Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Hyrwyddwyr Myfyrwyr y Mis: Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2023

24 Ionawr 2024

Llongyfarchiadau i Holly Chung, David Anley a Sachi Mahabale ar fod yn Hyrwyddwyr Myfyrwyr y mis ar gyfer Hydref, Tachwedd a Rhagfyr.

Mae gan Holly (Chwith), David (Canol) a Sachi (Dde) agwedd gadarnhaol ac ymrwymedig ac maen nhw wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o gyfleoedd. Maen nhw wedi ymrwymo yn llwyr i’r cynllun ac wedi gwneud cyfraniadau rhagorol i’r prosiectau a’r tasgau y maent wedi bod yn rhan ohonynt.

Mae Holly wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu i lunio profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd mewn ffordd gadarnhaol. Mae syniadau Holly ar y prosiectau y mae hi’n ymwneud â nhw, sef “Profi Ap y Myfyrwyr yn Ddefnyddiwr” a “Dadansoddiad yr Hinsawdd ac Ecoleg” wedi bod yn hynod werthfawr.

Mae David wedi chwarae rhan weithgar mewn nifer o gyfleoedd, nid yn unig yn ei waith parhaus gyda’r “Grŵp Cynghori Dyfodol Myfyrwyr” ac “Asesu Cychwynnol ar gyfer Ymgysylltu a Myfyrwyr”, ond hefyd yn cyflawni tasgau ad hoc y mae’r Tîm Hyrwyddwyr wedi’u hanfon ar y funud olaf.

Mae Sachi bob amser yn awyddus i gymryd rhan ac mae wedi gwneud cyfraniadau nodedig tuag at Weithdy’r Sgwrs Fawr. Mae syniadau Sachi wedi helpu i gael effaith gadarnhaol ar brofiad y myfyrwyr.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Holly, David, a Sachi am fod yn aelodau gwych o’r tîm Hyrwyddwyr Myfyrwyr ac am weithio gyda ni i wella profiad y myfyrwyr i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ewch i’r dudalen Hyryddwyr Myfyrwyr i ganfod mwy am y cynllun.