Skip to main content

Datblygu cwricwlwmYmgysylltu a myfyrwyr

Sut orau i gefnogi myfyrwyr i archwilio syniadau’n fanwl – dilyniannu’r broses o ddatblygu gwybodaeth gan ddefnyddio cysyniadau trothwy Gan Heather Pennington

12 Rhagfyr 2023
Support students to think

Un nod sylfaenol o fod yn addysgwr yw meithrin sgiliau, agweddau, a gwybodaeth yn ein myfyrwyr (Entwistle 2009). Mae cyflawni hyn yn golygu rhoi dulliau effeithiol iddynt archwilio cysyniadau’n drylwyr. Mae annog myfyrwyr i ymchwilio’n ddwfn i syniadau yn gofyn am weithgareddau dysgu sydd wedi’u cynllunio’n ofalus sydd wedi’u strwythuro’n dda, yn ymgysylltu â myfyrwyr yn weithredol, ac yn rhoi hyder iddynt fynd i’r afael â chysyniadau trothwy cymhleth ond trawsnewidiol (Land et al. 2016).

Mae i gysyniadau trothwy ran hanfodol yn y gwaith o ddeall pwnc penodol yn ddwfn. They act as gateways into the world of a subject, reshaping how students perceive and understand information in a way that cannot be reversed (Shwartzman 2010). Tra bod cysyniadau ‘craidd’ yn creu gwybodaeth yn raddol, mae cysyniadau trothwy yn cyflwyno ffyrdd chwyldroadol o ddeall, gan drawsnewid safbwyntiau’n sylweddol a chyfoethogi profiadau dysgu.

O ran strategaethau addysgu, mae integreiddio cysyniadau trothwy yn hollbwysig. Yn achos astudio dan gyfarwyddyd, caiff addysgwyr gyflwyno’r cysyniadau hyn yn egwyddorion arweiniol, gan fod yn fframwaith i fyfyrwyr ei archwilio. Bydd y dull strwythuredig hwn hwyrach yn cynnwys trafodaethau dan arweiniad neu sesiynau rhyngweithiol, gan gynorthwyo dysgwyr i ddefnyddio cysyniadau trothwy yn ffordd o ddeall eu hastudiaethau a’u deunydd dysgu. Mewn cyd-destunau astudio annibynnol, caiff myfyrwyr ymdrin â chysyniadau trothwy dan eu pwysau eu hunain. Yma, bydd addysgwyr yn hwyluswyr, gan rannu adnoddau ac yn rhoi arweiniad ac adborth i helpu myfyrwyr i lywio’r syniadau cymhleth hyn. Mae annog y broses o ymholi, ymchwil, a dadansoddi beirniadol hunangyfeiriedig yn grymuso myfyrwyr i fewnoli a defnyddio’r cysyniadau yn annibynnol. Nod y ddau ddull yw helpu myfyrwyr i lywio cymhlethdodau cysyniadau trothwy, meithrin meddwl yn feirniadol a dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc.

Wrth ystyried y ffordd orau o gefnogi myfyrwyr i ymdrin â syniadau yn fanwl, gallwn hefyd ystyried rôl dilyniannu. In education, sequencing surpasses mere topic arrangement; it represents a strategic skill in organizing content to best suit students’ comprehension, crucial for fostering a thorough understanding (Morrison 2013). Mae dilyniannu effeithiol yn effeithio ar gyflymder dysgu a’r gallu i gofio gwybodaeth, ‘the order in which material is presented can strongly influence what is learned, how fast performance increases, and sometimes even whether the material is learned at all’ (Ritter a Nerb 2007 tt.3-4). Mae defnyddio sgema, dull o drefnu gwybodaeth, yn cynorthwyo cysylltiadau wrth ddod ar draws gwybodaeth newydd. Mae dilyniannu yn golygu defnyddio gwybodaeth flaenorol yn effeithiol gan drefnu camau dysgu yn systematig, gan sicrhau dealltwriaeth lawn cyn symud ymlaen.

Wrth astudio dan gyfarwyddyd, mae addysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o strwythuro’r dilyniant dysgu. Maent yn dechrau drwy gyflwyno elfennau sylfaenol ac yna maent yn cynnwys pynciau cymhleth yn strategol. Nesaf, bydd addysgwyr yn arwain dysgwyr o ran y gwaith o greu cysylltiadau thematig, gan sicrhau dealltwriaeth gydlynol o’r ffordd y mae syniadau allweddol yn cydblethu â’i gilydd. Mae’r dull dan arweiniad hwn yn sicrhau gafael cynhwysfawr ar bob cysyniad cyn symud ymlaen, gan feithrin dealltwriaeth gyson ymhlith y dysgwyr. O ran astudio annibynnol, anogir unigolion i archwilio’r gyd-berthynas rhwng syniadau allweddol ond o dan arweiniad. Bydd dysgwyr yn mynd ati i archwilio’n helaeth o dan hunangyfarwyddyd, gan ddechrau gydag egwyddorion sylfaenol ac ehangu’n raddol i gynnwys cysylltiadau penodol. Yn sgil mentora a phlatfformau cydweithredol, bydd unigolion yn mireinio eu dealltwriaeth, gan sicrhau dealltwriaeth fwy cynnil o’r gydberthynas rhwng y rhain.

I grynhoi, mae integreiddio dilyniannu strategol ac ymgorffori cysyniadau trothwy yn golygu y gall myfyrwyr fynd ati go iawn i drin a thrafod syniadau â dyfnder a thrylwyredd.

Panopto 2 funud neu’n fyrrach ar gysyniadau trothwy: Sut i ddefnyddio cysyniadau trothwy yn rhan o arferion addysgu at ddibenion cefnogi dysgu.  

Rhestr o gyfeirnodau: