Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

‘Dewch i adnabod eich Darlithydd’ – cyfres o bodlediadau

11 Rhagfyr 2023

 

Gan Vikesh Chhabria, Darlithydd yn Ysgol y Biowyddorau.

Ydych wedi clywed y cwestiynau canlynol gan y rhai rydych chi’n eu tiwtora: “Byddwn i wrth fy modd yn gwneud Doethuriaeth gyda’r academydd hwn… Pa ymchwil maen nhw’n ei wneud? Sut ddaethoch chi yn academydd/ymchwilydd?” Mae’r atebion a’r gael ar bob proffil staff, ond mae’n well gan fyfyrwyr ddysgu’r wybodaeth hon trwy siarad ag aelodau o staff academaidd yn uniongyrchol a chlywed am brofiadau o’u bywydau. Gall hyn fod yn anodd gan fod rhai myfyrwyr yn dueddol o fod yn swil, yn enwedig os nad Saesneg yw eu mamiaith. Er yr ymdrech gan sefydliadau Addysg Uwch i fod yn gynhwysol, mae’n ymddangos bod anghydbwysedd yn bodoli rhwng staff a myfyrwyr.

Ydych chi’n teimlo weithiau eich bod chi’n dysgu mwy o gael sgwrs gyda chydweithiwr, neu efallai bod eich prosiectau ar y cyd wedi datblygu yn well dros baned o goffi? Er mwyn gwella’r teimlad o gymuned, rydym wedi creu cyfres o bodlediadau o’r enw “Dewch i adnabod eich Darlithydd ”. Mae’r prosiect yma yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfweld ag aelod o staff academaidd maen nhw’n ystyried yn esiampl o arfer da.

Mae’r defnydd o bodlediadau wedi dod yn adnodd amhrisiadwy i ehangu ein hymwybyddiaeth a chael gwybodaeth am ystod eang o bynciau. Fe wrandawodd tua 21 miliwn o bobl ar bodlediadau yn y DU yn 2022.

Ymhlith y nifer o bodlediadau sydd ar gael, mae’r gyfres “Dewch i adnabod eich Darlithydd” yn rhodd i fyfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y byd academaidd.

Gyda’r ail gyfres ar y gorwel, dyma’r amser perffaith i edrych yn ôl ar uchafbwyntiau o’r gyfres gyntaf a pharatoi ar gyfer y daith gyffrous o’n blaenau.

Cyflwynodd y gyfres gyntaf o ‘Dewch i Adnabod Eich Darlithydd” lu o addysgwyr o wahanol feysydd gan gynnwys anatomeg, ffisioleg, bioleg celloedd, ecoleg, biocemeg, niwrowyddoniaeth ymhlith llawer mwy, gan daflu goleuni ar eu cefndiroedd, hanes eu gyrfaoedd academaidd, a’u safbwyntiau unigryw. Roedd pob pennod yn rhoi cipolwg agos ar fywydau ac angerdd y darlithwyr hyn.

Gyda’r ail gyfres ar y gorwel, mae wir yn gyffrous i weld beth sydd ar y gweill i’w wrandawyr. Dyma gipolwg ar yr hyn y gallwch edrych ymlaen ato:

  • 10 academydd ym maes dysgu ac ymchwilio yn rhannu eu datblygiadau ymchwil diweddaraf
  • straeon ysbrydoledig
  • Trafod eu hymchwil/taith eu gyrfaoedd academaidd

Gwrandewch ar y podlediad

Gallwch wrando ar y podlediad yma neu drwy sganio’r cod QR

A ninnau’n dîm, rydym yn astudio’r effaith y mae’r ddwy gyfres hyn yn ei chael ar ein myfyrwyr. Rydym yn agored i syniadau newydd a chydweithio i fwrw ymlaen â’r prosiect hwn. Cysylltwch â mi, Vikesh Chhabria chhabriav2@caerdydd.ac.uk.

cod QR