Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Myfyrio ar ddigwyddiad mis Tachwedd yng nghyfres seminarau Gwobr Rhagoriaeth Addysgu Cydweithredol (CATE) a’r Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol (NTF) yng nghwmni’r unig dîm o Brifysgol Caerdydd a enillodd wobr, a hynny dan arweiniad Dr Wendy Ivins

10 Ionawr 2024
Fellowship seminars

Ysgrifennwyd gan Dr Wendy Ivins, Dr Kathryn Jones; Dr Nathan Jones a Dr Jenny Highfield o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg; ac Emmajane Milton, Athro Ymarfer Addysgol.

Yn ein digwyddiad ar-lein cyntaf ar 15 Tachwedd 2023 cawson ni sesiwn wych arall – y trydydd digwyddiad yn ein cyfres rhwydweithio a thrafod reolaidd.

Teitl sesiwn tîm COMSC oedd”Better together: the power of collaboration in Teaching and Scholarship – A National Software Academy perspective” gan ganolbwyntio ar roi cydweithio a gweithio mewn tîm wrth galon dysgu ac addysgu.

Siaradodd y tîm am ……

  • ffyrdd integredig o weithio gyda – myfyrwyr – staff – byd diwydiant – cleientiaid a deilliannau dysgu’r rhaglenni sy’n rhychwantu prosiectau a modiwlau i gefnogi profiad myfyrwyr.
  • pwysigrwydd sefydlu disgwyliadau sy’n gysylltiedig â gweithio mewn tîm i bawb, yn staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Roedd hyn yn golygu dysgu sgiliau gweithio mewn grŵp i fyfyrwyr yn benodol.
  • manteision gwrando ar fyfyrwyr a defnyddio eu safbwyntiau i lywio penderfyniadau i fireinio a gwella ffyrdd o weithio a oedd yn eu tro yn meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y rhaglenni.
  • ystod o strategaethau i annog ymgysylltu â myfyrwyr (e.e. gweithgareddau’r bowlen bysgod a chwrdd â phobl newydd (blind date)) a gweld sut roedd gwaith y prosiectau’n ddilys (yn cael ei lywio gan gleientiaid) ac o dan arweiniad myfyrwyr.
  • manteision cael lleoedd pwrpasol i fyfyrwyr a oedd yn arwain at weithio hyblyg ac ar y cyd.
  • ehangder allbynnau ysgolheictod yn sgil y gwaith hwn; roedd Pennaeth yr Ysgol wedi cefnogi, galluogi a hyrwyddo pob un.

Gofynnwyd i dîm CATE am eu barn ar y sesiwn hefyd:

“Roedd yn bleser mawr cael cyflwyno ar sail tîm (yn enwedig o ystyried bod dau aelod o’r tîm yn gyn-fyfyrwyr)! Roeddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i fyfyrio ar ein cynnydd, gan roi gwybod ichi am ein hymdrechion ym maes addysgu cydweithredol ac ysgolheictod a’n cynlluniau at y dyfodol. Gwibiodd y ddwy awr heibio ac roedd pob un ohonon ni’n teimlo bod angen trafod mwy! Diolch yn fawr i bawb. ”

Rhai o uchafbwyntiau yn ôl y cydweithwyr aeth i’r digwyddiad oedd:

  • Y sgyrsiau
  • Arbenigedd / trafodaeth ar draws y Brifysgol
  • Meddwl a dysgu ar y cyd
  • Cael gwrando ar ystod o bobl/safbwyntiau
  • Cyfle i ofyn cwestiynau/trafod
  • Enghreifftiau o ysgolheictod da o bob rhan o’r Brifysgol
  • Y cyfle i siarad am ysgolheictod gyda chydweithwyr
  • Testun diddorol iawn heddiw
  • Dysgu am brosiect gwych – model go iawn
  • Clywed am gydweithio rhwng myfyrwyr, staff a diwydiant

Yn sesiynau’r dyfodol dywedodd cydweithwyr yr hoffen nhw:

  • fwy o amser i drafod themâu, syniadau a safbwyntiau a godir.

Ymunwch â ni yn ein seminar nesaf

Rydym yn eich gwahodd yn wresog i ymuno â ni yn seminar nesaf y Cymrodyr Addysgu Cenedlaethol ar 17 Ionawr rhwng 13.00 a 15.00 yn y Prif Adeilad ar gampws Cathays, Ystafell 0.52. Cofrestrwch drwy Core i gael dolen y digwyddiad.

Bydd ein digwyddiad nesaf “It’s in everything we do …. a responsibility and a privilege”yn cynnwys Emmajane Milton o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a fydd yn rhannu ei barn am ddysgu, addysg a phrofiad y myfyrwyr a sut mae’r hyn y mae addysgwyr yn ei fodelu wrth addysgu yn anfon negeseuon cryf a phwerus am ddysgu a’i werth i’n myfyrwyr.

Cadwch eich lle trwy’r System AD gan ddefnyddio’r côd: TEAC9691

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yno.