Skip to main content

Datblygu cwricwlwm

Addysg Gynhwysol: Blog Anabledd a Dyslecsia ar gyfer Cyfathrebu – Dr Ceri Morris

11 Rhagfyr 2023
Inclusive education
Rwy’n teimlo fel na alla i ofyn, bydd ai’n mynd ar nerfau pobl, a byddan nhw’n meddwl fy mod i’n dwp.”

Y peth mwyaf rhwystredig yw cyrraedd darlithoedd yn hwyr, a’r darlithwyr neu’r myfyrwyr yn gwgu arnaf – gorfod rhuthro i bobman, defnyddio drysau cefn, dod o hyd i’m ffordd i mewn i lifftiau, aros am yr un tŷ bach i bobl anabl sydd ar gael yn ystod yr egwyl. Ac yna gorfod eistedd ar ben fy hun ar flaen y ddarlithfa, heb gyfeillion.

Mae bod yn ddyslecsig yn golygu fy mod i fel system gyfrifiadurol. Mae fy ymennydd yn gyfrifiadur, a fy llaw yw’r argraffydd, ond maen nhw wedi’u datgysylltu oddi wrth ei gilydd.

(Dyfyniadau gan Fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, 2022)

Mae nifer y myfyrwyr anabl ym Mhrifysgol Caerdydd wedi codi dros y 5 mlynedd diwethaf, o ychydig o dan 4000 i 4,681 o fyfyrwyr yn 2022/3 (13% o boblogaeth y myfyrwyr).  Y categori mwyaf cyffredin ledled y DU yw ‘gwahaniaethau dysgu’ (er enghraifft, dyslecsia neu ddyscalcwlia), sy’n cynnwys mwy na thraean (35%) o ymgeiswyr anabl, ac yn cynrychioli 5% o holl ymgeiswyr y DU (UCAS 2022).

Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ceisio herio rhagdybiaethau meddygol ynghylch anabledd, ac yn awgrymu, er gall y cyflwr fod yn amhariad, bod anabledd yn cael ei greu can amodau cymdeithasol: hynny yw ‘anfantais neu gyfyngiad ar weithgareddau a achosir gan drefniant cymdeithas gyfoes nad yw’n rhoi fawr o ystyriaeth i bobl sydd â namau ac felly’n eu heithrio o brif ffrwd gweithgareddau cymdeithasol’ (UPIAS 1978).

Os byddwn yn rhoi’r model cymdeithasol ar waith ym maes addysg uwch, byddwn yn dechrau deall bod anabledd yn cael ei greu gan brosesau, gweithdrefnau ac arferion dysgu, addysgu ac asesu traddodiadol, a’r ffordd rydym yn trefnu a chyfathrebu, sy’n achosi rhwystrau i ddysgu a chyrhaeddiad ein myfyrwyr anabl. Er enghraifft, byddai gofyn am ddiagnosis neu asesiad cyn addasu’r ffordd rydym yn addysgu neu’n asesu yn enghraifft o ddefnyddio’r model meddygol, tra byddai dysgu hyblyg, cynhwysol neu ddysgu wedi’i ddylunio i fod yn gyffredinol yn enghraifft o’r model cymdeithasol.

Cwblhaodd Morina (2017: 5) adolygiad llenyddiaeth manwl o’r rhwystrau mae myfyrwyr anabl yn eu hwynebu, gan grynhoi’r profiad bywyd a ddangoswyd yn yr ymchwil felly: ‘Mae llwybrau’r myfyrwyr hyn yn aml yn anodd iawn, braidd yn debyg i ras rhwystrau, ac mae myfyrwyr hyd yn oed yn diffinio eu hunain yn oroeswyr a rhedwyr pellter hir’. Tynnodd sylw hefyd at y gyfradd ddatgelu isel ar gyfer ‘anableddau cudd’.

Comisiynodd Disabled Students UK (2023) astudiaeth yn ddiweddar o brofiad myfyrwyr anabl o Addysg Uwch a nododd chwe egwyddor a tharged allweddol i wella, er enghraifft ‘Dylai myfyrwyr anabl brofi diwylliant cadarnhaol yn eu sefydliad, sy’n hyrwyddo cynhwysiant, ymdeimlad o berthyn ac ymagwedd iach tuag at eu cynhyrchiant.’

Beth gallwn ni ei wneud? Y Continwwm Cymorth (AHEAD 2021)

Y Continwwm Cymorth

Mae addysg gynhwysol yn gofyn am gymorth di-dor sy’n ymestyn o’r ystafell ddosbarth i’r gwasanaethau cymorth ac sy’n cynnwys darparu addasiadau rhesymol. A ninnau’n athrawon mae angen i ni ystyried yn gyntaf yr haen isaf, sef ein cynllun dysgu cynhwysol a chyffredinol, ac yna ein cyfeirio a’n rhyngweithio â’r lefel uwch.

Awgrymiadau Defnyddiol: Pum Arfer Craidd ar gyfer Addysg Gynhwysol

Pe baem yn dilyn y pum arfer craidd hyn ar gyfer addysg gynhwysol yn unig, byddai ein nifer o addasiadau rhesymol yn gostwng 54%! Nid yw’r arferion craidd hyn yn cefnogi myfyrwyr anabl yn unig. Maent hefyd yn cefnogi’r rhai sydd â Saesneg yn Iaith Ychwanegol, a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, ymhlith llu o fyfyrwyr eraill.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu’r holl adnoddau ar gyfer eich sesiynau gan gynnwys PowerPoints a dogfennau 48 awr ymlaen llaw trwy Ultra.
  • Recordiwch bob darlith, a gwnewch yn siŵr bod gan fyfyrwyr y gallu i recordio sain eich sesiynau.
  • Ar gyfer seminarau neu sesiynau gweithredol eraill, darparwch nodiadau trwy Ultra, neu gofynnwch i fyfyrwyr grynhoi eu trafodaethau neu eu gweithgareddau.
  • Darparwch restrau darllen trefnus sydd ar gael ymlaen llaw, gan gynnwys llenyddiaeth sydd ar gael yn hawdd ar-lein neu trwy Ultra, ac sy’n nodi pa ddeunydd darllen sy’n hanfodol, dymunol a deunydd darllen ‘arall’
  •  Byddwch yn ymwybodol y bydd gan rai o’ch myfyrwyr anghenion meddygol a allai olygu efallai na fyddant yn gallu dod i’ch sesiynau , neu efallai y bydd angen iddynt adael y sesiynau’n gynnar

Ceir ragor o wybodaeth am ddysgu ac addysgu ar gyfer Anabledd a Dyslecsia yn ein gweithdai DPP ar 14 Rhagfyr 2024 neu 10 Mehefin 2025, y gellir cymryd rhan ynddynt yn anghydamserol. Mae yna hefyd Gaffi Byd ar y pwnc ar 7 Rhagfyr, lle cewch gyfle i siarad ag eraill, datblygu a rhannu arfer gorau mewn grwpiau trafod cymysg sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau ein hysgolion, ein rolau ac ein cyfarwyddiaethau. Gallwch ddod o hyd i’r holl fanylion ar gyfer cofrestru ar dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu. Bydd tudalen Pecyn Cymorth Anabledd a Dyslecsia yn cael ei chyhoeddi ar 15 Rhagfyr yn rhan o Thema Addysg Gynhwysol y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg

Am grynodeb cyflym o’r hyn y gallwch chi ei wneud a sut y gallwch chi gefnogi dysgu myfyrwyr sydd ag anabledd a/neu ddyslecsia yn eich sesiynau, cymerwch olwg ar y fideo byr gan Ceri ar Anabledd a Dyslecsia.