynnwys gorchwylio gwaith rheoli’r Pecyn Cymorth Datblygu Addysg neu ysgrifennu papurau ar bynciau academaidd sydd o ddiddordeb i ysgolion.

Rwy’n cael boddhad o chwarae rhan mewn gwneud gwelliannau hir dymor datblygu addysg mewn ysgolion. Mae hefyd yn fraint mawr i gael bod yn wyneb cyfarwydd a dod i adnabod mwyfwy o staff mewn ysgolion. Athro ydw i’n gyntaf, ac rwyf yn caru bod ymysg staff dysgu eraill.

Pa brosiectau/tasgau ydych chi’n gweithio arnynt ar hyn o bryd fel rhan o’r gwaith?

Rwy’n gweithio gyda sawl ysgol ar lansio eu cynlluniau Gwella Profiad Myfyrwyr. Gyda rhai ysgolion, rwyf yn trefnu gweithdai wedi eu teilwra ar yr ardaloedd hynny maent wedi eu dethol ar gyfer gwelliannau. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys asesiadau ac adborth, dysgu gwrthdro, a dylunio dysgu. Rwy’n ddigon ffodus i gael gweithio â chyd-weithwyr hyfryd yr Academi Dysgu ac Addysgu ar galeidosgop o gyfuniadau – mae pob dydd yn wahanol.

Rwyf hefyd yn cydlynu diweddariad bach i’r Pecyn Cymorth Datblygu Addysg. Mae gennym dros 20 awdur a chyfranwyr – mae sicrhau bod gennym welliannau cyson a bod popeth yn gyfredol yn dipyn o waith!

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser hamdden?

Rwy’n mwynhau bod tu allan a cherdded Moshi, fy nghi bach Chin Japaneaidd mewn amryw o lefydd deniadol. Pan nad wyf yn yr awyr agored, rwy’n un sydd yn hoff o fod adref. Rwy’n hoffi addurno fy nghartref mewn arlliwiau dramatig a coginio ar gyfer fy ffrindiau a fy nheulu.

Cwrdd a rhagor o aelodau staff

Mae modd canfod mwy am ragor o aelodau staff yr Academi Dysgu ac Addysgu.