Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Fy mhrofiad o Ddathlu Interniaethau Myfyrwyr ar y Campws – gan Helen Spittle

14 Rhagfyr 2023
poster exhibition

Gan fy mod i’n Gyfarwyddwr yr Academi Ddysgu ac Addysgu, ro’n i’n falch iawn o weld cynifer o fyfyrwyr a chydweithwyr yn dod ynghyd i ddathlu’r myfyrwyr hynny sydd wedi bod ar leoliad Interniaeth ar y campws yr haf hwn.

Ar 15 Tachwedd, arddangoswyd dros 100 o bosteri arddangos ymchwil yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, a hynny yng nghwmni goruchwylwyr o’u rhaglen a sawl aelod arall o staff.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym nid yn unig yn gwerthfawrogi safbwynt y myfyrwyr, rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr. Ein nod yw rhoi’r gallu i’n myfyrwyr i wneud cyfraniadau dilys i’r ymchwil a’r ysgolheictod o safon uchel sy’n digwydd yma, a chael mewnbwn uniongyrchol i’n hymarfer dysgu ac addysgu.

Ers lansio ein cynllun lleoliadau gwreiddiol yn 2008, rydym wedi cefnogi dros 1,200 o fyfyrwyr â lleoliadau haf yng Nghaerdydd, gan fuddsoddi dros £1.5 miliwn yn y profiad myfyrwyr drwy’r cynllun.

Mae gennym bedwar ffrwd i’r rhaglen, a phob un o’r rheiny yn rhoi profiad unigryw i’n myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Brifysgol:

  • Interniaethau Ymchwil
  • Interniaethau Dysgu ac Addysgu
  • Interniaethau Gwasanaethau Proffesiynol
  • Arloesi ac Effaith:

Cafodd nifer fawr o’n myfyrwyr y cyfle i ymgymryd â lleoliadau o bell neu leoliadau cymysg. Gall hyn ond cryfhau eu profiad wrth chwilio am gyfleoedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau gyda ni.

Roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i staff a myfyrwyr fyfyrio ychydig mwy ar brofiadau ei gilydd a chael gwybod am y gwahanol brosiectau.

Diolch 

Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl oruchwylwyr ac ysgolion am yr amser y maent yn buddsoddi i gynnal lleoliad dros yr haf. Mae’n wirioneddol wych bod ein staff yn angerddol am brofiad myfyrwyr ac yn ceisio cyfleoedd i gynnal lleoliadau.

Rwyf hefyd am ddiolch i’n myfyrwyr am fanteisio ar y cyfleoedd hyn ac am fuddsoddi cymaint o’u hymdrech i wneud y prosiectau yn llwyddiant – roedd y digwyddiad dathlu yn gyfle i ddathlu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni.

Rwy’n dymuno pob lwc i chi eleni ac yn gobeithio y bydd y profiad a gawsoch yr haf hwn yn fuddiol i chi yn eich astudiaethau a thu hwnt.

Posteri arddangos a sgyrsiau sydyn 

Fe welwch o’r arddangosfa yr ystod eang o brosiectau yn y cynllun hwn – popeth o ‘Nofio gwyllt, lles a dyfrluniau’ yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas i ‘Deunyddiau ar gyfer y dyfodol: ailgylchu a choncrit hunan-wella’ yn yr Ysgol Peirianneg a ‘Gwerthuso gweithgareddau ystafell ddosbarth drwy ddefnyddio Amgylcheddau Dysgu Realiti Rhithwir mewn Gwyddorau Cyfrifiadureg a Gofal Iechyd.

poster exhibition

Os nad oeddech chi’n gallu dod i’r digwyddiad, gall staff a myfyrwyr weld rhai o’r posteri a’r sgyrsiau sydyn yn ein Cymuned LTA ar Viva Engage:

Diolch yn fawr.